|  |
 |  |  |  |  | |  | Roger Boore Cyhoeddwr ac awdur • Enw?
Roger Boore
• Beth yw eich gwaith? Awdur.
• Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud? Cyfrifydd siartredig, cyhoeddwr llyfrau Cymraeg (Dref Wen).
• O ble'r ydych chi'n dod? Caerdydd.
• Lle'r ydych chi¹n byw yn awr?
Yr Eglwys Newydd, Caerdydd.
• Wnaethoch chi fwynhau eich addysg? Do, ond nid yw wedi gorffen eto.
• Dwedwch ychydig am eich llyfr diweddaraf?
Teitl: Taith i Awstralia. Cyhoeddwyd: 2008 gan Dref Wen. Pris: £8.99. 192 tt o destun + 32 tt o luniau lliw.
Crynodeb: Hanes taith a wnaeth fy ngwraig a minnau i gynefin fy nhad-cu yn Awstralia, cyn iddo ymfudo i Gymru; ein hanturiaethau difyr, doniol neu drychinebus, lleoedd a welsom, pobl a gwrddasom, tipyn am hanes y wlad ac eitha tipyn am Gymry a adawodd eu nod yno - er da neu er drwg.
• Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu? Ymerodraeth y Cymry (straeon byrion); Y Bachgen Gwyllt (nofel i blant).
• Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn? Llyfrau A. A. Milne am Christopher Robin.
• A fyddwch yn edrych arnynt yn awr? Byddaf.
• Pwy yw eich hoff awdur?
R. L. Stevenson, ar hyn o bryd.
• A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
Y Beibl, sydd wrth wraidd ein gwareiddiad ac yn dylanwadu arnom i gyd, hyd yn oed os na fyddwn yn edrych arno.
• Pwy yw eich hoff fardd? Horas; neu Waldo Williams.
• Pa un yw eich hoff gerdd?
Yr Odyseia.
• Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
"Eheu, fugaces, Postume, Postume,
labuntur anni ..." Tristwch am y blynyddoedd yn llithro heibio.
• Pa un yw eich hoff ffilm neu raglen deledu?
Y dyddiau hyn, "Con Passionate".
• Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth? Hoff gymeriad: Maigret. Cas gymeriad: Robert d'Artois, yn Les Rois Maudits.
• Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
"Pawb at y peth y bo."
• Pa un yw eich hoff air?
"Erbyn meddwl"
• Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Y gallu i deithio mewn amser - yn enwedig yn ôl.
• Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau? Tad heiffen cu
• A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan? Peidiwch gofyn!
• Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham? "Anon", am fod yn wylaidd.
• Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Refferendwm 1997 - ac mi roeddwn i!
• Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn? Unrhyw un, bron. Dywedwn, "Esboniwch ..."
• Pa un yw eich hoff daith a pham? Y daith adref.
• Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd? Cinio Nadolig gyda'r teulu.
• Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Chwarae gyda'r wyrion a'r wyresau.
• Pa un yw eich hoff liw?
Gwerthfawrogaf bob un, a diolch am fedru eu gweld.
• Pa liw yw eich byd? Lliw'r wawr a'r machlud.
• Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi? Tybed a fyddai'n well meddwl am ddeddfau i'w dileu?
• A oes gennych lyfr arall ar y gweill? Llyfr am deithiau yn Sbaen.
• Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith llenyddol arall? "Hmmm ..."
Cysylltiadau Perthnasol Taith i Awstralia gan Roger Boore 
|  | |  | |  | |  | |  |  |  | Sôn amdanynt Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
|  |  |
|  | |  |  |  | Gair am air: Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|  |  |
|
|
|