
 |  | Adnabod Awdur: Peidiwch meddwl gormod amdanoch eich hun
Cyngor bardd i ddarpar feirdd gan Bobi Jones
Dydd Iau, Mawrth 8, 2001
| Holi Bobi Jones, bardd, beirniad llenyddol ac ysgolhaigsydd newydd gyhoeddi cyfrol am ganu mawl.
Enw: Robert Maynard Jones (Bobi Jones)
Beth yw eich gwaith? Athro Prifysgol wedi ymddeol.
Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud? Addysgu, erioed.
O ble’r ydych chi’n dod? Caerdydd.
Lle’r ydych chi’n byw yn awr? Aberystwyth.
Pam barddoni a llenydda? I foli Duw.
Pwy yw eich hoff awdur? Dafydd ap Gwilym
A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch? Ar wahân i’r Beibl, Y Gomedi Ddwyfol, Dante.
Pwy yw eich hoff fardd? Heblaw Dafydd ap Gwilym, Waldo Williams.
Pa un yw eich hoff gerdd? Heblaw Dante, Marwnad Llywelyn ap Gruffydd gan Ruffydd ap yr Ynad Coch.
Pwy yw eich hoff awdur rhyddiaith? D. H. Lawrence.
Pa lyfr rhyddiaith wnaeth yr argraff fwyaf arnoch - ac ym mha ffordd? Trosedd a Chosb, Dosdoiefsci - y syniad o stori dda, cymeriadu’n gyfoethog, awyrgylch gafaelgar. Yr oedd yn brofiad ysbrydol, fel nofelau eraill D.
Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu? Dwy Briodas Ann gan Saunders Lewis gyda Myfanwy Talog.
Pa ddywediad, dihareb neu linellau o farddoniaeth sydd agosaf at y gwir? Eithr wele law yr hwn sydd yn fy mradychu gyda mi ar y bwrdd: Luc 22,2.
Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sydd eisiau bod yn fardd neu lenor? Peidiwch meddwl gormod amdanoch eich hun.
Pa ddawn hoffech chi ei chael? Gostyngeiddrwydd.
Pa dri gair sy’n eich disgrifio chi orau? Pechadur Credadun Gorfoleddwr
Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi’n ei edmygu fwyaf a pham? Heblaw Iesu Grist rhaid imi enwi dau, y Brenin Dafydd a'r r Apostol Paul oherwydd eu mynegiad barddonol o’r gwirionedd ac oherwydd eu bywydau lliwgar.
Pa ddigwyddiad hanesyddol fydde chi wedi hoffi bod yn rhan ohono? Diwygiad 1762 yn Llangeitho.
Pa berson hanesyddol hoffech chi gyfarfod a beth fyddech chwi yn ei ddweud neu yn ei ofyn? Ann Griffiths. Gweddio gyda’n gilydd.
Pa un yw eich hoff daith a pham? Cerdded drwy Sir Benfro gyda’m gwraig oherwydd harddwch y ddwy.
Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd? Rhaid cael panas. Cig eidion, tatw rhost, pys ffres (byth wedi eu rhewi), ffa, ysgewyll Brwsel, grefi. Hufen iâ wedyn.
Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden? Cerdded, Darllen a darllen.
A oes gennych lyfr arall ar y gweill? Oes, mae arnaf ofn, cyfrol o gerddi.
Pa linellau o farddoniaeth ydych chi fwyaf balch o fod wedi eu cyfansoddi? Dim.
Pam Bobi Jones weithiau ac R. M. Jones droeon eraill? Dechreuodd fel Bobi Jones oherwydd mai dyna fel y’m gelwid yn llencyn (ac o hyd). Mae’r plentyneiddiwch yn duedd byth. Rhoddais gyfrol mewn cyfres addysgol i’m pennaeth, Jac L. Williams, heb ei llofnodi. Efô a’m henwodd yn R. M. Jones. Fe’i defnyddiais wedyn i gynrychioli’r agwedd dreth incwm ar fy mywyd - y gwaith academaidd fel arfer. Does dim cysondeb. Ac mae hynny hefyd yn wendid cyson.
|  | 
|