
 |  | Holi awdur:
Ian Rowlands
Golygydd casgliad o fonologau theatrig
Dydd Mercher,Mehefin 12, 2002 | Enw: Ian Rowlands
Beth yw eich gwaith? Cyfarwyddwr Artistig Theatr Gwynedd, Bangor.
Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud? Cyfarwyddwr Artistig Theatr y Byd, Cydlynydd Artistig Bara Caws ynghyd ‚ chyfarwyddwr hunan gyflogedig a dramodydd.
O ble'r ydych chiín dod? O'r Porth yng Nghwm Rhondda
Lle'r ydych chi'n byw yn awr? Yn dechnegol yng Nghaerdydd ond, am fy mod i'n gweithio ym Mangor, dwi'n teimlo fy mod i'n byw yng Nghrewe o ran yr amser wy'n dreulio yno!
A wnaethoch chi fwynhau eich addysg? Do a naddo. Doeddwn i ddim yn barod amdano ar y pryd.
Beth wnaeth ichi gyhoeddi eich llyfr diweddaraf? Dwedwch ychydig amdano. Ateb galwad oeddwn oherwydd prin yw'r monologau sydd wedi eu cyhoeddi yn y Gymraeg ac eto mawr yw'r galw amdanynt. Yn y gyfrol hon cawn gipolwg ar brosesau creu tri o'n hactorion mwyaf dawnus ar y cyd â'r monologau a gyflwynwyd ganddynt.
Pa lyfrau neu ddramâu eraill ydych chi wedi eu sgrifennu? Dramâu Llwyfan yn cynnwys: Heb eu cyhoeddi: The Sin Eaters 1992 ( a enwebwyd ar gyfer Writers' Guild Award) Solomon's Glory (1993). Y ddrama fer, The Ogpu Men A chyhoeddwyd gan Seren Books yn y gyfrol Act 1 Wales. Glissando on an Empty Harp (1994) Love in Plastic (1995) Blue Heron in the Womb (1997) (Cyhoeddwyd y tair uchod yn y gyfrol, Trilogy of Appropriation gan Parthian Books. Marriage of Convenience (1996) (Best Play Dublin Festival a Herald Angel Award yng Ngwyl Caeredin 1997 (Cyhoeddwyd yn y gyfrol, One Man, One Voice, gan Parthian Books. Ar gyfer y teledu, A Light in the Valley â enillodd Royal Television Society Award 1999.
Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn? Swallows and Amazons gan Arthur Ransome.
A fyddwch yn edrych arno'n awr? Gwell peidio.
Pwy yw eich hoff awdur? W G Sebald.
A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch? On the Road, pan ddarllenais ef yn bedair ar ddeg.
Pwy yw eich hoff fardd? Heblaw am fy ngwraig dach chiín feddwl?
Pa un yw eich hoff gerdd? Rhapsody on a Windy Night gan T.S .Eliot.
Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth? Distance is a matter of seeing - Gwyneth Lewis.
Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu? Ffilm: Hear my Song Rhaglen Deledu: Father Ted.
Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth? Hoff gymeriad: Lord Emsworth (Blandings Castle) Cas gymeriad: Yr Hollalluog Dduw.
Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir? There is nothing in the world that cannot be improved by cutting (Auberon Waugh).
Pa un yw eich hoff air? Pantperthog.
Pa ddawn hoffech chi ei chael? Y ddawn i ddiddanu parti drwy ganu'r piano.
Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
Moel Asthmatig Cymro.
A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan? Fy niffyg gallu i ddewis y sgidiau cywir i'w gwisgo pan af i Lundain.
Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham? Maelgwn Gwynedd. Am ei ddewrder - aberthodd ei hun er lles ei genedl drwy gau ei hun mewn eglwys am ei fod yn dioddef o'r clefyd melyn.
Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono? Rhyfel Cartref Sbaen.
Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi 'n ei ddweud neu yn ei ofyn? Y dyn a greodd Dduw. "Beth ddiawl ti'n neud?"
Pa un yw eich hoff daith a pham? O'r de i'r gogledd ar y bysus bach gan gychwyn o Abergwaun am naw y bore a chyrraedd Caernarfon am saith y nos. Cewch glywed y Gymraeg yn fyw, a'i chlywed yn ei thafodiaethau, ei chryfder a'i chyfoeth.
Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd? Sbageti gyda saws tomato (heb winwns ond gyda chryn dipyn o arlleg a chilli) a chaws Provolone drosto. I yfed, Badoit a gwin gwyn Maconaise (sa i'n yfed gwin coch).
Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden? Dringoír mynyddoedd am yr haul.
Pa un yw eich hoff liw? Melyn f'ystafell fyw ben bore.
Pa liw yw eich byd? Mmm - melyn am wn i.
Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi? I wahardd pwyllgora yng Nghymru.
A oes gennych lyfr neu ddrama arall ar y gweill? Newydd orffen addasiad llwyfan o'r Laxardal Saga (Un o sagas Gwlad yr Iâ) ar gyfer Clwyd Theatr Cymru. Mae gen i ddrama arall i'w hysgrifennu, Blink, rhyw valleys revenge tragedy fydd hi. Fel cyfarwyddwr, dwi ar fin gadael am Iweddon i gyfarwyddo Our Lady of Sligo gan Sebastian Barry. Ar ran Theatr Gwynedd, eleni byddaf yn cyfarwyddo Blodeuwedd (Saunders Lewis) Ta-ra Theresa - drama newydd gan Aled Jones Williams am fewnlifiad a Dan y Wenallt (addasiad T. James Jones o Under Milk Wood) yng ngwanwyn 2003.
Beth fyddaiír paragraff agoriadol delfrydol i nofel neu waith llenyddol arall? Maddau i mi am beidio â llythyru'n gynt ond dwi 'di bod mewn coma am chwech mis.
Adolygiad o Llais un yn Llefain |  | 
|