
 |  | Adnabod Awdur:
Fflur Dafydd
Golygydd newydd Tu Chwith
Dydd Iau, Ionawr 10, 2002 | Enw: Fflur Dafydd.
Beth yw eich gwaith? Golygydd Tu Chwith.
Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud? Myfyrwraig llawn amser. Ysgrifennu doethuriaeth ar hunaniaeth ôl-drefedigaethol ym marddoniaeth R.S. Thomas.
O ble¹’r ydych chi¹n dod? Llandysul.
Lle¹r ydych chi¹n byw yn awr? Porthaethwy.
Wnaethoch chi fwynhau eich addysg? Mas draw.
Pam golygu cylchgrawn? Cyfle i ddatblygu sgiliau creadigol newydd, a chyfle i osod stamp personol ar gyhoeddiad safonol.
Ydych chi wedi cyhoeddi llyfr? Dim ond cyfrol Medal Lenyddiaeth yr Urdd, Y Gwir am Gelwydd ym 1999.
Pwy, yn fwy na neb, hoffech chi ei holi ar gyfer eich cylchgrawn? (Heb ateb)
Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn? Tomi a’r Planhigion.
A fyddwch yn edrych arno’n awr? O byddaf. Ffordd o gadw perspectif!
Pwy yw eich hoff awdur? Ar hyn o bryd, Margaret Atwood, ond mae’n amrywio o fis i fis. Ian McEwan hefyd yn ffefryn. A Milan Kundera.
A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch? The Outsider gan Albert Camus. Y llyfr gorau erioed. Minimalistaidd, oeraidd, yn llawn gwirionedd ac yn brwydro yn erbyn cam-ddehongliadau cymdeithas. Blasus iawn.
Pwy yw eich hoff fardd? R.S. Thomas, wrth gwrs.
Pa un yw eich hoff gerdd? Ann Griffiths, gan R.S. Thomas.
Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth? Fall, gall themselves, and gash gold-vermilion, allan o The Windhover gan Gerard Manley Hopkins. Mae sain a delwedd y geiriau yn hyfryd iawn iawn.
Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu? Shallow Grave a I’m Alan Partridge.
Pwy yw eich hoff gymeriad a’ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth? Hoff gymeriad yw Meursault o The Outsider. Cas gymeriad yw Monica, Saunders Lewis.
Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir? Gan y gwirion ceir y gwir.
Pa un yw eich hoff air? Bloneg.
Pa ddawn hoffech chi ei chael? Chwarae offeryn pres.
Pa dri gair sy’n eich disgrifio chi orau? Byr. Blond. Boliog.
A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan? Dim pen ôl. Dim aeliau go iawn. Methu rheoli arian. Atynu pobl od.
Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi¹n ei edmygu fwyaf a pham? Simone Weil. Dewrder aruthrol.
Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono? Fe fuasai’n braf cael bod yn aelod blaenllaw o’r Gymdeithas yn ystod y 70au - ymgyrch Blaenplwyf ag ati. Cael teimlo bod rhywbeth yn bosib ei gyflawni…a chael bod yn rhan o ymgyrchu tanbaid…
Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn? Dwi’n difaru na chefais erioed y cyfle i gwrdd ag R.S. Thomas. Hoffwn ofyn iddo i ba raddau y mae’n cytuno gyda theorïau ôl-drefedigaethol am hunaniaeth ‘gymysg’- a yw e’n credu bod modd i ni ddeall ein hunain yn well trwy theori? Efallai’n wir ei fod yn credu mai nonsens llwyr ydi hynny...!
Pa un yw eich hoff daith a pham? Y daith o Gastell Newydd Emlyn i Landysul. Mae’n braf cael teimlo fel hambon weithie. Mae’n fy atgoffa i o nosweithiau gwyllt mas yn y Clwb Rygbi a’r anhawster bob tro wrth geisio cyrraedd adre … dyddie da…
Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd? Pasta a Pesto. Fi’n methu blasu llawer ond mae’r lliw yn gwneud y pryd…mmmm…
Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden? Chwarae’r piano. Trwy’r dydd, bob dydd. . Pa un yw eich hoff liw? Melyn.
Pa liw yw eich byd? Pinc.
Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi? Dim ffi am unrhyw fath o addysg.
A oes gennych lyfr arall ar y gweill? Oes. Ond mae’r cynnwys yn gyfrinachol….comedi du…!
Beth fyddai’r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith llenyddol arall? Pan ddeffrois i bore ma, ro’n i mewn hamper.
Darllenwch yn awr am Tu Chwith
|  | 
|