
 |  | Ennill llyfrau
Pecyn o lyfrau i'r teulu yn dilyn cystadleuaeth Cymru'r Byd
Dydd Iau, Ebrill 5, 2001
| Y buddugol yn ein cystadleuaeth arbennig ar gyfer Diwrnod y Llyfr yw Linda Davage, Brook Cottage, Little Mill, Pont-y-Pwl.
Dywedodd Linda mai ei hoff awdur yw Cynan - "yr wyf yn dwli ar ei farddoniaeth - a Geraint V. Jones am Semtecs, Asasin ac Omega. Ac unrhyw beth gan Mihangel Morgan."
Bydd hi yn derbyn pecyn o lyfrau gan Gyngor Llyfrau Cymru a BBC Cymru’r Byd yn cynnwys • Llyfr y Ganrif• Dilyn 'Sgwarnoggan Annes Glynn - Nofel y Mis, mis Mawrth • Dwy gyfrol yng Nghyfres Dal y Gannwyll:Mewn Carchar Tywyll Du gan Lewis Morris a Gwenwyn yn y Gwaed gan Roy Davies • Hoff Gerddi Cymru • Geiriadur Gomer i'r Ifanc
Yr ail yn y gystadleuaeth yw Y Parchedig Hywel M. Davies, 4 Ponc y Fron, Llangefni, Sir Fôn, sy’n derbyn copi o Lyfr y Ganrif.
Enwodd ef Emrys Roberts yn hoff awdur Cymraeg a Dyddiau Gras yn hoff lyfr.
Mae gwobr hefyd o Hoff Gerddi Cymru a mat llygoden BBC Cymru’r Byd yn mynd i David Wood sydd yn byw yn Seland Newydd.
Yr atebion cywir i’r gystadleuaeth oedd: Annes Glynn - awdur Nofel y Mis ym Mawrth Meirion Macintyre Huws - Bardd Plant Cymru Brechdanau Banana a Gwynt ar ôl Ffa gan Myrddin ap Dafydd. Afallon y teithiodd Llion Iwan I Shangri La Yr oedd tri ateb derbyniol i gwestiwn 5 : Y bardd, Gwyndaf, gyfansoddodd y geiriau yr ias yng Ngruddiau’r Rhosyn yn wreiddiol, mabwysiadwyd y geiriau yn deitl i’w nofel gan Gwyn Llywelyn a’r cymeriad yn y nofel a deimlodd yr ias oedd Alun Edward Lloyd.
Yn ein cystadleuaeth i ysgolion yr enillydd Cymraeg yw Tomos Hywel, Maes yr Onnen, Capel Dewi, Aberystwyth
Dyma farn Tomos am ei hoff lyfr:
" 'Gem o ddau hanner' yw fy hoff lyfr. Roedd merch o'r enw Tracy wedi dod o Fanceinion i ysgol yng Nghymru. Roedd y merched yn ei dosbarth yn dipyn o hen swigws !!!(fel ma merched yn gallu bod!!!) Llwyddodd i wneud ffrindiau a bachgen gan ei bod yn gwybod gymaint am bel-droed. Roedd y llyfr yn ddoniol mewn mannau e.e. sôn am stumog Tracy 'fel petai eliffantod yn gwneud earobics yno' Rwy'n ffan o lyfrau Elgan Philip Davies."
|  | 
|