 | Robat Gruffudd - gwobr am oes o Lol a gwaith 'Troi eryr claf cyhoeddi Cymraeg yn arglwydd'
Robat Gruffudd yn siarad gyda Nia Roberts: Am y wobr, Cychwyn Lol, Cydymffurfio, Gwrthod cyhoeddi addasiadau o wledydd eraill, Gwneud Popeth yn Gymraeg a Rhoi'r cwmni yn nwylo'r plant ar Raglen Hywel a Nia, Mai 7, 2007. Anrhydeddwyd 'hogyn drwg' y byd cyhoeddi Cymraeg gydag anrhydedd "Cyfraniad oes" mewn gŵyl lyfrau yng Nghaernarfon ddydd Sadwrn, Mai 5, 2007.
Ac wrth gyhoeddi enw Robat Gruffudd, Y Lolfa, talodd Bardd Cenedlaethol Cymru, Gwyn Thomas, deyrnged iddo am ei ran amlwg "yn yr ymdrech i gadw ac estyn terfynau'r iaith Gymraeg" a'i gwneud yn iaith sy'n mynegi diddordebau pobl ifainc.
Yr oedd gwobrwyo Robat Gruffudd yn un o uchelbwyntiau Gŵyl Bedwen Lyfrau a gynhaliwyd gan Gwlwm Cyhoeddwyr Cymru yn Galeri, Caernarfon.
Cyflwynwyd tlws o lechen iddo gan y Prifardd Myrddin ap Dafydd, prif symblydd yr ŵyl.
Eglurodd Myrddin ap Dafydd mai'r bwriad yw anrhydeddu yn achlysurol y rhai hynny sy'n gweithio, yn aml y tu ôl i'r llenni, i hyrwyddo cyhoeddi yn yr iaith Gymraeg ac yn amrywio o gyhoeddwyr a llyfrwerthwyr i swyddogion llên ac adolygwyr.
Go brin y gellid fod wedi dewis neb mwy poblogaidd i dderbyn y wobr am y tro cyntaf na'r gŵr a sefydlodd wasg y Lolfa a hyrddio y cylchgrawn Lol "fel hangrinêd i ganol bywyd Cymru" yng ngeiriau Gwyn Thomas.
Yr oedd Gwyn Thomas yn un o banel o dri, gydag Elan Closs Stephens a Hywel James, a ddewisodd yr enillydd o blith nifer o enwebiadau.
Cythryblu dyfroedd Dywedodd i Robat Gruffudd gael ei enwi yn amlach na neb arall ymhlith yr enwebiadau hynny.
Ychwanegodd fod 'Robat' yn llawer mwy na sefydlydd gwasg lwyddiannus:
"Nid sefydlydd gwasg yn unig ydi o, ond ffigwr sydd wedi chwarae rhan amlwg yn yr ymdrech i gadw ac estyn terfynau'r iaith Gymraeg gan wneud ymdrech deg iawn i'w gwneud hi'n iaith sydd yn mynegi diddordebau pobol ifainc ac er mwyn gwneud hyn y mae wedi cythryblu'r dyfroedd ar fwy nag un achlysur, ond gan gadw ei dawelwch mewnol trwy bob helynt a chyffro," meddai.
A chan gyfeirio at Lol, meddai:
"Yn 1965 fe ffrwydrodd y rhifyn cyntaf o'r cylchgrawn deifiol Lol fel hangrinêd i ganol bywyd Cymru, ac fe aeth y cylchgrawn yn ei flaen i lambastio, yn deg ac annheg, wedi hynny.
"Aeth y lambastio hwn a'i gyhoeddwyr i fannau go boeth ar rai achlysuron, ond dal ati i greu helyntion yn ei ffordd freuddwydiol, graff ei hun a wnaeth Robat."
Cymru a'r Gymraeg Ychwanegodd: "Mae ei ymroddiad i achos Cymru a'r Gymraeg yn gwbwl ddiamheuol a digymrodedd. A daeth cysgod y gyfraith drosto ar fwy nag un achlysur, ond heb fennu dim ar ei argyhoeddiad a'i ymroddiad.
"Rydw i'n sôn am hyn am fod a wnelo argyhoeddiadau Robat a'i waith fel cyhoeddwr. Dydi hi ddim yn syndod mai fo a gyhoeddodd y posteri trawiadol hynny am wneud 'Popeth yn Gymraeg'.
"Ac fel adweithydd yn erbyn diwylliant Cymreig rai blynyddoedd yn ôl, a oedd, yn ei farn o, yn un o stwffiedig grysau, fe daflodd englynion coch a phiws i'n plith, gan synnu - fel blaenor Methodist - o'r tu ôl i'w sbectol at unrhyw adwaith yn erbyn hynny!"
Cyforiog o wrthdrawiadau "Mae ei hanes o â'r Cyngor Llyfrau Cymraeg yn gyforiog o wrthdrawiadau - er rydw i'n sicr mai fo fyddai'r cyntaf i gydnabod fod y Cyngor hwnnw wedi sicrhau fod yna'r fath beth a chyhoeddi yn Gymraeg, heb sôn am fod y fath lewyrch ar gyhoeddi yn Gymraeg.
"Y mae'r gair 'grant' yn un sydd wedi gwneud cyhoeddi yn Gymraeg yn bosib ers tro byd bellach. Ond os oedd Robat, y cyhoeddwr, yn argyhoeddedig o werth cyhoeddiad fe fentrai gyhoeddi heb grant, megis y gwnaeth efo'r gyfres o anturiaethau hynny i blant, Cyfres y Llewod.
"A dyna, wedyn, ei gyfres o Feirdd Answyddogol a'i sbri fawr, ar dro, o roi sylwadau condemniol darllenwyr y Cyngor Llyfrau fel hysbysebion i geisio hybu gwerthiant.
"Fe welwch mai chwyldroadwr wrth ei swydd yn ogystal ag un o argyhoeddiad ydi Robat," meddai.
Dim addasiadau "Wedyn, dyna ichwi ei benderfyniad heriol i beidio a chyhoeddi addasiadau o lyfrau mewn ieithoedd eraill, gan fynnu mynd ar ôl defnydd gwreiddiol yn y Gymraeg. Y mae yna gysondeb sylfaenol yn yr heriwr a'r chwyldroadwr hwn," ychwanegodd.
Fe'i canmolodd hefyd am gyflawni gwaith argraffu cywrain yng Nghymru yn hytrach na mynd y tu allan i'r wlad.
"Y mae'r gwaith arbenigol lliwgar hwn yn cael ei wneud, nid yn Hong Kong na phellterau Japan na draw, draw, yn China ond yma yng Nghymru yng ngwasg Y Lolfa.
Dyn busnes llygadog "Y mae'r breuddwydiwr chwyldroadol hefyd yn ddyn busnes llygadog, yn un a wnaeth ei wasg yn llwyddiant diamheuol - onid Y Lolfa a gyhoeddodd Llyfr y Ganrif a'r llyfr mawr ar waith a bywyd Gwynfor Evans?" meddai.
Cyn darllen cerdd yr oedd wedi ei chyfansoddi yn arbennig ar gyfer yr achlysur cyfeiriodd at chwedl Lleu:
"Hen arfer yn y rhan hon o'r byd ydi canu cân ar ôl i rywun lwyddo i wneud camp go iawn, fel y canodd Gwydion i'r gamp o droi eryr claf yn ddyn, yn Lleu, yn ôl. A dyma inni, yma, un a helpodd i droi eryr claf cyhoeddi Cymraeg yn arglwydd yn ei ôl," meddai.
"A dyma'r gân, achos be ydi'r iws o fod yn fardd Cymru os na chewch chi ganu ambell i gân?"
CliciwchYMA i ddarllen cerdd a gyfansoddodd Gwyn Thomas ar gyfer yr achlysur.Bydd rhagor o Gŵyl Bedwen Lyfrau ar y wefan hon ddydd Mawrth. Dychwelwch yma.Cysylltiadau Perthnasol Oriel o luniau  Lolfa'n dathlu'r deugain 
 |
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|  |
|  | |  | |  | |  | |  |  |  | Sôn amdanynt Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
|  |  |
|  | |  |  |  | Gair am air: Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|  |  |
|
|