
 |  | Parti cydadrodd mwyaf Cymru
A darlith i'r Cynulliad a phob math o weithgareddau ar gyfer Diwrnod y Llyfr ar Fawrth 1
Dydd Iau, Chwefror 22, 2001
|
Dydd Iau Mawrth 1 yw Diwrnod y Llyfr
Dyma rai o'r pethau fydd yn digwydd
Parti cydadrodd mwyaf Cymru Ddydd Gwyl Dewi - sydd hefyd yn Ddiwrnod y Llyfr mewn dros 30 o wledydd - bydd y parti cydadrodd mwyaf a welodd Cymru erioed yn codi ei lais.
Mewn ysgolion ar hyd a lled Cymru bydd miloedd o blant yn adrodd gyda’i gilydd gerdd sydd wedi ei chyfansoddi yn arbennig gan Fardd Plant Swyddogol Cymru, Meirion Macintyre Hughes.
"Yr ydym wedi anfon y gerdd i bob ysgol yng Nghymru ac yn barod yr ydym yn gwybod y bydd yna o leiaf ddwy fil a hanner o blant yn adrodd y gerdd am unarddeg y bore," meddai llefarydd o Gyngor Llyfrau Cymru sydd yn cydgordio gweithgareddau Diwrnod y Llyfr yng Nghymru.
Ar daith i Iwerddon Ac fe fydd yna bob math o ddigwyddiadau nid yn unig ar hyd a lled Cymru ond y tu draw gyda phlant ac awduron o Gymru yn hwylio gyda’i gilydd yn ystod yr wythnos o Abergwaun ac o Gaergybi i Iwerddon.
Ar ddydd Llun, Chwefror 26, bydd o 80 o blant ac athrawon o 10 o ysgolion Môn yn teithio gyda naw awdur, darlunwyr a beirdd i Iwerddon.
Yn ystod y daith, bydd y plant yn cymryd rhan mewn gweithdai barddoniaeth a gweithgareddau eraill.
Wedi glanio yn Nulyn, ymunir a 100 o blant o ysgolion Iwerddon mewn canolfan gelfyddyd ganoloesol ar gyfer dathliad Celtaidd o lyfrau.
Disgwylir tua 300 o westeion gan gynnwys awduron adnabyddus o Iwerddon.
Ar ddiwedd y dydd, cyfnewidir anrhegion o lyfrau a fydd yn dangos cyfoeth llenyddiaeth plant o Gymru ac Iwerddon.
Yr awduron a’r arlunwyr fydd yn cymryd rhan yw: Myrddin ap Dafydd; Meirion MacIntyre Huws; Helen Emanuel Davies; Jac Jones; Tegwyn Jones; Rhiannon Ifans; Margaret Jones; Siân Lewis a Graham Howells. Awduron yn Iwerddon: Gerard Whelan; Soinbhe Lally; Larry O’Loughlin; Mike Moylan
Parheir y cyswllt ag Iwerddon ar y dydd Mawrth gyda 40 o blant o ddwy ysgol yn Sir Benfro yn hwylio rhwng Abergwaun a Rosslare gan gyfarfod â phlant o ddwy ysgol yn Wexford.
Yn ystod ail ran y fordaith hon, cyhoeddir Mi welais long yn hwylio, llyfr plant gan Siân Lewis a’r darluniau gan Graham Howells a gyhoeddir yn y Gymraeg a’r Saesneg fel rhan o gynllun ar y cyd rhwng Cyngor Sir Benfro a Gwasg Gomer.
Yn Rosslare byddant yn diddori cyfeillion o Iwerddon gyda chyflwyniad o’r llyfrau.
Darlith yn y Cynulliad Y diwrnod cyn Diwrnod y Llyfr, o fewn muriau mwy syber y Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd bydd Aiden Chambers yn traddodi darlith Diwrnod y Llyfr, The Power of the Written Word.
Y mae ef yn awdur sydd yn canolbwyntio ar sgrifennu ar gyfer rhai sy’n cael eu disgrifio fel "darllenwyr anfoddog - reluctant readers" acyn cael ei ystyried yn awdurdod ar lythrennedd a phwysigrwydd darllen.
Gwnaeth gryn argraff pan fu’n annerch cynhadledd llyfrau plant a drefnwyd gan y Cyngor Llyfrau yn Abergele y llynedd gyda’i bwyslais ar ddyletswydd y Llywodraeth i gefnogi a hyrwyddo llyfrau.
Gobaith y Cyngor Llyfrau, yn ddiamau, yw y bydd cynrychiolwyr o bob plaid wleidyddol yn y gynulleidfa am chwech nos Iau nesaf ac y bydd Haydn Chambers ddigon agos at y gwleidyddion i daro’r pared ei hun i’r pared glywed!
Llyfr i bob ymwelydd Menter ddiddorol gan Wasg Gomer ar gyfer y diwrnod yw sicrhau y bydd pawb sy’n glanio ym Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd y diwrnod hwnnw yn derbyn copi o lyfr newydd y wasg am Dewi Sant.
Llyfr Rwdlan newydd Llyfr arall o ddiddordeb i blant a fydd yn gweld golau dydd ar Ddiwrnod y Llyfr yw Cosyn, y diweddaraf yng Nghyfres Rwdlan gan Angharad Tomos a gyhoeddir gan YLolfa .
Bydd dathliadau Cosyn - y trydydd ar ddeg yn y gyfres - yn cynnwys y cymeriad Strempan "ac elfen gref o syrpreis" meddai'r wasg.
Mae’r Lolfa hefyd yn ailwampio ei gwefan i gynnwys dalen yn egluro’r broses o gyhoeddi llyfr mewn iaith ddigon hawdd i blant ei deall.
Ychwanegodd Mared Roberts, golygydd y Lolfa, nad Cosyn yw’r unig lyfr rwd-llyd y mae’r wasg yn ei baratoi ar hyn o bryd.
"Mae Angharad yn creu cyfres newydd o lyfrau am gymeriadau Gwlad y Rwla ar gyfer cynulleidfa iau na’r gyfres bresennol. Llyfrau dysgu darllen syml a hyfryd a fydd yn cael ei lefelu’n addas ar gyfer defnydd mewn dosbarth," meddai.
Ar yr awyr a chystadlaethau Bydd y BBC - gan Gynnwys Cymru’r Byd - yn ymuno a gweithgareddau Diwrnod y Llyfr hefyd.
Ar wefan Llais Llên yr ydym yn cyhoeddi heddiw wybodaeth am gystadleuaeth arbennig ar gyfer plant dan 12 oed gyda chwaraeydd CD a Radio ar y cyd yn brif wobr. Cliciwch
Yr wythnos nesaf bydd manylion am gystadleuaeth arall ar gyfer y teulu i gyd.
Ar Radio Cymru bydd rhaglen Dei a Hywel yn dod yn syth o Lyfrgell Dinbych ac y mae Adran Addysg BBC Cymru wedi trefnu i chwech o wahanol ddarlledwyr ddarllen pytiau o lyfrau rhwng rhaglenni ar Radio Cymru ac ar S4C yn ystod yr wythnos.
Mwy o fanylion ar Wefan Cyngor Llyfrau Cymru
|  | 
|