
 |  | Holi:
Gwerfyl Pierce Jones
Cyfarwyddwr Cyngor Llyfrau Cymru
Dydd Iau,Mawrth 14, 2002 | Enw: Gwerfyl Pierce Jones
Beth yw eich gwaith? Cyfarwyddwr Cyngor Llyfrau Cymru
Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud? Darlithio yn y Brifysgol a gweinyddu ym myd y celfyddydau.
O ble’r ydych chi’n dod yn wreiddiol? Caergybi, Ynys Môn
Lle’r ydych chi¹n byw yn awr? Penrhyn-coch ger Aberystwyth
Wnaethoch chi fwynhau eich addysg? Dyddiau difyr iawn, yn enwedig o edrych yn ôl!
Beth ydych chi yn ei ddarllen ar hyn o bryd? Llafur Cariad, Gareth Miles ac Atonement, Ian McEwan
Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn? Teulu Bach Nantoer . . . o orfod dewis un.
A fyddwch yn edrych arno’n awr? Heb wneud ers tro byd rhag difetha’r hud.
Pwy yw eich hoff awdur? Islwyn Ffowc Elis – am greu cynulleidfa newydd i’r nofel Gymraeg ac am ysbrydoli to newydd o nofelwyr.
Am pa lyfr fyddech chi’n dweud: "Mi hoffwn fod wedi sgrifennu hwnna?" Pob un sy’n rhoi pleser i mi.
Pwy yw eich hoff fardd? T. H. Parry-Williams
Pa un yw eich hoff gerdd? Cerdd goffa Gwyn Thomas (hoff fardd arall) i Parry-Williams
Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth? ‘Hi hen eleni y ganed.’
Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu? Ffilm: Dr Zhivago Teledu: rhaid i mi gael fy ‘fix’ nosweithiol o Newsnight!
Pwy yw eich hoff gymeriad a’ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth? Calista yn Gymerwch chi Sigarét? Capten Trefor yn Enoc Huws
Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?. Deuparth gwaith yw ei ddechrau.
Pa un yw eich hoff air? Gwnaf
Pa ddawn hoffech chi ei chael? Y ddawn i ganu’r piano.
Pa dri gair sy’n eich disgrifio chi orau? Dal i gredu!
A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan? Gromod o bethau i mi ddechrau rhestru!
Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi¹n ei edmygu fwyaf a pham? Nelson Mandela am ei weledigaeth ond yn bennaf oll am ei allu i faddau.
Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono? Dymchwel wal Berlin. Bod yn rhan o’r cyffro a’r gobaith.
Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn? Dafydd ap Gwilym. A minnau’n byw o fewn tafliad carreg i’w gynefin, byddwn am wybod mwy am helyntion ei fyw – Morfudd, Dyddgu, y Bwa Bach a’r cyfan i gyd!
Pa un yw eich hoff daith a pham? Y daith i fyny i Sir Fôn – oes angen dweud pam?
Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd? Bwyd môr, gwin gwyn sych a chwmni ffrindiau.
Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden? Darllen, mynychu’r theatr a’r sinema, crwydro – ond mae amser hamdden yn brin.
Pa un yw eich hoff liw? Gwyrdd
Pa liw yw eich byd? ’Wn i ddim. Ond mae’n siwr o fod yn llai du a gwyn gyda threigl y blynyddoedd.
Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi? Deddf i amddiffyn yr henoed a’r gwan.
Pe byddai gennych yr hawl i wahardd unrhyw lyfr pa un fyddai o - a pham? Gwahardd ddywedsoch chi? Dim peryg!
Pa mor ffyddiog ydych chi ynglyn â dyfodol llyfrau a darllen? Yn gwbl ffyddiog. Os yw J. K. Rowling a Philip Pullman (enillydd Gwobr Whitbread eleni, 2002) wedi profi unrhyw beth, y maent wedi profi apêl oesol stori dda.
Beth fyddai’r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith llenyddol arall? Mae’n anodd curo brawddeg agoriadol Enoc Huws, Daniel Owen!
A’r frawddeg i gloi? I’w barhau . . .
|  | 
|