
 |  | Adnabod Awdur:
Dyn beics - a physgod, tatws a phys!
Llion Iwan, awdur Llyfr y Mis yn datgelu cyfrinachau amdano'i hun! | Enw: Llion Iwan
Beth yw eich gwaith? Cynhyrchydd, BBC Cymru
O ble’r ydych chi’n dod? Fe ges i ngeni yng Nghaerdydd, ond fy magu yn Waunfawr, Eryri.
Lle’r ydych chi’n byw yn awr? Caerdydd
Pam sgrifennu llyfr? Dwi wedi bod yn sgwennu ers blynyddoedd ond erioed wedi llwyddo i orffen dim. Y tro yma roedd dyddiad cau ar gyfer y fedal ryddiaith yn ddigon o sbardun.
Dwedwch ychydig am eich llyfr? Hanes taith ar feic o Lhasa, Tibet i Kathmandu yn Nepal. (Mil o gilomedrau trwy’r Himalayas.) Disgrifiadau o’r bobl nes i gwrdd, y llefydd a welsom a pheth o hanes y wlad, cysylltiadau Cymreig gydag Everest a peth o’m hanes i hefyd.
Pwy yw eich hoff awdur? Bruce Chatwin
A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch? Gwaed Gwirion, Emrys Jones a Grapes of Wrath, John Steinbeck
Pwy yw eich hoff fardd? Dic Jones
Pa un yw eich hoff gerdd? Un fuddugol Gerallt Lloyd Owen, (Dwi ddim yn siwr o’r teitl! Cilmeri) "Wylit wylit Lywelyn, wylit waed pe gwelit hyn…."
Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu? Ar y teledu, ER, a’m hoff ffilm, The Godfather 2
Pa ddywediad, dihareb neu linellau o farddoniaeth sydd agosaf at y gwir? Deuparth gwaith yw ei ddechrau - Just do it, fel dywed slogan Nike!
Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sy’n bwriadu bod yn awdur? Darllen popeth a cheisio ysgrifennu / cyfansoddi bob dydd.
Pa ddawn hoffech chi ei chael? Syrffio - môr, nid y we.
Pa dri gair sy’n ei disgrifio chi orau? Byrbwyll, Triw ac Amyneddgar!
Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi’n ei edmygu fwyaf a pham? Gwynfor Evans
Pa ddigwyddiad hanesyddol fydde chi wedi hoffi bod yn rhan ohono? Concro Everest
Pa un yw eich hoff daith a pham? Seiclo adref o’r gwaith ar bnawn Gwener
Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd? Pysgod, tatws a phys - tydi fy sgiliau coginio ddim i ddibynnu arnyn nhw ar gyfer unrhywbeth mwy cymhleth!
Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden? Beicio mynydd a darllen. Mynd allan.
A oes gennych lyfr arall ar y gweill? Dwi wrthi’n ceisio sgwennu nofel antur a llyfr taith arall, sef casgliad o bortreadau o bobl dwi wedi eu cwrdd tra’n teithio.
Darllenwch am lyfr Llion
|  | 
|