
 |  | Awdur plant yn ofni am ddyfodol y Gymraeg
Sylwadau ysgytwol gan T. Llew Jones - 'mae'n waeth nawr nag yn y chwedegau'
Dydd Iau, Mai 3, 2001
| Y mae un o awduron amlycaf Cymru wedi rhybuddio y gall tranc yr iaith Gymraeg fod yn agos iawn.
Mewn sylw ysgytwol dywedodd y Prifardd T. Llew Jones - sy’n cael ei gydnabod fel un o feistri canu caeth Cymru - ei fod ef yn llai calonogol ynglyn â dyfodol yr iaith Gymraeg heddiw nag oedd yn y chwedegau hyd yn oed.
Yr oedd T. Llew yn un o nifer o feirdd cadeiriol a oedd yn trafod eu hawdlau yng Ngwyl yr Academi Gymreig yn Nhy Newydd ger Cricieth yn ddiweddar.
A gweld yr ochr ddu i bethau a wnaeth ef mewn sylwadau ysgytwol wrth drafod y trysor gwerthfawr sy'n perthyn i ni Gymry Cymraeg a'r perygl o'i golli ef a'r iaith ei hun.
"Dwi'n dal i fod yn besimistaidd ac fel hen ysgolfeistr dwi wedi gweld y graff yn mynd lawr," meddai.
"Rwy'n cofio cyfnod pan oedd pob plentyn yn fy ysgol i'n siarad Cymraeg. Nid yn unig hynny ond o'n nhw'n Gymry cyhenid. Dwi wedi'i weld e'n mynd lawr," meddai ar y rhaglen radio, Y Celfyddydau, ar BBC Radio Cymru.
"Rwy'n meddwl fod yr awdl yma [sef ei awdl gadeiriol yng Nglyn Ebwy, 1958, i Gaerllion-ar-Wysg lle mae’r henwr yn cynghori’r gwr ifanc i gadw’n glir o gaer y Rhufeiniaid] yn fwy perthnasol i'r sefyllfa sy 'da ni heddi (nag oedd hi adeg ei chyfansoddi yn 1958).
"Mae gyda ni sianel newydd - tipyn bach o bropaganda yw hwn nawr. Wyddoch chi mae cymaint o Saesneg a bratiaith ar y sianel honno - rwy'n ofni yn wir dros y Gymraeg. Rwy'n ofni bod ei thranc hi yn ymyl nawr.
"A dwi'n teimlo hynna i'r byw - a dwi'n teimlo nad oes dim byd bellach allwn ni wneud oherwydd yn y cyfnod presennol yma mae rhywbeth mawr wedi digwydd.
"Rwy'n dweud wrthoch chi - yn y cyfnod y sgrifennwyd yr awdl yna yr oedden ni'n genedl a roedden ni'n poeni am Dryweryn, Adfer ar fin cael ei sefydlu ac yr oedd Cymdeithas yr Iaith ar waith 'da ni.
" Nawr rwy'n ei hofni hi.
"Dyw'r bobol ifanc ddim gyda ni bellach. A fel yna aeth y llanc ifanc i'r gaer ac rwy'n ofni bod ein pobol ifanc ni hefyd wedi mynd i'r gaer."
Dros ei 85 oed erbyn hyn y mae T. Llew Jones yn un o awduron mwyaf toreithiog Cymru gyda’i gyfraniad yn enfawr ym maes llenyddiaeth plant.
Cyhoeddodd dros gant o lyfrau i gyd yn nofelau, straeon, erthyglau ac yn gyfrolau barddoniaeth.
Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith a dyfarnwyd iddo radd er anrhydedd gan Brifysgol Cymru.
|  | 
|