|  |
 |  |  |  |  | |  | Pennod 9 Fforch mewn llaw Gan Gwyneth Glyn Doedd hi methu cysgu. Oedd y Mawrthwyr mwyn wedi ymyrryd yn ormodol hefo'i hymennydd?
Ai poeni oedd hi am yr hen wr a daflwyd drwy ffenest y siop dai? Ai ystyried a fyddai bywyd gwerth i fyw ar ôl y bennod olaf un o Friends? Ynteu'r gewin? Ia... dyna oedd yn ei chadw'n effro; y gewin dorrodd hi ddoe; y gewin fu'n brifo i'r byw; y gewin oedd wedi prysur dyfu'n fachyn bach milain a grafangai bob gafael yn ei dillad...
Drannoeth, deffrodd Gwenhwyfar i hwiangerddi'r adar mân a mwythau mamol golau'r haul. Ymestynodd fel cath a dylyfu gên.
Daeth â'i llaw dde at ei hwyneb i gosi ei thrwyn. Neidiodd o'i chroen, o'i dillad ac o'i gwely.
Sgrechiodd yn orffwyll gan ddychryn yr adar bach i'r pentre nesaf. Cydiodd fel gelen yn ei garddwrn dde. Allai hyn ddim bod.
Ei gewin... ei bys... ei llaw!
Ai breuddwyd oedd hyn?
Byddai wedi pinsio ei hun oni bai am y ffaith... y ffaith... fod ei gewin drwg wedi troi'n bigyn dur, a bysedd ei llaw dde wedi tyfu'n fforch arddio!
Rhythodd Gwenhwyfar ar y ddrychiolaeth; Ebychodd; blynyddoedd o manicures a hufen gwrth-henaint... i hyn!
Brysiodd at y ffenest; y peth olaf oedd hi isio oedd i'w chymdogion busneslyd weld ei hanffurfiad erchyll, a'i galw'n Gewin-hwyfar neu'n waeth Gwenhwcar!
Cauodd y llenni... ond rhwygwyd y mwslin dan ei bysedd dur! Syrthiodd Gwenhwyfar yn ôl ar y gwely, gan drywanu pum llafn i'r fatres, a difetha ei chynfasau lliain main.
Brasgamodd o'i hystafell a chlepio'r drws ar ei hôl, gan grafu'r pren pîn i'r byw.
Crafangodd ei gwallt mewn annobaith; torrodd hwnnw fel papur sidan. Cysurodd ei hun mewn coflaid, ond wrth wneud hynny rhwygodd ei choban Channel yn ddarnau mân, a syrthio'n ddagrau gloyw wrth ei thraed.
Syrthiodd ei dagrau hithau'n dawel. Byddai byw fel hyn yn hunllef! Byddai'n well ganddi hi beidio byw o gwbwl!
Hyrddiodd ei llaw ddur yn erbyn y drych mawr ar ben y grisiau, a gwylio ei hadlewyrchiad yn chwalu'n chwilfriw o'i blaen... gan ddatgelu rhywbeth arall... hen lun, yn llechu yn ffrâm y drych.
Llun o eneth ifanc yn gosod coron o lygaid y dydd ar ben hen wr.
Ffrydiodd y gorffennol i'w hymwybod, ynghyd â geiriau Edwart y garddwr: "Gwenni fach, drychwch sut yr ydw i'n gosod y gwreiddiau yn ddigon dwfn fel bod ganddynt ddigon o le i ymestyn. Dydych chi damaid gwell o'u plannu yn rhy agos at yr wyneb..."
Syllodd Gwenhwyfar ar y gwydr bregus wrth ei thraed... ar simsanrwydd y strimynau sidan drudfawr, ar freuder pren chwaethus y drws, ar y dillad gwely ymhongar a'r llenni rhacs a guddiai'r haul.
Anwesodd y fforch a fu unwaith yn llaw iddi.
Am y tro cynta ers amser hir, roedd hi'n gwybod yn union beth oedd yn rhaid iddi'i wneud.
Prif ddalen y nofel gadwyn
|  | |  | |  | |  | |  |  |  | Sôn amdanynt Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
|  |  |
|  | |  |  |  | Gair am air: Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|  |  |
|
|
|