
 |  | Cyhoeddi'r un llyfr ddwy waith
Gomer yn arbrofi trwy gyhoeddi fersiwn arbennig o lyfr Cymraeg ar gyfer dysgwyr
Dydd Iau, Ebrill 19, 2001
| Adolygiad gan Anna Marie Robinson
Ar Goll yn y Coed gan Ian Beck - addasiad gan Helen Emanuel Davies. Gwasg Gomer. £3.95. 31 tudalen, lluniau lliw.

Mi Welais Long yn Hwylio gan Sian Lewis. Gwasg Gomer £4.95 yr un (dwy fersiwn, un i ddysgwyr).

Dyma'r trydydd llyfr mewn cyfres o anturiaethau gan Tedi, ond y cyntaf i gyrraedd ty ni.
Er mai dim ond blwydd a hanner ydy Magi mae'n mwynhau dilyn straeon trwy gyfrwng lluniau.
Lluniau yn dweud y stori A lluniau, yn sicr, yw un o gryfderau amlwg y llyfr hwn. Yn wir mae'r lluniau eu hunain yn dweud y stori, sy'n ei wneud yn addas iawn i blant sydd heb ddysgu darllen eto - ac yn ychwanegu at bleser y rhai sydd yn gallu.
Yn llenwi tudalen ac yn aml yn ddarlun dros ddwy, mae'r lluniau'n cyfleu personoliaeth hoffus Tedi. Aeth i lawr yn dda yn ty ni gan ei fod mor debyg i hoff dedi Magi.
Mae'r stori yn un hyfryd a chlasurol - un seml iawn am Tedi'n mynd ar bicnic efo'i berchennog, Lili.
Wrth i Lili chwarae mae Tedi'n cael ei lusgo i ffwrdd ar gortyn barcud ac yn glanio mewn coedwig - ac yn mynd ar goll.
Yn y goedwig daw ar draws picnic arall - efo dwsinau o dedis tebyg iddo fo'u hun - ac ar ôl mwynhau gwledd gyda nhw mae'n cael eu cymorth i ffendio'i ffordd yn ôl i'r picnic gwreiddiol cyn i Lili sylweddoli iddo fod ar goll!
Mae'r stori'n creu gwahanol emosiynau - o gyffro cael mynd am bicnic i bryder wrth i Tedi fynd ar goll a gorfoledd pan fo'n dychwelyd yn ddiogel.
Llyfr fydd yn ffefryn efo Magi am flynyddoedd gan y bydd hi’n tyfu efo fo, a ffordd ddelfrydol o gyflwyno'r gwanwyn i blant bach, a'r syniad o fynd am bicnic.
Mae'n siwr y bydd yn rhaid mynd i chwilio am y ddau lyfr arall yn y gyfres rwan - Ar Goll yn yr Eira ac Adre cyn Nos.
Mi Welais Long yn Hwylio gan Sian Lewis
Dyma gam newydd i Wasg Gomer - creu dwy fersiwn o'r un stori - un i blant sy'n dysgu Cymraeg a'r llall i blant iaith gyntaf.
Mae'r llyfr ar gyfer plant sy'n dysgu Cymraeg wedi cael ei sgwennu mewn iaith symlach gyda brawddegau byrrach gan wneud y stori'n hawdd iawn i'w dilyn.
Er mai Mi Welais Long yn Hwylio ydy teitl y llyfr, nid llongau'n hwylio yw canolbwynt y stori.
Hanes Megan yn mynd am wyliau i Abergwaun at ei thaid sydd yma, lle mae'n gallu gweld y llongau'n hwylio am Iwerddon a breuddwydio am ddod o hyd i neges mewn potel ar y traeth.
Ac mae 'na neges iddi - helfa drysor gan Taid. Wrth iddi ddilyn y map arbennig mae'n dod ar draws trysor arbennig iawn - crwban môr sydd ar goll ac angen ei achub - a dyna'n union mae Megan a'i thaid yn ei wneud drwy fynd a fo i'r Sw Môr er mwyn iddyn nhw ei anfon adre i Ganolbarth America.
Mae'n stori wreiddiol sy'n llawn digwyddiadau wedi eu gosod ar dudalennau lliwgar efo lluniau trawiadol. ac mae'n dal i ddatblygu hyd at y dudalen olaf.
Mi fydd plant yn siwr o hoffi'r atodiad yng nghefn y llyfr - sef map "go iawn" o'r byd yn dangos Cymru a Chanolbarth America.
Yn ogystal, ceir nifer o ffeithiau diddorol yn ymwneud â gwahanol agweddau o'r stori - er enghraifft hanes y crwban môr a gwybodaeth am longau fferi.
Syniad gwych sy’n ychwanegu at gefndir y stori.
Ynglyn â'r ddwy fersiwn wahanol: Yn sicr, mae'r ddau lyfr yn cynnig gwahanol safon o ddarllen (ac mae'r un i ddysgwyr yn cynnwys geirfa yn y cefn hefyd).
Nid yw'r un i ddysgwyr mor gyfoethog ei ddisgrifiadau a'i fanylion ac roedd braidd yn chwithig i mi ei ddarllen - dim hanner mor naturiol a'r fersiwn i blant Cymraeg iaith gyntaf.
Er nad ydw i'n arbenigwraig ar anghenion dysgwyr dwi'n siwr y bydd y fersiwn arbennig hon yn boblogaidd gyda rhieni sydd a'u plant yn dysgu Cymraeg gan ei fod wedi ei anelu atyn nhw yn benodol.
Ac mae'r llyfr ar gyfer plant iaith gyntaf yn sicr werth ei brynu gan fod deunydd darllen diddorol yma.
|  | 
|