BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
News imageCymru'r Byd
News image
News imageLlais Llên
News imageAdolygiadau
News imageLlyfrau newydd
News imageAdnabod awdur
News imageGwerthu'n dda
News imageSôn amdanyntNews imagePwy di pwy?
News image
News imageY Talwrn
News image
News imageNewyddion
News imageChwaraeon
News imageY Tywydd
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeonadolygiadau a straeon
Pennod 7
Y Bîgl
gan Twm Morys
Ond yn sydyn reit, dyna' i ffôn hi yn canu eto ac yn gwingo yn ei bag fel ffured.

A dyna' r bag yn dechrau codi'n ara deg i'r awyr, nes bod y strap yn tynnu yn ei braich.

A dyna'i gwallt hi hefyd yn codi yn un llwyn banadl uwch ei phen, a hithau, Gwenhwyfar, i'w ganlyn, nes bod ei thraed hi yn madael â'r ddaear.

Ryw ganllath o gopa'r mynydd, yn sgleinio yn yr awyr denau, roedd 'na lestar gofod bach siâp ci.

Roedd Gwenhwyfar yn gorfod plygu ei phen yn bell yn ô1 er mwyn ei weld o'n iawn a sbio drwy'r llwyn gwallt, ond mi welai fod y ci tun yn sownd wrth denyn a hwnnw'n ymestyn o'r golwg dros y mynydd.

"Yr arglwydd! Dyma'r BÎGL!" meddal.

Doedd bod yn uchel, uchel, yn dychryn dim ami. Toedd hi'n byw mewn fflat ar y seithfed llawr?

Poeni roedd hi'n benna' am y bagia .chwain rheini yn gweld o dan ei ffrog a be fasai ei mam yn feddwl.

Ond toc dyma hi'n cyrraedd yn wastad efo'r copa, a phob dim oedd ar i fyny'n disgyn yn ô1 i'w le.

A thros ben y graig, mi welai homar o long ofod fawr, yn bwrw ei chysgod dros hanner Sir Benfro, a rhyw grafanc o'i blaen yn dal y tennyn.

A dyna'r ci tun yn agor ei safn gwichlyd.

A chwap, mi gydiodd yn llawes Gwenhwyfar a dechrau ysgwyd ei gynffon yn wyllt, nes bod honno'n troi fel propelar a'r ci yn symud wysg ei din tua'r llong, a Gwenhwyfar i'w ganlyn.

Rhyw bethau bach digon clen oedd y Mawrthwyr yn y llong. Roedd gynnyn nhw chwech o freichiau bob un, dw i ddim yn deud, a phennau tebyg i falwns cochion.

Ond yng nghefn gwlad Cymru y magwyd Gwenhwyfar, ac roedd hi wedi arfer gweld ymwelwyr.

"Dr dz dz, dr dz dz dz," meddai eu capten nhw - sef o'i gyfieithu, "Yr ydym yn mynd i dynnu y cwbwl o'ch brêns chi allan, a'u rhoi nhw drwy gompiwtar, ac wedyn eu rhoi nhw yn eu holau."

A dyna'r Mawrthwyr i gyd yn canu, a Gwenhwyfar yn disgyn i drymgwsg.

Chymodd y. driniaeth ddim mwy na chwarter awr. Wedyn roedd hi'n bryd mynd a Gwenhwyfar yn ei hôl at ei thebyg.

Ond dyna benbleth i'r Mawrthwyr - tebyg i beth oedd Gwenhwyfar?

Roedd yr arbrofion wedi dangos bod ei chyfansoddiad bron a bod yr un fath a bocs cardbord. Ac eto roedd hi'n amlwg yn fyw. Ac roedd hi'n hardd.

Penderfynwyd mai'r peth agosaf iddi oedd blodyn. A dyna'r Mawrthwyr yn troi trwyn y llong, ac yn cymryd y wib tua Chelsi, a'r BÎGL bach yn hedfan yn hapus ar eu holau.

Ac am ba hyd bynnag y huon nhw ar y ffordd, i Jelsi y daethon nhw, a gollwng Gwenhwyfar.

Mi ddisgynnodd yn ara' deg o'r cymylau, a deffro yng nghanol y blodau haul.

Prif ddalen y nofel gadwyn


Llyfrau - gwefan newydd
Ewchi'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy