
 |  | Adnabod Awdur:
Dafydd Meirion
Awdur Pi-Ar, llyfr dychanol am fyd cysylltiadau cyhoeddus
Dydd Iau, Ionawr 3, 2002 | Enw: Dafydd Meirion
Beth yw eich gwaith? Cynhyrchydd ar wasanaeth rhyngrwyd y BBC
Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud? Perchennog busnes cyhoeddi, cysodi a dylunio, partner mewn gwasg argraffu, cynhyrchydd teledu, rheolwr cwmni cysylltiadau cyhoeddus, rheolwr datblygu cymdeithas dai, newyddiadurwr efo’r BBC
O ble’r ydych chi¹n dod? Cael fy ngeni yn Y Bala; symud I Lanrug, Arfon, pan yn wyth oed.
Lle’r ydych chi¹n byw yn awr? Penygroes
Wnaethoch chi fwynhau eich addysg? Dim felly, mwynhau’r hwyl gyda’m cyd-ddisgyblion.
Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf? Dwedwch ychydig amdano. Roeddwn i’n gweithio fel newyddiadurwr efo Cymry’r Byd ac yn aml ddim yn dechrau gweithio tan ddau y pnawn. Felly, gan nad ydwi’n da i ddim yn yr ardd neu’n gosod silffoedd mi benderfynais fynd ati I sgwennu llyfr! Methais wneud fawr a’r syniadau cyntaf ond mi ddaeth Pi-Ar o rywle!
Llyfr ydy o am helyntion dau’n dechrau busnes cysylltiadau cyhoeddus yng Nghaernarfon.
Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu? Y Tebot Piws yng nghanol y 1970au. Tri llyfr coginio (dan ffugenw wrth gwrs!)
Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn? Llyfrau Biggles
A fyddwch yn edrych arno’n awr? Na.
Pwy yw eich hoff awdur? Spike Milligan, Dafydd Huws, Twm Miall, Roddy Doyle.
A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch? Dyddiadur Dyn Dwad
Pwy yw eich hoff fardd? Fawr ddim I’w ddweud am farddoniaeth ond yn cael blas mawr ar waith Myrddin Williams, awdur Dildo Anti Nel.
Pa un yw eich hoff gerdd? Dildo Anti Nel.
Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth? Yn Nhyn Llan mae cwrw llwyd Mae o’n ddiod ac yn fwyd.
Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu? Ffilm: The Commitments Teledu: Ddim un yn arbennig
Pwy yw eich hoff gymeriad a’ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth? Hoff: Goronwy Jones (Dyn Dwad) Cas: Rheolwr y siop garpedi (Dyn Dwad)
Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?. I’r pant y rhed y dwr.
Pa un yw eich hoff air? Diolch.
Pa ddawn hoffech chi ei chael? Gallu chwarae’r gitar fel Eric Clapton.
Pa dri gair sy’n eich disgrifio chi orau? Nid y fi ydy’r person gorau i ateb hyn.
A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan? Dim yn arbennig.
Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi¹n ei edmygu fwyaf a pham? Owain Glyndwr - am gadw’r fflam ynghyn.
Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono? Gunfight at OK Coral (yn edrych ar y cyrion!)
Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn? Llywelyn ein Lliw Olaf - oedd raid iti fynd I Gilmeri?
Pa un yw eich hoff daith a pham? O Drawsfynydd i’r Bala. Mi fyddai’n hoffi ymweld â’r Bala gan fod gennyf deulu yno ac mae hi’n ffordd dda i bwyso’r droed ar y sbardun
Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd? Cyri da o dy bwyta Indiaidd
Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden? Cerdded, beicio, sgwennu a mynd am beint.
Pa un yw eich hoff liw? Coch.
Pa liw yw eich byd? Melyn.
Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi? Mae gen i restr hir - fyddai dim amser gan San Steffan na’r Cynulliad.
A oes gennych lyfr arall ar y gweill? Cymry Gwyllt y Gorllewin (Y Lolfa) am Gymry aeth I America yn y 19eg ganrif a dod yn gowbois, dynion drwg, ymladd a’r Indiaid ac ati; a nofel dditectif ddoniol.
Ac efallai llyfr cerdded arfordir Mon.
Beth fyddai’r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith llenyddol arall? Wedi i mi ennill miliwn o bunnau o fy nofel gyntaf mi es ati i sgwennu un arall.
Darllenwch yn awr am Pi-Ar
|  | 
|