BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
News imageCymru'r Byd
News image
News imageLlais Llên
News imageAdolygiadau
News imageLlyfrau newydd
News imageAdnabod awdur
News imageGwerthu'n dda
News imageSôn amdanyntNews imagePwy di pwy?
News image
News imageY Talwrn
News image
News imageNewyddion
News imageChwaraeon
News imageY Tywydd
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adnabod awduradnabod awdur
Gwyn Thomas
Dyn y Blaenau yn creu argraff
I gyd-fynd â chyhoeddi cyfrol ddiweddaraf Gwyn Thomas Bu Beti George o raglen radio Y Celfyddydau ar ymweliad a bro ei febyd ym Mlaenau Ffestiniog yn ei gwmni.

Ar gyfer y gyfrol, Blaenau Ffestiniog, cyfansoddodd Gwyn Thomas nifer o gerddi i gydfynd â lluniau o'r ardal gan Jeremy Moore.

Bu ymweld a gwahanol fannau yn y lluniau yn fodd i Gwyn Thomas, ein bardd cenedlaethol ar hyn o bryd, ac awdur 17 o gyfrolau, hel atgofion am y fro ar Y Celfyddydau.

Hefyd cafwyd cyfraniadau gan siaradwyr eraill fel Alan Llwyd, Dafydd Elis Thomas a John Ogwen am wahanol agweddau o fywyd a gwaith y bardd a'r ysgolhaig.

Cyhoeddwn ar y ddalen hon bytiau sain o'r rhaglen.

  • Capel a phictiwrs
    Dywedodd Gwyn Thomas mai dau o'r dylanwadau mawr arno pan yn blentyn yn yr ardal oedd y capel a'r pictiwrs.

    Ond ychwanegodd mai 'rafin' o gapelwr oedd o.

    Bu'n sôn hefyd am y sbardun fu'r pictiwrs i sefydlu giangiau cowboi gwrthwynebus i'w gilydd yn yr ardal gyda "rhyfel" wedi ei drefnu "ar ôl te" un noson.

    gwrandoY capel a'r pictiwrs - Gwyn Thomas yn siarad gyda Beti George ar Y Celfyddydau, Mawrth 28, 2007.

  • Cydfyfyriwr yn cofio
    Yr oedd y Dr R Alun Evans yn fyfyriwr ym Mangor yr un adeg â Gwyn Thomas ac yn ei gofio fel myfyriwr galluog ac ymroddgar a oedd yn codi cywilydd ar fyfyrwyr eraill llai gweithgar!

    gwrandoGwyn Thomas y myfyriwr - R Alun Evans yn sgwrsio gyda Beti George ar Y Celfyddydau, Mawrth 28, 2007.

  • Y darlithydd
    Yn 1961 penodwyd Gwyn Thomas yn ddarlithydd yn adran y Gymraeg yn ei hen goleg ym Mangor ac ymhlith ei fyfyrwyr cyntaf yr oedd Dafydd Elis Thomas -yr Arglwydd Elis Thomas, llywydd y Cynulliad erbyn hyn.

    Roedd ef yn cofio'i ddawn ddihafal i geryddu'n garedig!
    "Roedd ganddo y ddawn o fedru rhoi row i rywun. Er mod i'n esgus bod yn dipyn o athronydd mi fethais i Athroniaeth yn fy mlwyddyn gyntaf - ond roedd Gwyn yn . . . medru dweud y drefn ond efo'r wên arbennig yna ar ei wyneb," meddai.

    "Yr oedd yn ddylanwadol iawn arnom fel athro," ychwanegodd.

    gwrando Perthynas tiwtor a myfyriwr - Dafydd Elis Thomas yn sgwrsio gyda Beti George ar Y Celfyddydau, Mawrth 28, 2007.

  • Siarad ffwtbol
    Hawddgarwch ac anwyldeb Gwyn Thomas sy'n aros yng ngof yr actor John Ogwen, un arall o'i fyfyrwyr:

    "Dydw i ddim yn meddwl imi ddod ar draws person mwy annwyl a hawddgar yn fy mywyd," meddai.

    Ychwanegodd fod ganddo ef fel myfyriwr fwy o ddiddordeb mewn pêl-droed a chwaraeon nag yn ei astudiaethau llenyddol gyda Gwyn Thomas hefyd yn ymuno a'r diddordebau hynny hefyd.

    "Pêl droed - dyna oedd ein sgyrsiau ni. Doeddem ni ddim yn trafod yr hengerdd na barddoniaeth yr uchelwyr ond yn trafod Everton a Man U," meddai John Ogwen.

    gwrandoPêl-droed 'ta hengerdd? John Ogwen yn sgwrsio gyda Beti George ar Y Celfyddydau, Mawrth 28, 2007.

  • Bardd gwahanol
    Myfyriwr arall a fu wrth draed Gwyn Thomas ym Mangor oedd llanc ifanc o'r enw Alan Lloyd Roberts - sy'n adnabyddus fel Alan Llwyd erbyn hyn.

    "Roeddwn yn cael sgyrsiau maith efo Alan am farddoniaeth," meddai gwyn Thomas.

    Datgelodd Alan Llwyd yntau mai'r ffaith fod Gwyn Thomas yn yr adran a'i denodd ef yn fyfyriwr ym Mangor.

    Ychwanegodd mai Y Weledigaeth Haearn oedd y gyfrol gyntaf o farddoniaeth Gwyn Thomas iddo ei darllen.

    "Hwn oedd y llyfr agorodd fy myd i bosibiliadau newydd sbon yn y Gymraeg. Roedd y Gymraeg yn dueddol i ddilyn patrymau set ond roedd hwn fel pe byddai yn mynd ei ffordd ei hun . . ."

    gwrando Alan Llwyd yn sgwrsio gyda Beti George ar Y Celfyddydau, Mawrth 28, 2007.

  • Traddodiadol ac arbrofol
    Cyfeiriodd Alan Llwyd at y cyfuniad annisgwyl o'r traddodiadol a'r arbrofol ym marddoniaeth Gwyn Thomas "sy'n gartrefol ac yn llefaru'n uniongyrchol".

    "Mae'n ymddangos fel pe tae o ddim yn barddoni - neu yn dadfarddoni - ond barddoni mae o," meddai.

    gwrandoGwyn Thomas yn dadfarddoni - Alan Llwyd yn sgwrsio gyda Beti George ar Y Celfyddydau, Mawrth 28, 2007.

  • Barddoniaeth hawdd ei deall
    Un o rinweddau barddoniaeth Gwyn Thomas yng ngolwg llawer iawn o bobl yw ei bod yn hawdd i'w deall. Meddai Gwyn Thomas am hynny:
    "Cyn belled ag yr ydw i yn y cwestiwn rhaid i'r peth fod yn ddealladwy yn weddol sydyn . . . gan obeithio bod yna bethau eraill yno os ydi pobl eisiau chwilio amdanyn nhw.

    "Ond yn fy marn i rhaid i farddoniaeth ymwneud â theimlad yn y lle cyntaf yn ogystal â meddylwaith ac y mae cael y teimlad mae rhywun yn ceisio'i gyfleu yn weddol uniongyrchol wedi bod yn rhywbeth sydd wedi bod yn bwysig i mi o'r dechrau un," meddai.

    gwrandoGwyn Thomas yn trafod natur ei farddoniaeth gyda Beti George ar Y Celfyddydau, Mawrth 28, 2007.

  • Anodd eu hadrodd
    Ond er bod cerddi Gwyn Thomas yn ymddangos yn hawdd dydy nhw ddim yn rhai hawdd i'w llefaru yn ôl John Ogwen sy'n ceryddu eisteddfod yr Urdd am eu dewis mewn cystadlaethau.

    "Oherwydd eu bod yn meddwl fod cerdd ar destun cyffredin mae tuedd i feddwl bod y gerdd yn gyffredin - ond dydi hi ddim," meddai.

    gwrandoCerddi anodd eu dweud - John Ogwen sgwrsio gyda Beti George ar Y Celfyddydau, Mawrth 28, 2007.

  • Sylwadau disgyblion ysgol
    Bu disgyblion o Ysgol Brynrefail, Llanrug, a David Hughes, Porthaethwy, yn dweud beth oedden nhw'n i feddwl o farddoniaeth Gwyn Thomas.

    gwrandoBarn disgyblion ysgol - yn sgwrsio gyda Beti George ar Y Celfyddydau, Mawrth 28, 2007.

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Bywyd Bach - hunangofiant Gwyn Thomas

  • Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    adolygiadau
    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewchi'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy