
 |  | Bywyd llawn drama i anterliwtiwr
Cyhoeddi tri o anterliwtiau Huw Jones, Llangwm, gyda chyflwyniad i'w waith a'i gyfnod
Dydd Iau, Mawrth 29, 2001
|
Anterliwtiau Huw Jones o Langwm. Golygydd, A Cynfael Lake. Barddas. £14.95.

Adolygiad gan Aneirin Karadog
Cyfrol yw hon sy’n cyflwyno anterliwtiau - sef y dramâu hynny yr arferid eu perfformio ar sgwâr y dref, er enghraifft, yn y ddeunawfed ganrif.
Cynigir rhagymadrodd sydd fwy neu lai yn astudiaeth drylwyr ond dealladwy dros ben serch hynny, o dri o Anterliwtiau Huw Jones o Langwm.
Dywedir fod y gwr hwn, yn ei ddydd, yr un mor adnabyddus â Thwm o’r Nant, ein hanterliwtiwr mwyaf ni fel Cymry.
Mae’n amlwg, o ddarllen yr anterliwtiau fod gan Huw Jones o Langwm ddawn i adrodd stori, rhywbeth sy’n prinhau y dwthwn hwn yn anffodus.
Mae’n drueni mawr hefyd i gynnyrch Huw Jones o Langwm fynd yn angof yn hanes ein llên. Felly, ni ellir ond cymeradwyo cyfrol sy’n mynd i ddatgelu mwy o berlau’r iaith Gymraeg i’w siaradwyr presennol.
Baledwr a chyhoeddwr hefyd Ynghyd â’r anterliwtiau eu hunain, mae yn y llyfr ragymadrodd hynod ddifyr lle sonnir rhyw ychydig am weithiau eraill yr anterliwtiwr a oedd yn brydydd, yn faledwr, yn ogystal â bod yn gryn gyhoeddwr barddoniaeth.
Yn wir, cyhoeddodd y gwr hwn waith nifer o feirdd o Fôn - l Goronwy Owen er enghraifft.
Ond yn ôl at y rhagymadrodd: Ynddo, yn gyntaf, ceir hanes ei fywyd gan gyfeirio at nifer o englynion gan amryw o feirdd fel John Jones Caeronw, a luniwyd er coffâd iddo adeg ei farwolaeth.
Serch hynny, gan fod llawer o wybodaeth amdano wedi mynd ar goll gyda threigl amser, nid oes modd bod yn hollol sicr ynglyn â rhai o ffeithiau ei fywyd.
Er enghraifft, yn wahanol i’r hyn a gredai rhai pobl, cafodd Huw Jones ei eni tua 20au neu 30au’r ddeunawfed ganrif.
Y cysylltiad â Llangwm Er y dywed A. Cynfael Lake nad oes tystiolaeth gref i brofi mai yn Llangwm y cafodd yr anterliwtiwr ei eni ychwanega nad oes braidd ddim amheuaeth am ei gysylltiad â'r pentref.
Dywed sut yr aeth Huw Jones i’r carchar a sut y byddai teulu’r Morisiaid yn ei ddifrïo a’i alw’n nifer o bethau angharedig fel, ‘LlymgiLlangwm’, ‘chwigi’, ‘cettog o ddyn rhwydddiniwed’, ynghyd â rhai eraill na ddylid eu hynganu cyn deg o’r gloch y nos!
Dwy gyfrol bwysig Yn ail, yn y rhagymadrodd, sonnir am y ddwy gyfrol bwysig a gyhoeddodd.
Y gyntaf oedd Dewisol Ganiadau yr Oes Hon ym 1759 ond yn ôl Mr Lake nid oes llawer o wybodaeth ynglyn â hon ond y mae mwy o wybodaeth am ei ail gyfrol, Diddanwch Teuluol, a gyhoeddwyd ym 1763.
Mae hon yn cynnwys gwaith beirdd o Fôn, fel Goronwy Owen, Lewis Morris a Huw Huws y bardd coch ynghyd ag ambell i gerdd gan Robin Ddu, Sion Owen, Richard Morris ac eraill.
Yr oedd cyhoeddi yr adeg honno yn fenter gostus gydag ymateb y bobl fel arfer yn llugoer a dweud y lleiaf. Dyma englyn a luniodd Huw Jones yng nghastell y Waun oherwydd i’r meistr a’i weision wawdio ei ymdrechion llenyddol:
Y castell a’r saws sy’n costio ae’n danwydd a’r dynion sydd ynddo ar holl gyfoeth boeth y bo a chebyst i’r sawl ai achybô.
Enwog am ei faledi Wedi i’r golygydd sôn am gyhoeddiadau Huw Jones o Langwm, eir ymlaen i drafod ei faledi, unwaith eto, mewn modd sy’n ddealladwy ac apelgar i’r ysgolhaig ac i’r darllenydd cyffredin.
Er i’r anterliwtiwr dawnus hwn gyhoeddi cyfrol y gellir ei hystyried yn arloesol, o waith beirdd eraill, a chyfrol o’i waith ei hun, yr oedd yn llawer enwocach am ei faledi. Yr oedd yn ei elfen ac ar ei enwocaf tua 60au/70au’r ddeunawfed ganrif.
Mae’r hanes a geir yma yn ddiddorol ac, ar y cyfan, yn codi awch ar ddarllenydd i ddysgu mwy am y gwr arbennig hwn.
Eglwyswr selog Aiff Mr Lake ymlaen i sôn am yr anterliwtiau eu hunain - canolbwynt y gyfrol hon i bob pwrpas - a chynhwysir tri anterliwt a gyhoeddwyd rhwng 1762 a 1783, Hanes y Capten Ffactor, Histori’r Geiniogwerth Synnwyr, Protestant a Neilltuwr.
Yn naturiol, ceir yn y rhan o’r rhagymadrodd sy’n canolbwyntio ar yr anterliwtiau eu hunain, bob math o wybodaeth amdanynt yn amrywio o’r ffaith fod Huw Jones yn Eglwyswr selog beirniadol o fawrion Methodistiaeth fel Howel Harris, i’r nifer o benillion a ddosbarthai’r anterliwtiwr i’w hactorion.
Cefais fwynhad yn darllen yr anterliwtiau hyn. Maent yn ffraeth, yn ddifyr ac yn ddoniol, weithiau.
Gan mai Cymraeg y ddeunawfed ganrif yw Cymraeg yr anterliwtiau cynhwyswyd geirfa yn y cefn sydd yn hwyluso'r darllen gymaint.
Mae hwn yn llyfr sy’n profi fod y dywediad Saesneg, "don’t judge a book by its’ cover" yn wir - nid fod y clawr yn gwbl anapelgar ychwaith!
Ydych chi wedi darllen y llyfr hwn? Ebostiwch eich barn |  | 
|