 Enw: Jon Gower - gohebydd celfyddydau y BBC yng Nghymru
Beth yw eich gwaith? Newyddiadurwr
Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud? Labrwr, gweithio mewn gwarchodfa natur, cynhyrchydd radio, cyflwynydd teledu
0 ble¹’r ydych chi¹n dod? Pwll, Llanelli
Lle¹r ydych chi¹n byw yn awr? Canol Caerdydd
Wnaethoch chi fwynhau eich addysg? Blynyddoedd gorau ‘rioed
Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf? D’wedwch ychydig amdano. Darllenais erthygl yn y Times am ynys fechan Smith ym Mae Chesapeake yn America a storio’r darn. Yna enillais wobr John Morgan oedd wedi caniatau i mi dreulio amser yn ymweld ac ynys Smith.
Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu? Big Fish - cyfres o straeon byrion. Wedi golygu Homeland, A Year in a Small Country a Wales: In Our Own Image.
Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn? Lord of the Rings
A fyddwch yn edrych arno’n awr? Buaswn - ond ma na gymaint o lyfrau eraill i’w ddarllen
Pwy yw eich hoff awdur? James Lee Burke
A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch? Their Eyes Were Watching God gan Zora Neale Hurston
Pwy yw eich hoff fardd? Elizabeth Bishop
Pa un yw eich hoff gerdd? Poem gan Elizabeth Bishop
Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth? "Old ladies can wind their long hair in this language and can hum and knit pancakes" allan o gerdd Jan Harold Holm am yr iaith yng Ngwlad yr Iâ.
Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu? Ffilm: Napoleon - yr un cynnar o’r dauddegau Ar y sgrîn fach: Later with Jools Holland.
Pwy yw eich hoff gymeriad a’ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth? Zorba the Greek yn y nofel gan Kazantzakis yw fy hoff un aSauron o Tolkien yw’r cas gymeriad
Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?. Cas gwr nas caro’r wlad ei maco.
Pa un yw eich hoff air? Cariad
Pa ddawn hoffech chi ei chael? Chwarae’r piano.
Pa dri gair sy’n eich disgrifio chi orau? Brwdfrydig Mawr Egniol
A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan? Fy mhwysau
Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi¹n ei edmygu fwyaf a pham? Mam - am ei chryfder a’I thynerwch.
Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono? Plentyndod dadcu
Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn? Y cyfansoddwr Sibeliws a diolch iddo am ei bumed symffoni
Pa un yw eich hoff daith a pham? Gartre ’rôl bod i ffwrdd am hir.
Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd? Corgimwch wedi eu coginio da lemwn a garlleg.
Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden? Darllen, cerdded ac yfed cwrw.
Pa un yw eich hoff liw? Du
Pa liw yw eich byd? Melyn
Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi? Rhannu arian yn deg rhwng pobl
A oes gennych lyfr arall ar y gweill? Oes - nofel arswyd a llyfr ffeithiol am y Somaliaid.
Beth fyddai’r paragraff agoriadol delfrydol i nofel neu waith llenyddol arall? Un sy’n hoelio sylw.
Ewch i ddarllen adolygiad o An Island Called Smith
|  | 
|