
 |  | Drysu efo'r enw
Nofer antur yn gafael - ond enw'r prif gymeriad yn newid!
Dydd Iau, Mehefin 7, 2001
| Yr Arth Grisli gan Gary Paulsen (addasiad Esyllt Nest Roberts). Gwasg Carreg Gwalch. £2.99.

Adolygiad gan Meirion Puw Rees, 12 oed.
Ail lyfr yng nghyfres Byd o Beryglon gan Gary Paulsen ydi’r Arth Grisli ac mae’r stori wedi ei chyfieithu o’r Saesneg i’r Gymraeg gan Esyllt Nest Roberts.
Mae’r cyfieithiad yn un da ac yn defnyddio iaith addas fel nad ydi’r stori yn darllen fel cyfieithiad - ond, dylai’r cyhoeddwr fod yn ofalus gan fod Justin, y prif gymeriad, wedi ei alw’n Jason yn rhan fwyaf cyffrous y llyfr!
Stori arswyd Fel mae’r teitl yn awgrymu, mae hon yn stori arswyd sydd yn sôn am arth grisli. Mae’r plot yn y stori yma yn un addas i stori arswyd ac yn symud yn sydyn.
Mae Justin, bachgen 13 oed, wedi cael ei adael ar ei ben ei hun ar fferm ei ewythr Mac a phan fo’r arth grisli, sydd wedi lladd anifeiliaid ffermydd cyfagos, yn lladd anifail sydd yn annwyl iawn i Justin, mae o am ddial.
Ond, fel mae Justin yn darganfod, nid yw’r arth grisli yma yn arth arferol ac mae’n profi’n sialens iddo.
Tydi’r stori ddim yn hir ac mae digon yn digwydd ym mhob pennod i gadw diddordeb y darllenwr.
Y rhan orau o’r llyfr i mi oedd pan oedd Justin yn meddwl ei fod o’n hela’r arth pan oedd yr arth yn ei hela fo mewn gwirionedd.
Gwendid y llyfr yw ei fod yn rhy fyr ac felly does dim digon o gig ar yr asgwrn!
Mi fyswn i yn dweud fod y llyfr yn addas i blant 7 –11.
Gweler hefyd - Holi awdur
|  | 
|