BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
News imageCymru'r Byd
News image
News imageLlais Llên
News imageAdolygiadau
News imageLlyfrau newydd
News imageAdnabod awdur
News imageGwerthu'n dda
News imageSôn amdanyntNews imagePwy di pwy?
News image
News imageY Talwrn
News image
News imageNewyddion
News imageChwaraeon
News imageY Tywydd
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeonadolygiadau a straeon

Pennod 6
Taith y Pererin
,
gan Nerys Nicholas
Dihangodd Gwenhwyfar allan i'r awyr iach o awyrgylch fyglyd, llethol y dafarn. Dyheuai am gael bod yn rhydd, yn annibynnol, ymhell o gaethiwed rheolau a chyfyngiadau rhwystredig llywodraeth y dydd.

Yn ddiymdroi, ymbalfalodd yn ei bag am ei ffôn symudol. Stwffio'r gwaith, stwffio'r fflat a stwffio'r ddinas - dwi'n mynd i gael deuddydd arall o ryddid! meddyliodd yn herfeiddiol. Sefyll dros fy hawliau fel y domestic divas 'ma sydd mor ffasiynol yn yr oes sydd ohoni. Ie, dyna be wna i a châf fynd ar fy mhererindod fy hun!

Teimlai fel merch fach ddrwg, wrthryfelgar yn mitso'r ysgol heb reswm, er y gwir amdani'r dyddiau hyn, ymresymodd Gwenhwyfar, oedd bod y plant am fynd i'r ysgol ond yn gorfod aros adre. Rhyw reolau diystyr am dalgylch yr ysgol oedd y broblem fel y deallai Gwenhwyfar. Ond roedd y plant hynny, druain, yn gallu cyffwrdd iet yr ysgol o glawdd eu gardd gefn. Ble yn y byd oedd y synnwyr mewn polisi o'r math? A beth ddigwyddodd i hawliau'r unigolyn i gael dewis?

Ie, na beth yw dwli, meddyliodd Gwenhwyfar wrth iddi, o'r diwedd, fyseddu'r teclyn twt yng ngwaelod ei bag.

Yn sydyn, tynnwyd y gwynt o'i hwyliau .
"Damo, damo - sdim bywyd yn y peth ma!"

Ond rhaid oedd iddi ffonio nawr - cyn i hyder arwrol y funud ddiflannu ac i synnwyr cyffredin ddiffodd ei hawch anturus.

Ar y stryd gyferbyn, tynnwyd ei sylw at dair merch ifanc tua'r deg oed. Roeddent wedi clystyru'n bentwr chwerthinllyd fel gwenyn prysur o amgylch pot mêl. Chwarddent ar ben ryw neges-destun ddoniol a dderbyniasent ar eu Samsung A800. Synnai Gwenhwyfar at sgiliau tecstio hyderus y merched, a rhyfeddai at allu'r genhedlaeth ifanc i fabwysiadu'r dechnoleg fodern mor ddiffws. Yn fwy na dim, teimlai'n genfigennus ohonynt am fod eu ffônau hwy'n gweithio'n iawn!

Yn ôl yn ei char, bwydodd Gwenhwyfar llon bolied o drydan i stumog ei ffôn ac anelodd ei cherbyd yn benderfynol yn ôl tua'r gorllewin, at fynyddoedd hudolus y Preselau.

Câf, fe gâf i gerdded yn rhydd ar bererindod bell fel Frodo Baggins a'i gymar ffyddlon, Samwise Gamgee!

Teimlai Gwenhwyfar ysbryd Rebeca'n byrlymu drwyddi wrth iddi agosau at bentref y cowbois - Crymych. Tywysodd ei char i'r garej leol er mwyn diwallu anghenion y peiriant llwglyd. Synnodd at brysurdeb y lle.

"Are you from off then, bach?"
"Hei, paid gwastraffu dy Saesneg arna i, mêt," ymatebodd Gwenhwyfar gyda gwên ac ychwanegodd yn synfyfyriol, "Dim ond rhyw bererindota'n ddiamcan dw i."

Ie, am dorri'n rhydd yr oedd hithau ac ar ôl parcio'r car wrth odre Foel Drygarn, brasgamodd yn gadarn tua'r copa. Teimlai fysedd yr haul yn cosi croen noeth cefn ei gwddw a gresynodd am iddi ddewis anwybydddu cyngor y cyfryngau ynglŷn ag eli a chapan haul. Cyflyrodd ei hun i ddyfalbarhau â'r dringo er gwaethaf gwegian cwynfanllyd cyhyrau ei choesau. Gobeithiai y byddai artaith yr ymarfer corff yn llosgi'r calorïau ychwanegol a ymgartrefodd o amgylch ei chanol ers y penwythnos yn Nulyn!

Ie, Gwenni fach, rhaid i ti ailymaelodi â'r Ganolfan Hamdden yn weddol gloi neu roi stop ar y Guinness a'r creision egsotig na!

Mor bell yr ymddangosai'r Ganolfan Hamdden honno'n awr wrth i'r adrenalin bwmpio'n gynhyrfus drwy'i chorff a'i llygaid lyncu hyfrydwch y golygfeydd bendigedig o'i chwmpas. Ochneidiodd Gwenhwyfar,
Pam mae'n rhaid i ni golli'n Cymry ifainc i atyniadau gwledydd eraill - fel Ffrainc - pan fo'r Filltir Sgwâr yn gallu cynnig ysbrydoliaeth i ni fel hyn?

Foel Drygarn, Carn Gyfrwy, Tal Mynydd,
Wrth fy nghefn ym mhob annibyniaeth barn.

Gyda geiriau Waldon chwyrlïo yn ei phen, troes Gwenhwyfar ei golygon yn ôl tua throed y mynydd, a chofiodd yn sydyn iddi beidio, yn ystod ei phererindod undydd, â gwneud unrhyw ddefnydd o'i ffôn symudol wedi'r cyfan!

Rhyddid? Ie, rhyddid yn wir a thangnefedd!


Llyfrau - gwefan newydd
Ewchi'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy