
 |  | Gweld sêr
Ond byddai mwy o lewyrch wrth beidio ceisio bod yn trendi Dydd Iau, Mai 10, 2001
| Rhyddhad? Casgliad o straeon byrion gan Marlis Jones. Gwasg Pantycelyn.
Adolygiad gan y Dr Non Indeg Evans
 Maen nhw'n dweud mai'r stori fer yw seren wib llenyddiaeth.
Yn anffodus, nid wyf yn cofio cael y profiad o weld seren wib ond byddwn yn dychmygu, er mor fyrhoedlog y profiad, y byddai'n gadael ei ôl arnaf.
Wedi darllen y gyfrol hon o ddeuddeg stori fer gan Marlis Jones, bûm yn ystyried a roddwyd i mi unrhyw brofiadau a adawodd argraff arnaf; a gynhyrfwyd ynof unrhyw deimladau neu emosiynau a fydd yn aros gyda mi.
Themâu oesol sydd i'r straeon.
Digon celfydd Trafodir pynciau megis unigrwydd, y berthynas rhwng pobl, dyhead unigolyn i gael ei dderbyn, cuddio teimladau a dylanwad y gorffennol ar y presennol.
Mae ymdriniaeth yr awdures o'r pynciau hyn yn ddigon celfydd.
Llwydda i bortreadu sawl cymeriad, sydd yn ferched gan amlaf, mewn modd sensitif.
Gallwn gydymdeimlo â Catrin a aeth ar wyliau tramor gyda'i thad a Michelle, ei bartner, yn y stori Gwyliau yn Sbaen.
Gwelwn sut y gallai cymeriad ansicr Catrin flodeuo wrth iddi gael sylw am y rhesymau cywir ond mae'r tro yng nghynffon y stori yn pwysleisio'r ffaith bod y gymdeithas yn gwneud iddi deimlo'n alltud.
Byw yn alltud Cymeriad arall a ddewisodd fyw yn unig ac alltud yw'r cymeriad yn y stori Yn ôl i Lansant.
Mae'r stori hon yn ennyn ein chwilfrydedd o'r dechrau, ond nid wyf yn credu mai bwriad yr awdures oedd gwneud i rywun chwerthin yn niweddglo'r stori hon, fel y gwnes i. Nid wyf am ddatgelu'r hyn a ddigwyddodd ond, yn sicr, roedd yn annisgwyl ac yn dipyn o sioc.
Ond efallai nad oedd y stori yn ei chyfanrwydd yn taro deuddeg yn llawn.
A dweud y gwir, ceir sawl awgrym neu sefyllfa yn y gyfrol a allai godi aeliau darllenydd - merch barchus yn cael ei llofruddio gan ddyn nad oedd yn llawn llathen, ac yntau yn wrthrych camdriniaeth rywiol ei hun; dwy fenyw sy'n troi at ei gilydd am gysur corfforol; gwraig sy'n llofruddio'i gwr gormesol; dau wr priod sy'n talu am ffafrau rhywiol tra maent ar wyliau.
Ceisio bod yn gyfoes Er bod digon o botensial yn y sefyllfaoedd hyn i greu straeon byrion cofiadwy, nid wyf o'r farn fod yr awdures yn gartrefol iawn yn ymdrin â'r math yma o bynciau gan nad oes ganddi brofiad ohonynt, a chaf yr argraff ei bod yn eu defnyddio er mwyn ceisio bod yn gyfoes.
Mwy llwyddiannus yw'r straeon symlach sy'n ymwneud ag emosiynau sy'n berthnasol i bawb ohonom. Mae Aduniad yn stori am wraig a ddychwelodd i'w hen gynefin yn dilyn ysgariad.
Dod i ddeall fod pobl yn newid gyda threigl amser a wnawn trwy gyfrwng y ddau gymeriad yn y stori, Gwen a Jane Clecs.
Dysgwn am y natur ddynol mewn straeon eraill hefyd. Mae Elin yn ymweld â chartre'r henoed ac yn methu adnabod Martha, hen fenyw a arferai fod yn adnabyddus yn y gymdogaeth fel person cymwynasgar oedd yn rhedeg siop y pentref.
Disgrifir siom Elin yn gelfydd, wrth i'r awdures gymharu'r profiad â chanfod siop ddillad ar gau a dadlennir llawer am greulondeb henaint trwy gyfrwng y ddelwedd.
'Y siom mwyaf oedd gweld y ffenest, a arferai fod yn lliwgar ddeniadol ac yn llawn bywyd, mor wag. Felly oedd llygaid yr hen wraig yma o'i blaen.'
Wynebu'r dyfodol Mwynheais hefyd y stori gyntaf yn y casgliad, Dacw alarch ar y llyn, lle’r oedd mam a merch mewn cyfyng-gyngor wrth benderfynu wynebu'r dyfodol.
Mae'r fam yn amddiffynnol o'i merch, ac ofn gadael iddi fynd, tra mae'r ferch yn ddall i anghenion y fam. Defnyddir y trosiad o'r cyw yn gadael y nyth i gyfleu'r sefyllfa yma, ond teimlwn fod y diweddglo braidd yn ystrydebol.
Ymddengys bod byd natur, ac adar yn arbennig yn bwysig i'r awdures. Ymysg ei disgrifiadau synhwyrus ceir sawl cyfeiriad at adar, ac mae gwylio adar yn ddiddordeb gan fwy nag un o'i chymeriadau.
Llwydda i gyfleu llonyddwch a bodlonrwydd cymeriadau wrth iddynt werthfawrogi byd natur.
Ni allwn beidio â theimlo y byddai'r straeon wedi bod yn fwy llwyddiannus pe bai'r awdures wedi tynnu rhagor o'i phrofiadau ei hun wrth ysgrifennu ac wedi osgoi mynd ar drywydd mwy 'trendi'.
Wedi dweud hyn mae Rhyddhad? yn gyfrol a fyddai'n apelio at nifer o ddarllenwyr Cymru.
Gall yr awdures ysgrifennu'n gelfydd, creu rhai cymeriadau cofiadwy a llwydda i gadw diddordeb y gynulleidfa gydag amryw o droadau diddorol yng nghynffon y straeon.
Ond yn bersonol, rwy'n chwilio am fwy na hynny mewn llenyddiaeth. Rwy'n chwilio am ôl y seren wib, ymhell wedi iddi ddiflannu o'm bywyd.
|  | 
|