
 |  | Sawl blas mewn bag losin o gyfrol
Cymysgedd o gerddi yn amrywio o'r gwladgarol i'r prudd yng nghyfrol Emrys Roberts
Dydd Iau, Mawrth 15, 2001
| Harddwch yn dechrau Cerdded gan Emrys Roberts. Barddas.
 Adolygiad gan Mari George
Rhyw fag losin o gyfrol yw hon.
Sawl blas gwahanol at ddant pawb. Cymysgedd sydd yma o gerddi caeth a rhydd gyda rhai ohonynt yn y mesur gwers rydd cynganeddol.
Mae’r themau yn amrywio o’r melys, i’r chwerw a’r sur.
Cynhesrwydd bywyd teuluol Mae Emrys Roberts yn fardd ac yn awdur adbanyddus a'i ymdriniaeth o’r Gymraeg yn dangos hynny.
Dyma fardd nad yw’n ceisio bod yn arloesol yn ei bwnc na’i fesur. Cana o’r galon - y pethau hynny sy’n ei boeni, ei blesio, ei ddiddori ei gythruddo a’i arteithio.
Cawn flas ar gynhesrwydd ei fywyd teuluol yn y cerddi hyfryd i’w wyrion ac wyresau fel yn Hapusrwydd yn ddwyflwydd oed lle ceir disgrifiad o’i wyr bach yn dechrau siarad:
Cariad o wyr siaradus, ac arian Geiriau bach soniarus Yr iaith fel brithyll ar frys Yn deifio dros dy wefus.
Delweddau o fyd natur Byd natur sy’n cynnig ei hun yn ddelweddau i’r rhan fwyaf o’r cerddi ac mae hynny’n eu gwneud yn bleser i’w darllen.
Mae nifer o gerddi tebyg sy’n amlwg wedi rhoi pleser mawr i’r bardd.
Cerddi ychydig yn fwy cofiadwy i mi oedd y rhai am y Gymru gyfoes.Mae Croesawu’r Cynulliad yn felys chwerw ei naws wrth i’r bardd gymharu sefyllfa o lawenydd yn ein gwlad ni a sefyllfa boenus barhaus Iwerddon. Meddai:
Ar ddydd ein mawr lawenydd fe dalai inni gofio’r hanes am goeden cenedl.
Delwedd y goeden Mae’r ddelwedd estynedig o goeden yn effeithiol iawn wrth i ni weld ochr arall i’r blaguro gwanwynnol sef y pydredd a ddaw yn sgil gwenwyn yn y pren:
Eithr yng nghoeden yr aileni ers dydd ei hanadlu’n rhydd yn yr haul a thawel nos wyrthiol hualau’n syrthio, pery rhyfel y pryfaid anwel i wenwyno ei hegin hi er ei gwanwyn newydd.
Mae marc eu hangau hwy’n drwm ar y canghennau a heddiw ymleda’n ddolennau o ddu ar ddeilen yr Wyddeleg.
Angerdd at wladgarwyr Teimla’r bardd angerdd mawr tuag at gymeriadau gwladgarol fel y dengys y cerddi i Michael Collins ac Elfed Lewis. Wrth gwrs, cryf iawn yw’r englynion i Sion Aubrey e.e
Haearn i fêr un o Fon yw sialens, A sel dy gyfeillion, A fflam ddyfal dy galon Yw golau’r sêr yn glir, Sion
Ac o ddynion cadwyni yfory Bydd arwyr i’w moli; Yno’n eu pilth wrth enwi Dynion dewr bydd d’enw di.
Ffraethineb yn gryfder Cryfder y bardd yw ei ffraethineb wrth fynegi ei farn ar bwnc agos at ei galon.
Mae hyn yn cryfhau’r dweud fel yn y gerdd sy’n difrio’r Orsedd am beidio ag anrhydeddu Sion Aubrey cyn i Emrys Roberts, fu gynt yn Archdderwydd, ymddiswyddo yn 1994.
Geilw ei gydfeirdd yn ‘dwr o brifeirdd yn clochdar a brefu’.
Salwch ac iselder ysbryd Mae ochr ddwysaf y bardd i’w weld yn ei gerddi am salwch ac iselder ysbryd fel yn Gwaeledd lle mae’n ceisio ymladd pylau o dduwch:
Cael fy sugno beunos heb obaith am gwsg, a’m gwasgu yn nuwch tonnau afiach y twnnel I rowlio i rywle a llewygu o dan farn.
Daw teimladau dyfnaf dyn i’r wyneb yn Methu lle disgrifia’r bardd y rhwystredigaeth o deimlo’n fethiant llwyr oherwydd diffyg egni ac awydd ynghlwm â hiraeth am y gorffennol. Mae hon yn gerdd gref:
…mwy ysgeler, fel gwenwyn diferion pair gwiddon, gan ddwyn lwmp i’r gwddw, yw arswyd methu sgwennu’r un gair o werth, mor ddi-nerth a nant ar noson loergan yng nghanol ei dawns daer a rewyd yn stond.
Mae yma gerddi gwefreiddiol ynghanol casgliad cymysg iawn o ran naws.
Cerddi lliwgar i’w mwynhau yw’r rhan fwyaf, cerddi y galwch eu darllen drosodd a throsodd a gweld profiad newydd ynddynt bob tro.
Y gerdd a’m swynodd i fwyaf yw’r gerdd olaf, Colli, lle mae’r bardd ofn colli ei anwyliaid a’r pethau sy’n bwysig iddo:
Wyneb un yn arbennig wyneb annwyl yr hon a wyr mai’r un o hyd yw y geiriau: Rwy’n dy garu.
 |  | 
|