
 |  | Chaucer ar CD ROM
Y llawysgrif hynaf o'r Canterbury Tales yn y Llyfrgell Genedlaethol
Dydd Iau, Mawrth 22, 2001
| Y mae un o brif drysorau Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn awr ar CD-ROM - yr Hengwrt Chaucer.
Dyma’r llawysgrif hynaf o’r Canterbury Tales gan Geoffrey Chaucer, un o brif gampweithiau llenyddiaeth Saesneg yr Oesoedd Canol.
Bu’r llawysgrif hon yng Nghymru ers yr ail ganrif ar bymtheg o leiaf.
Ymchwil newydd Yn ôl ymchwil newydd gan ysgolheigion yng Nghaer-lyr a Sheffield, gellir tybio mai Chaucer ei hun oruchwyliodd beth o waith copïo a golygu y llawysgrif cyn ei farwolaeth ar Hydref 25, 1400.
Ffrwyth partneriaeth rhwng y Llyfrgell Genedlaethol a Phrosiect y Canterbury Tales, dan arweiniad y Dr Peter Robinson o Brifysgol De Montfort, yw’r CD-ROM.
Gyda chamera digidol a sgiliau technegol ei staff, mae’r Llyfrgell wedi creu’r delweddau electronig gorau posibl, o bob tudalen o’r llawysgrif hynod hon.
Mae’r lluniau llawn lliw hyn o safon mor uchel fel bod modd gweld yn eglur fanylion na ellid eu gweld â’r llygad.
Yn ogystal â ffacsimile digidol, bydd y CD-ROM yn cynnwys adysgrifau a thrafodaeth lawn o’r llawysgrif, gan gynnwys yr holl dystiolaeth newydd am sut a phryd y rhoddwyd y llawysgrif at ei gilydd.
Dod a'r gorffennol yn fyw Meddai’r Dr Ceridwen Lloyd-Morgan, arweinydd y prosiect yn y Llyfrgell:
"Mae’r prosiect cyffrous ac arloesol hwn yn dangos sut y gall y dechnoleg newydd ddod â’r gorffennol yn fyw.
Bydd y CD-ROM yn sicrhau bod gwaith Chaucer, a’r llawysgrif allweddol hon a gadwyd yn ddiogel yn Adran Llawysgrifau a Chofysgrifau’r Llyfrgell Genedlaethol ers ei sefydlu canrif yn ôl, ar gael i bawb mewn ffordd na fu erioed yn bosibl cyn hyn."
I gydfynd â’r dathlu, bydd llawysgrifau a llyfrau printiedig yn cynnwys gweithiau Chaucer yn cael eu harddangos yn y Llyfrgell Genedlaethol.
Cysylltiadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Canterbury Tales Project: Scholarly Digital Editions: Centre for Technology and the Arts, Prifysgol de Montfort:
Oes gennych chi sylw i'w wneud? Ebostiwch i ddweud |  | 
|