

|  | Adnabod Awdur: Robin Llywelyn
Awdur diamynedd
Dydd Iau, Ebrill 12, 2001
| Enw: Robin Llywelyn.
Beth yw eich gwaith? Rheolwr Gyfarwyddwr Cwmni Portmeirion Cyfyngedig.
Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud? Dim llawer.
O ble¹r ydych chi¹n dod? Llanfrothen, Meirionnydd.
Lle¹r ydych chi¹n byw yn awr? Minffordd, Meirionnydd.
Pam sgrifennu llyfrau? Er mwyn diwallu’r awydd am fynegiant creadigol.
Pa un yw’r gorau gennych - bod yn feirniad ynteu sgrifennu’n greadigol? Sgrifennu’n greadigol.
Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn? A fyddwch yn edrych arno’n awr? Blwyddlyfr y ‘Beano’. Na fyddaf.
Pwy yw eich hoff awdur? Franz Kafka.
A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch? Un nos olau leuad, Caradog Prichard; Te yn y Grug, Kate Roberts; The Castle, Franz Kafka; Anna Karenina, Tolstoy; Un Diwrnod, Ivan Denisovitch, Solzhenitsyn; Cre na Cillie, Mairtin O Cadhain.
Pwy yw eich hoff fardd? R.S. Thomas.
Pa un yw eich hoff gerdd? Marwnad Siôn y Glyn, Lewis Glyn Cothi.
A pha un yw eich hoff linell o farddoniaeth? "Mae arch yn Ystrad Marchell".
Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu? Blade Runner. Fawlty Towers.
Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir? Deuparth gwaith ei ddechrau.
Pa gyngor fyddech chi¹n ei roi i rywun sydd eisiau bod yn awdur? Dysgwch i deipio.
Pa ddawn hoffech chi ei chael? Canu piano.
Pa dri gair sy’n ei disgrifio chi orau? Diamynedd.
Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi¹n ei edmygu fwyaf a pham? Padrig Pearse am ei weledigaeth.
Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono? Canlyniad Pleidlais y Refferendwm yng Nghaerdydd.
Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn? Llywelyn ap Gruffudd. "Paid a mynd i Gilmeri" .
Pa un yw eich hoff daith a pham? Ar hyd yr A487 i Benrhyndeudraeth. "Teg edrych tuag adref".
Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd? Pysgod ffres yn Nhir-a-Môr, Cricieth
Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden? Darllen.
Pa un yw eich hoff liw? Gwyn.
Pa liw yw eich byd? Gwyrdd.
A oes gennych lyfr arall ar y gweill? Nagoes.
Ydych chi wedi darllen llyfrau Robin Llywelyn - beth yw eich barn chi? Ebostiwch i ddweud . . .
Cyfrol newydd am ei waith
|  | 
|