|  |
 |  |  |  |  | |  | Sian Thomas - rwy'n caru llyfrau Paratoi am Ddiwrnod y Llyfr Fel rhan o ddathliadau Diwrnod y Llyfr 2007 ar Ddydd Gŵyl Dewi , bydd nifer o Gymry amlwg yn datgelu eu hoff lyfrau ar BBC Radio Cymru.
Un sydd wrth ei bodd yn darllen yw'r gyflwynwraig Siân Thomas.
Pob math o lyfrau "Wy'n mwynhau pob math o lyfrau - llyfrau am hen hanes, duwiau'r oes a fu a'r Celtiaid i nofelau modern fel Rara Avis Manon Rhys, Martha, Jac a Sianco gan Caryl Lewis, nofelau Bethan Gwanas a hunangofiant diweddar Gwynfor Evans gan Rhys Evans - mi oedd hwnnw'n ffantastig.
T Llew Jones oedd fy nghariad cyntaf i a dwi'n dal i droi at ei lyfrau ef - a dwi'n siŵr y bydda i am byth.
Tristwch dalen olaf "Y peth trist i fi yw cyrraedd y dudalen olaf mewn llyfr dwi wedi ei fwynhau ac wedi ymgolli'n llwyr ynddo. Ar ôl codi mhen y cwestiwn nesaf yw - Pa lyfr gaf i ddarllen nawr?
Nid dim ond mwynhau darllen llyfrau mae Siân ond dywed ei bod yn hoff o'u teimlad a'u golwg hefyd.
"Dwi wrth ym modd yn pori drwy lyfrau - yn enwedig rhai sy'n cynnwys lluniau da a thudalennau sy'n braf i'w cyffwrdd. Mae'r silffoedd adre'n orlawn o lyfrau, y cypyrddau'n gwegian a dwi hyd yn oed yn cadw rhai dan y gwely. Alla i byth taflu llyfrau - maen nhw gyd yn bethau i'w cadw a'u trysori."
Radio Cymru yn dewis eto Yn dilyn llwyddiant cystadleuaeth Hoff Lyfr Gwrandawyr BBC Radio Cymru y llynedd, bydd yr orsaf, mewn cydweithrediad â'r Academi, yn cynnal cystadleuaeth arall eleni eto ochr yn ochr â phrif gystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn.
Beirniaid y brif gystadleuaeth yw John Rowlands, Gwion Hallam ac Elinor ond bydd cyfle hefyd yn ystod mis Mawrth i wrandawyr BBC Radio Cymru ffonio, tecstio ac e-bostio'r i enwi eu hoff lyfr hwythau a gyhoeddwyd yn ystod y flwyddyn.
Cliciwch E-gardiau llyfrau mewn cydweithrediad a Chyngor LLyfrau Cymru
Cliciwch Yma i weld rhagor o straeon Diwrnod y Llyfr
Gwefan Diwrnod y Llyfr
 | aled jones aberteifi pryd ydych yn gweud mwy am hwn? mae'n arbennig
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|  |
|  | |  | |  | |  | |  |  |  | Sôn amdanynt Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
|  |  |
|  | |  |  |  | Gair am air: Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|  |  |
|
|
|