Cododd Gwenhwyfar o ganol y blodau haul, ei chas bethau ers stint mewn ffatri pot pourri yng Nghernyw ddechrau y nawdegau.
Penderfynodd adael Llundain yn syth a dychwelyd i'r fflat a dechrau ar y gwaith o lanhau y gegin.
Efallai drwy roi trefn ar ei fflat y buasai elfennau eraill ei bywyd yn 'nioni ychydig meddyliau ar y trên.
Roedd yn gas ganddi lanhau ac i wneud pethau yn waeth roedd ewin un o'i bysedd wedi torri at y byw y diwrnod cynt.
Doedd o'n brifo dim ar y pryd ond wrth i'r fflap bach diniwed o ewin galedu fe drodd yn ymyl blin oedd yn gwneud iddi neidio bob tro y cyffyrddai a rhywbeth yn sydyn.
Wrth sychu saim oddi ar sgrin y teledu bach du a gwyn clywodd swn gweiddi y tu allan.
Tynnodd ei brat yn sydyn a mynd at y ffenest. 'Aaawwwwwy' Roedd hi wedi bachu'r ewin yn hem y brat.
Yn y maes parcio y tu allan roedd criw o ddynion oedrannus mewn dillad lliwiau pastel yn cicio dyn oedd hefyd yn hen iawn.
Er bod Gwenhwyfar ar y seithfed llawr fe allai glywed phoomph esgidiau cyfforddus yr hen ddynion yn ergydio bol y truan ar lawr.
Edrychai yn debyg fod un ohonynt, dyn tew moel, yn stampio ar ben yr anffodus.
Yna, heb unrhyw arweiniad gan neb, codwyd y dyn i fyny uwchben y criw. Fe drodd y sgrym o neilon lliwgar a mynd ag o tuag at y siop werthu tai oedd wedi bod ar gau ers y llifogydd mawr.
Fel tasai'r dyn yn pwyso dim mwy na chath, cafodd ei daflu drwy'r gwydr i mewn i'r siop. Chwalodd y gwydr yn bum darn miniog, a gwelodd Gwenhwyfar ei din cul yn diflannu i'r tywyllwch ond ni aeth y creadur yn bell iawn oherwydd cafodd ei ddal yn y cortyn metel a'r hen hysbysebion tai fel pryfyn mewn gwe pry cop.
Roedd ei slip-on velchro llwyd yn dal i fod yn llaw un o'r ymosodwyr ac fe'i taflodd at yr hen ddyn a edrychai fel pyped pathetig yn hongian yn ffenest y siop.
Cerddodd y pensiynwyr I ffwrdd ar ôl rhai eiliadau heb ddweud gair.
Roedd yr holl beth drosodd cyn I Gwenhwyfar fedru rhesymu dim. Erbyn iddi geisio rhoi rhyw fath o sgrech at ei gilydd roedd pobol wedi cilio yn ôl i'w tai, a beth bynnag doedd hi'n fawr o sgrech - tebycach i hic-up uchel.