
 |  | Paratoi am Steddfod y We
Annedd y Cynganeddwyr yn cynnig cerdd dafod yn lle clwy traed a genau
Dydd Iau, Ebrill 26, 2001
| Fu yna erioed ddim byd tebyg o'r blaen ond gydag Eisteddfodau yr Urdd, Môn a Phontrhydfendigaid ddim yn cael eu cynnal - heb sôn am yr amheuon ynglyn â'r Eisteddfod Genedlaethol - mae gwefan Annedd y Cynganeddwyr "wedi llamu i’r bwlch" a threfnu e-steddfod ar gyfer y beirdd.
"Am y tro cyntaf erioed mewn canrifoedd o eisteddfota, mae dirgel ffyrdd y drefn eisteddfodol wedi eu chwalu wrth i’r trefnwyr fanteisio ar uniongyrchedd a natur ryngweithiol y we.
"Yn groes i’r drefn arferol, mae modd i bawb ddarllen y cynnyrch wrth iddo gael ei ollwng o ddwylo’r beirdd a chael cyfle unigryw hefyd i gynnig eu sylwadau answyddogol ar y cynnyrch ymhell cyn i’r beirniad swyddogol wneud ei waith," meddai llefarydd.
Gosodwyd tair cystadleuaeth i gyd ac yr oedd degau o gynigion i’w gweld ar dudalennau’r Annedd o fewn ychydig ddyddiau i lansio’r Rhestr Testunau.
Beirniad y gystadleuaeth a phrif symbylydd yr e-gwyl yw ‘Y Bilwg’, un o breswylwyr chwedlonol yr Annedd.
Dywedodd: "Unwaith eto yn ein hanes, wele’r beirdd ar flaen y gâd, ac yn arwain y genedl tuag at wlad yr addewid."
Y dyddiad cau ar gyfer yr holl gystadlaethau yw Mai 1.
Am ragor o fanylion, cysylltwch â:
yprifgopyn@cynghanedd.com (trefnydd)
ybilwg@hotmail.com (y beirniad)
Eisteddfod Powys ar y We hefyd
Y mae gan Eisteddfod Powys hefyd gystadlaethau barddoniaeth arbennig ar-lein ar ei gwefan: Englyn, Limrig Cerdd Ysgafn yn Gymraeg 4 llinell i ddysgwyr Cerdd Ysgafn yn Saesneg 4 llinell i ddysgwyr.
Dyddiad cau: Ebrill 30 gan anfon ceisiadau trwy e-bost yn unig - penwythnos brysur felly!
Mwy o fanylion ar wefan yr Eisteddfod sydd wedi ei gohirio tan 2002 oherwydd clwy'r traed a'r genau.
Ei dyddiad newydd yw Gorffennaf 12 -14, 2002 gyda dyddiadau cau cystadlaethau'r Gadair, y Goron ac yn y blaen yn symud ymlaen flwyddyn.
"Nid yw y penderfyniad hwn yn effeithio ar y cystadlaethau barddoniaeth arbennig ar-lein a gyhoeddwyd ar wefan yr Eisteddfod ac atgoffir i'r beirdd sydd yn defnyddio'r Wê ac e-bost bod cyfle i gystadlu trwy'r amser ar y rhyngrwyd," meddai llefarydd.
|  | 
|