
 |  | Adnabod Awdur:
Gruffydd Meredith
Awdur llyfr am hypocondriac alcoholaidd
Dydd Iau, Ionawr 24, 2002 | Enw: Gruffydd Meredith
Beth yw eich gwaith? Cemegydd bydenwog
Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud? Twtio ychydig bach ar y ty.
O ble’r ydych chi¹n dod? Ardal Y Bala
Lle¹r ydych chi¹n byw yn awr? Yn y cut hel ticeds sydd ar y Cob, Porthmadog.
Wnaethoch chi fwynhau eich addysg? Dwi’n dal i ddysgu.
Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf? Dwedwch ychydig amdano. O ni isio adlewyrchu y panic oedd pobl yn deimlo ar ddiwedd y ganrif/mileniwm dwytha oedd yn cydfynd a’n meddyliau i a jist trio adlewyrchu pa mor rhyfedd ma bywyd a pobl yn gallu bod ac i lle mae dynoliaeth yn mynd?
Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?Y Testament Newydd ac Anturiaethau Twm y Byji.
Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn? Barti Ddu gan T. Llew Jones. Anturiaethau Dafydd ap Siencyn.
A fyddwch yn edrych arno’n awr? Oregano.
Pwy yw eich hoff awdur? William Sutcliffe/ Gruffydd Meredith.
A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch? Oes
Pwy yw eich hoff fardd? Zak Ferraro.
Pa un yw eich hoff gerdd? Mynnwch gael gwasanaeth da mewn siopau.
Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth? Pam bo ni’n cael ein labelu’n genedlaetholwyr ffasgaidd budr jist co de ni isio hunan lywodraeth i Gymru?
Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu? Teulu’r Mans.
Pwy yw eich hoff gymeriad a’ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth? Ail gylchwch eich sbwriel.
Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?. Dinas a osodir ar fryn ni ellir ei chuddio.
Pa ddawn hoffech chi ei chael? Codi’n gynnar.
Pa dri gair sy’n eich disgrifio chi orau? Dawnus Anhygoel Twat.
A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan? Fy nhuedd i gael ffantasis amdan Margaret Thatcher ar nosweithiau unig.
Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi¹n ei edmygu fwyaf a pham? Fidel Castro.
Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono? Dwi’n aros iddo fo ddigwydd.
Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn? Byswn yn licio gofyn i George Bush, Saddam Hussein a Putin ddod am sesh i’r Bala a sotio’i s**t nhw i gyd allan.
Pa un yw eich hoff daith a pham? Siwrne loc in ffordd gefn bump y bore.
Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd? Brithyll gwyllt.
Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden? Ynni naturiol i Gymru i gyd, rwan.
Pa un yw eich hoff liw? T-lith.
Pa liw yw eich byd? E?
Beth sy’n eich rhoi mewn tymer ddrwg beth cyntaf yn y bore? Codi’n gynnar.
A beth sy’n eich rhoi mewn tymer dda? Pan mae genai bres i fyta.
Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi? Deddf banio Twm Morys o’r teledu.
A oes gennych lyfr arall ar y gweill? Na, dim rili.
Beth fyddai’r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith llenyddol arall? Chwythwch fyny Pobl y Cwm rwan. Mae’n embarasment i Gymru.
Darllenwch yn awr am Dyddiadur Alci Hypocondriac |  | 
|