
 |  | Nofel arbrofol
Ond nid gair am sâl ydi arbrofol y tro hwn
Dydd Iau, Mai 10, 2001
| Am Fod Seth yn Angel gan Aled Islwyn. Gwasg Gomer £7.95 Nofel arbrofol i oedolion.
Adolygiad Beth Angell

Ni chyrhaeddodd Seth fel angel yn y post ond yn hytrach fel bwrn!
Peidiwch â chamddeall doeddwn i heb agor clawr y nofel pan ffurfiais y farn hon .
Yn fy marn i mae nofel sydd yn cael ei disgrifio fel "arbrawf" fel arfer yn defnyddio y gair fel esgus dros fod yn llyfr sâl, ond nid dyna’r gwir y tro hwn !
Ymgolli yn y nofel Pan gefais fy hel gan fy ngwr i’r llofft i ddarllen y llyfr (yn debycach i dad yn fy siarsio i wneud fy ngwaith cartref) , gwnes hyn ag ebychiad ac yn ddi-fwynhad.
Dychmygwch fy syndod, rai oriau yn ddiweddarach, o sylwi imi fod ar goll yn y nofel ers oriau .
Mae hon yn nofel gyffrous. Hen air sydd yn cael ei or-ddefnyddio wrth ddisgrifio nofelau – ond y tro hwn, y gair perffaith.
Cawn hanes Seth , y prif gymeriad an-hoffus, a’i ddylanwad ar y bobl o’i gwmpas.
Pobl hunanol Mae’r bobl mae Seth yn ei amgylchynu ei hun a nhw yn bobl hunanol, di asgwrn cefn. Camp yr awdur y tro hwn yw iddo wrth greu nifer o gymeriadau, pob un yn afiach yn ei ffordd fach ei hun, lwyddo i gynnal diddordeb y darllenwr .
Yn amlach na pheidio y ffaith i ddarllenwr glosio at gymeriad sydd yn eich siarsio i ddal ati i ddarllen . Y ffaith eich bod am ddilyn ffawd rhyw gymeriad truenus neu weld cyfiawnder mewn sefyllfa anghyfiawn.
Mae yr awdur y tro hwn wedi creu stori ddarllenadwy a chwithau’n gwirioneddol eisiau gwybod beth sy'n mynd i ddod nesaf.
Pa gynllun afiach sydd ar y gweill a pha mor isel medra o suddo ac yna ei gyfiawnhau ei hun.
Os ydych chi wedi cael llond bol ar y straeon rhamant bondigrybwyll a’r straeon ditectif bondigrybyllaf yna dyma’r nofel berffaith i chi .
Os oes beirniadaeth i’w gwneud o’r llyfr yna y diweddglo agored yw hwnnw – ond dim ond rhywun di ddychymig fydd yn cael ei siomi!
O.N Dwi’n edrych ymlaen yn barod at Am Fod Seth yn Angel 2
|  | 
|