
 |  | Ymchwil o bwys i bwnc dyrys
Taflu goleuni ar drefn ddyrys hen fwrdeistrefi Oes y Tywysogion
Dydd Iau, Mawrth 22, 2001
| Ystad y Goron yng Ngogledd Cymru 1282-1849. D.G.Lloyd Hughes, New Inn, Pencader.
Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyfrol xxxl. Pris £7 a chost post.

Adolygiad Ioan Mai Evans
Er yn byw yn y de ers rhai blynyddoedd un o fechgyn Pwllheli yw’r awdur ac hefyd yn awdur clasur o lyfr ar hanes y dref honno.
Rhaid cydnabod mai yn ystod hanner olaf y ganrif ddiwethaf y cawsom haneswyr a fedrodd daflu goleuni ar ddyrys drefnyddiaeth yr hen fwrdeisdrefi yn Oes y Tywysogion - a chydio yn un o gymhlethdodau'r cyfnod mae'r yrnchwilydd yma, sef y term, "Fee farm Rents (Rhenti ffi fferm).
Dyna'r enw ar y rhenti blynyddol a dderbyniai Llywelyn Ap Gruffydd.
Y ffaith i’r term ymddangos yn hanes yr hen fwrdeisdrefi a sbardunodd y cyn was sifil i fentro i faes yrnchwil oedd yn galw am gryn ymroddiad.
Mil o flynyddoedd Fel y cyfeiria yn y rhagair, mae i Ystad y Goron gefndir o fil o flynyddoeddt a phan gollodd Cymru ei hanibyniaeth yn 1282 aeth darnau ohoni yn rhan o'r Ystad.
Hawliodd y brenin ragor o daliadau yn ddiweddarach yn gymorthau a sawl dull nes cyrraedd yr uchafbwynt drwy gau yr Abatai yn yr unfed ganrif ar bymtheg.
Dull arall oedd sicrhau tiroedd rhai a fu farw heb ewyl1ys, troseddwyr, eiddo teyrnfradwriaeth fel a ddigwyddodd yn hanes Syr Rhys Ap Gruffydd a Syr John Perrot.
Cawn olwg ar ffynhonnell gyllidol werthfawrocach na'r enillion tirol; sef y brenin yn ennill y gallu a'r breintiau a berthynai i Lywelyn Ap Gruffydd yn y gogledd ynghyd a'r wrogaeth a berthynai i'r Tywysog.
Arian dirwyon Yn dilyn, ceir golwg ar dywysogaeth Llywelyn cyn y gostyngiad pryd y derbyniai arian dirwyon y llysoedd, tollau a rhenti tiroedd yn ogystal ag elw y marchnadoedd a'r ffeiriau.
Mae'r ymdriniaeth o'r cwmwd fel yr uned oedd yn sylfaen gweinyddu yr arglwydd Cymreig yn ddadlennol yn ogystal a'r un o'r treflannau.
Cawn wybod hefyd am y taliadau llai a gawsai'r brenin fel y Cymhorthau,Twnc, a Meis.
Afradlonedd a chostau rhyfeloedd Yn ail adran y gwaith ar Ddirywiad Ystad y Goron nodir mai afradlonedd Henry Vll a chostau rhyfeloedd yn erbyn yr Alban a Ffrainc a fu'n gyfrifol am y gostyngiad ac er i’r mab, Henry Vlll,godi £1,000,000 drwy werthu tiroedd yr abatai costiodd y rhyfel rhwng Ffrainc a Sbaen ddwbl hynny gan achosi cryn ostyngiad yn yr ystad.
Wrth drafod effeithiau Gwrthryfel Glyndwr cyfeirir at dwyll Thomas Barnelby y Siamberlen yng Nghaernarfon a gollodd ei swydd ond eto'i gyd a fu’n gwnstabl y castell hyd ei farw.
Daw’r gwendidau gweinyddol i’r golwg yn ddigon amlwg yn yr enghreifftiau ym Mhwllheli a Nefyn sy’n profi sawl pwnc.
Syfrdanol hefyd yw adroddiad Syr Thomas Wyn, Glynllifon, Archwiliwr Cyfrifon Cymru wedi i'r Llywodraeth gymryd gofalaeth Ystad y Goron.
Dyledion a chamweinyddu Wedi blynyddoedd o wynebu dyledion a chamweinyddu, meddyliwyd am y cominoedd fel moddion i ychwanegu at incwm tiroedd y goron.
Erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif penodwyd John Griffith, Llanfair Is Gaer, Sir Gaernarfon, yn Dderbynnydd Cyllid Tiroedd dros y rhanbarth a Brenianllaeth Caer.
Ganddo cawn gyfeiriadau at Eifionydd, Dinbych, Arllechwedd Uchaf, Llanl1echid a Dwygyfylchi, Môn a Phenrhyn Llyn.
Deil yr erthygl yr un mor ddadlennol i'r diwedd pan fo D.G.Lloyd Hughes, yn datgan rhyfeddod o feddwl na fu'r derbyniadau o Gymru dros y blynyddoedd ond ychydig o filoedd pryd yr oedd incwm y brenin dri chan mlynedd yn ôl tua £700,000 yn flynyddol o’r post brenhinol yn unig
Oes gennych chi sylw i'w wneud? Ebostiwch i ddweud |  | 
|