BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
News imageCymru'r Byd
News image
News imageLlais Llên
News imageAdolygiadau
News imageLlyfrau newydd
News imageAdnabod awdur
News imageGwerthu'n dda
News imageSôn amdanyntNews imagePwy di pwy?
News image
News imageY Talwrn
News image
News imageNewyddion
News imageChwaraeon
News imageY Tywydd
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeonadolygiadau a straeon
Cyfieithu - oes yna ormod?
Cwyno fod cyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg yn wastraff
Bu'r ddadl a yw hi werth cyfiithu llyfrau o'r Saesneg i'r Gymraeg yn bwnc trafod ar Taro'r Post ar BBC Radio Cymru.


Disgrifwyd yr arfer fel gwastraff amser ac adnoddau gan yr awdur a'r darlldwr Lyn Ebenezer sydd o'r farn y byddai'n fwy buddiol defnyddio'r arian i drosi llyfrau Cymraeg i ieithoedd eraill.

gwrando Lyn Ebenezer ar 'Taro'r Post' ddydd Gwener, Tachwedd 7 2008

Y Gymraeg mewn ieithoedd eraill
"Fy ngwyn fawr i yw pam na allwn ni gyfieithu llyfrau Cymraeg i'r Saesneg. Byddai hynny yn gwneud llawer mwy o synnwyr [gan y byddai'n] golygu y gallai pobl ddi-Gymraeg, Saeson yn arbennig, weld pa ddiwylliant sydd da ni yng Nghymru .

"Mae e'n dân ar fy nghroen i fod rhyw rwts fel Harry Potter yn cael ei gyfieithu i'r Gymreg a mae da ni awdur llyfrau plant mwya'r byd yn T Llew Jones pan nad yw stwff Llew yn cael ei gyfieithu i'r Saesneg fel bod y byd tu allan yn dod yn ymwybodol ohono fe," meddai wrth Dylan Jones ar Taro'r Post Tachwedd 7, 2008.

Ychwanegodd nad oedd ganddo unrhyw wrthwynebiad cyhoeddi cyfieithiadau o ieithoedd ar wahân i'r Saesneg i'r Gymraeg a chanmolodd gyfieithiad newydd o lyfrau tin Tin sydd yn y siopau ar gyfer y Nadolig.

'Yng ngysgod y Saesneg'
"Rydym yn byw yng nghysgod y Saesneg a ydym ni'n hoffi hynny neu beidio ac yn cael ein boddi gan Saesneg yn y papurau newydd bob dydd . . . mae teledu yn ein boddi ni pryd a ydym ni'n hoffi hynny neu beidio," meddai.

"Y cyfan ydw i'n ofyn yw, oes yna unrhyw un yng Nghymru sydd ddim yn gallu darllen Saesneg? Dwi ddim yn meddwl bod," meddai gan ychwanegu mai dewis unrhyw ddarllenydd fyddai darllen y gwreiddiol, beth bynnag, nid cyfieithiad.

"Mae synnwyr yn dweud wrthych chi os gallwch chi ddarllen llyfr yn yr iaith wreiddiol boed hi'n Saesneg , Ffrangeg, Sbaeneg yr ydych chi'n mynd i ddarllen yn yr iaith honno gan fod unrhyw gyfieithiad yn mynd i golli rhywbeth," meddai.

'Cyfieithu yn ehangu'r ddarpariaeth'
Ond dadleuai Richard Owen o Gyngor Llyfrau Cymru fod y cyfieithu yn "gwneud llawer i ehangu'r ddarpariaeth ar gyfer darllenwyr Cymraeg".

gwrandoYmateb Richard Owen, Swyddog Grantiau Cyngor Llyfrau Cymru, ar Taro'r Post ddydd Gwener Tachwedd 7 2008

"A dyna'n prif waith ni fel Cyngor Llyfrau; ydi ceisio darparu deunydd mor amrywiol a phosibl a chymaint o ddeunydd ag y gallwn ni efo'r adnoddau sydd gennym ni ar gyfer darllenwyr Cymraeg . . . mae'n bosib cael cymaint o amrywiaeth ag sy'n bosibl," meddai.

Ychwanegodd; yn achos plant bach nad yw'n wir eu bod yn gallu darllen llyfrau Saesneg yn yr iaith wreiddiol a bod hynny'n cyfiawnhau troi o'r iaith honno i'r Gymraeg.

"Felly dydw i ddim yn gweld y gall neb ddadlau nad ydych chi'n eangu'r ddarpariaeth ar eu cyfer nhw. . . . a manteisio ar gael straeon da [o'r Saesneg] a lluniau gwych iawn. A'r plant yn gweld deunydd Cymraeg gwirioneddol raenus cystal ag unrhyw beth yn Saesneg.

"Ac iddyn nhw llyfr Cymraeg ydi o."

'Pethau ail law'
Gan fynd â'i ddadl ymhellach ynglŷn a chyfieithu dadleuai Lyn Ebenezer fod dylunwyr Cymru yn "colli mas" hefyd.

gwrandoLyn Ebenezer yn galw am gyfieithu mwy o lyfrau Cymraeg i'r Saesneg, ar 'Taro'r Post' ddydd Gwener Tachwedd 7 2008

"Ydi pethau ail law yn ddigon da i blant Cymru?" holodd.

"Nid yn unig rydym ni'n cyfieithu llyfrau o'r Saesneg i'r Gymraeg rydym ni'n cyfieithu caneuon, rydym ni'n efelychu rhaglenni , cenedl ail law ydym ni erbyn hyn," meddai.

'Ni ellir anwybydu'r Saesneg'
Ond dywedodd Richard Owen na allai ef weld y byddai gwaharddiad llwyr ar gyfieithu yn gwneud unrhyw les i'r ddarpariaeth Gymraeg.

Mae gwario ar waith gwreiddiol "ond rydym yn gallu ehangu'r ddarpariaeth trwy gyfieithu deunydd rhagorol o wledydd eraill," meddai gan nodi y gellid cynhyrchu wyth naw cyfieithiad am bris gwneud gwaith gwreiddiol.

"Allwch chi ddim anwybyddu'r holl ddeunydd Saesneg sydd ar gael," meddai.

Cysylltiadau Perthnasol
  • Gair, Sain a Llun gan Lyn Ebenezer

  • Holi Lyn Ebenezer

  • Cyngor Llyfrau Cymru

  • Llyfrau - gwefan newydd
    Ewchi'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy