
 |  | Holi awdur: Mici Plwm
Awdur y gyfrol ddiweddaraf yng Nghyfres y Cewri
Dydd Iau, Tachwedd 7, 2002 | Enw: Mici Plwm
Beth yw eich gwaith? Cyfarwyddwr Artistic,Theatr Ardudwy Harlech,Gwynedd.
Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud? Rwyf yn dal i gael cyfle i actio ar y teledu; radio a llwyfan o dro i dro. Pan fydd prysurdeb y gwaith yn Theatr Ardudwy yn caniatau fe fyddaf wrth fy modd yn teithio ac ysgrifennu.
O ble'r ydych chi¹n dod? Wedi fy ngeni a fy magu ym mhentref Llan Ffestiniog.
Lle'r ydych chi¹n byw yn awr? Dwi fel sipsiwn - does wybod ble i gael gafal arnai! Cnociwch ddrws yn unai Harlech; Caerdydd; Pwllheli neu ym mhentref Matochi,Ynys Agistri, Groeg
Pa ddigwyddiad roddodd fwyaf o bleser ichi? Bwyta fy nghyri cyntaf a dysgu sut i chwibanu heb boeri….
Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf? Dwedwch ychydig amdano. Gwasg Gwynedd yn fy mherswadio fod yna stori i'w dweud. Lyn Ebenezer yn cynorthwyo i groniclo a rhoi trefn ar bethau - a diolch iddo, mae'n ffrind da.
Braint ydi bod yn un o awduron Cyfres y Cewri o ystyried ma rhyw bum troedfedd a dim ydwi. Gobeithio bydd y cynnwys yn dangos bod "taith bywyd yn medru bod yn ddifir" - hyd yn oed os ma dim ond tystysgrif Special Arithmetic oedd ganddoch yn gadael yr ysgol.
Beth arall ydych chi wedi eu sgrifennu? Sgriptiau teledu; theatr a radio a erthyglau amrywiol i gylchgronau a llyfrau teithio…
Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn? Y Beibl
A fyddwch yn edrych arno'n awr? Byddaf yn eitha aml pan yn paratoi i fynd I annerch/bregethu ambell i Sul…
Pwy yw eich hoff awdur? Neb penodol. Er prysurdeb, yn darllen llawer mwy y dyddiau yma, yn enwedig yn y bwthyn yn Matochi, Ynys Agistri…
A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch? Na
Pwy yw eich hoff fardd? Mwynhau gwaith nifer o feirdd. Yn ddiweddar cael blas mawr ar waith Michael Davitt o Iwerddon.
Pa un yw eich hoff gerdd? Ma pob cân o waith Emyr Huws Jones ac Alun "Sbardun" Huws yn gerddi i mi….
Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth? Tydi Benllech ddim yn nefoedd enwedig yn yr Haf….
Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu? Ffilmiau: Wedi gwylio Saturday Night and Sunday Morning dros ddwsin o weithiau ac yn dal i fwynhau… Teledu: Rhaglenni dogfen da sydd yn plesio - ond mae yna ambell i glasur ymysg C'mon Midffîld hefyd..
Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth? Tydwi ddim wedi meddwl nac ychwaith ystyried y peth. Barti Ddu o Gasnewydd Bach yn gês ddwedwn i…
Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?. Tlws yw popeth bychan
Pa un yw eich hoff air? Pero
Pa ddawn hoffech chi ei chael? Yn ddiolchgar eithriadol am hynny o ddoniau ges i - ond mi faswn yn hapus iawn taswn i'n medru canu fel Gwyn Hughes Jones…
Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau? Hapus…. Bychan… Crwn.
A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan? Ma byw ar ben fy hun am flynyddoedd wedi fy ngwneud yn un twt iawn - ac yn annioddefol o annibynnol weithiau…
Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi¹n ei edmygu fwyaf a pham? Athro Hywel Teifi Edwards - person ffraeth gyda dawn dweud arbenig ac yn un annwyl iawn. Pleser a braint ydi bod yn ei gwmni dros beint neu ddau….
Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono? Unrhywbeth morwrol ond bod y cyfaill y diweddar Aled Eames yno hefyd…
Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu'n ei ofyn? Falch o gyfarfod nifer - tebyg y baswn i'n deud 'Helo' - dwi'n berson swil iawn nes byddai wedi dod i adnabod pobol. . .
Pa un yw eich hoff daith a pham? O Gymru i Ynys Agistri, Groeg…
Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd? Pysgod o'r môr wedi eu glanio yn harbwr Milos gan Aris a'u coginio gan ei chwaer, Katrina - eu golchi i lawr hefo krasi lleol…
Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden? Hwylio a theithio i ynysoedd
Pa un yw eich hoff liw? Brown fatha cyri…
Pa liw yw eich byd? Gwyrdd dwi'n ama…
Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi? Deddf Iaith bendant.
A oes gennych lyfr arall ar y gweill? Oes dau neu dri….
Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith llenyddol arall? Llaciodd Maldwyn felt ei drowsus ac fe darodd rechan wnaeth fymryn o blastar syrthio o nenfwd y gegin gefn. "Madras bendigedig," meddyliodd . . .
Adolygiad o Meical ddrwg o Dwll y Mwg |  | 
|