
 |  | Trysor am nawpunt
Syniad da iawn i'r rhai sy'n chwilio am anrheg.
Adolygiad o berthynas agos i Lyfr Mawr y Plant
Dydd Iau, Chwefror 15, 2000
| Adolygiad gan Elen Rhys: Syniad Da Iawn! Golygydd: Myrddin ap Dafydd. Gwasg Carreg Gwalch. £9
Ydych chi mewn picil beth i’w roi’n anrheg i’ch nain neu’ch nith? Ydych chi am gadw’ch wncwl neu’ch wyrion yn dawel am sbel? Wel, mae gen i Syniad Da Iawn i chi - cyfrol sy’n apelio at blant o bob oed!
Do, mae Myrddin ap Dafydd, y golygydd, wedi llwyddo unwaith yn rhagor i greu rysáit blasus inni gyd:
Y Cynnwys yw: Llond sach o straeon byrion Un stori gyfres Tri phennill ysgafn Chwech o gerddi gogleisiol Lluniau lliwgar a chartwnau difyr
Dull: Cael gafael ar bum awdur profiadol, poblogaidd, o gig a gwaed i ‘sgwennu storïau, penillion a cherddi. Bachu tri dylunydd dawnus i roi lliw a sbeis i’r print. Cymysgu maint y ffont - Ffont mwy i’r plant lleiaf (neu taid sy’ wedi colli ei sbectol) a ffont lai i’r plant hynaf.
Canlyniad? Llond bol o chwerthin ac ambell ddarn i gnoi cil drosto. Rhywbeth at ddant pawb!
Do, ges i flas ar ddarllen y gyfrol hon. Ac, ydy, mae’n glamp o gyfrol sy’n cynnwys 195 o dudalennau i gyd - cyfrol sy’n debyg iawn o ran pryd a gwedd i Llyfr Mawr y Plant. Rhyw wyres iddi, wedi ei gwisgo yn ffasiwn heddiw.
Yn wir, mae’r pedair stori am Jaco, yr Aderyn Traed Mawr a’i ffrindiau yn perthyn yn agos o ran arddull a chymeriadau i’r hen ffefryn Wil Cwac Cwac.
Cofiwch chi, Jaco, nid Wil, yw’r un drwg y tro hwn! Mrs Chwidl Chwadl a gawn ni yma’n hytrach na Martha Plu Chwithig a chrëwyd Ceidiog y Ceiliog i gymryd lle Sioni Ceiliog Glas yn ffrind i Jaco.
Ydyn, mae Jaco a Wil yn debyg iawn i’w gilydd, a pham lai? - gyda chyffyrddiadau hyfryd o wreiddiol gan Sioned Wyn Huws, mae’r storïau yma’n siw^r o weithio hefyd! ‘Sdim pwynt efelychu syniad gwael nag oes?
I'r plant lleiaf Ond yn ôl at weddill y cynnwys. I’r plant lleiaf (yn ogystal â Jaco) ceir pedair stori ddoniol gan Haf Llywelyn am Idwal sy’n mynnu mynd â Rosmari’r ddafad yn gwmni iddo i bob man.
Ar ben hynny, penillion ysgafn Gwyn Morgan sy’n siwr o’ch gadael mewn ffit o gigls gwirion.
A beth am y plant hynaf? Wel, stori gyfres wych mewn pum rhan gan Myrddin ap Dafydd, sef Y gog yn canu’n y gaeaf. Yma down ar draws aderyn yn dioddef gan ffliw Periw ac yn cael ei gynorthwyo drwy’r tywydd caled gan gymeriadau difyr fel Tylluan Wen, y Doctor Cwac, y Dryw Bach Barus - a hynny er gwaethaf bygythiad Tincar y Gath.
Cewch hefyd fwynhau tair stori unigol a cherddi gogleisiol.
Ie, dyma drysor o gyfrol am £9 sy’n siwr o adael plant Cymru o bob oed yn gyfoethocach!

Elen Rhys
|  | 
|