BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
News imageCymru'r Byd
News image
News imageLlais Llên
News imageAdolygiadau
News imageLlyfrau newydd
News imageAdnabod awdur
News imageGwerthu'n dda
News imageSôn amdanyntNews imagePwy di pwy?
News image
News imageY Talwrn
News image
News imageNewyddion
News imageChwaraeon
News imageY Tywydd
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adnabod awduradnabod awdur
Hedd ap Emlyn
Difyrrwch nid moeswersi

gwrandoHedd ap Emlyn yn sgwrsio gyda Gaynor Davies, BBC Radio Cymru, Ionawr 18, 2007

Rhoi mwynhad a chreu straeon sy'n ddifyr yw dyletswydd gyntaf y rhai hynny sy'n ysgrifennu ar gyfer plant yn ôl Hedd ap Emlyn un o'n cyfieithwyr llyfrau plant mwyaf profiadol.

"Un peth yr ydw i'n teimlo'n gryf amdano ynglŷn â llyfrau plant yw fod yn rhaid i blant fwynhau stori ar lefel stori heb gael athrawon yn tynnu'u perfeddion nhw'n racs a dadansoddi a chodi moeswersi ynddyn nhw," meddai wrth siarad am ei waith gyda Gaynor Davies ar BBC Radio Cymru, Ionawr 18, 2007.

Syrffedu plant
"Mae ambell i foeswers neu ddadansoddiad yn iawn - os nad yn bwysig - yma ac acw, ond rwy'n teimlo fod gormod o bwyslais yn cael ei roi gan rai ym myd addysg ar ddadberfeddu llyfrau yn hytrach na gadael i blant eu mwynhau a rhoi'r gorau i gyfrol ar ôl gorffen darllen a symud ymlaen i'r stori nesaf," meddai.

"Os ydyn nhw'n dadansoddi at syrffed mae'r plant yn mynd i gael syrffed ar y llyfr a'r stori," rhybuddiodd.

Mewn partneriaeth
Dywedodd Hedd ap Emlyn, sydd yn gofalu am lyfrgell Wrecsam wrth ei waith bob dydd, mai mewn partneriaeth â'i wraig Non y mae'n gwneud ei holl waith cyfieithu neu drosi ac iddynt drosi bron i 90 o lyfrau o'r Saesneg i'r Gymraeg dros y deng mlynedd diwethaf gan gydweithio'n bennaf â Gwasg y Dref Wen.

Mewn Cymraeg naturiol
Awgrymodd mai'r her wrth drosi yw cyfleu naws y cynnwys Saesneg gwreiddiol ond gwneud hynny mewn Cymraeg naturiol.

"Yr ydym yn gwneud yn siŵr nad ydym yn cyfieithu'n slafaidd ac yn cymryd ychydig bach, bach, o ryddid weithiau.

"Dydym ni ddim yn cadw'n gaeth at bob gair yn y stori - ond [yn sicrhau mai'r] un ydi'r stori yn y diwedd," meddai.

  • Cliciwch uchod i wrando ar y sgwrs gyflawn rhwng Hedd ap Emlyn a Gaynor Davies.

  • Sgyrsiau eraill Gaynor gydag awduron llyfrau plant


  • Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    adolygiadau
    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewchi'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy