 | Pennod 5 I'r ddinas, neu mas o ma ! gan Eifion Daniels Ar y ffordd nôl o lethrau Carn Ingli, bu rhaid i Gwenhwyfar stopio'r car. Allan â hi, tynnu ei chot a'i hysgwyd yn wyllt. Yna, tynnodd grib drwy ei gwallt yn frysiog. Roedd o leiaf un ymwelydd wedi ymuno â hi ar ei thaith.
Wrth ffarwelio â'r criw ym Mrithdir Mawr, a hwythau ar eu ffordd i brotestio yn Hwlffordd, teimlodd ei bod wedi dysgu rhywbeth yn ystod y ddwyawr a dreuliodd ymysg y bobol anarferol yma.
Dechreuodd holi ei hunan. Ydi bywyd y ddinas yn fy siwtio i mewn gwirionedd ? Gwaith oedd gwaith, ond prin y gellid galw fflat ar y seithfed llawr yn gartref.
Ac fe benderfynodd yn y fan a'r lle byddai rhaid iddi geisio am swydd arall a symud yn ôl i'r wlad i fyw. Ond sut ? Roedd tai yn y wlad bron mor ddrud â thai y dre.
Yn raddol, datblygodd y cynllun. Byddai'n gwerthu ei char ac yn cerdded i'r gwaith bob dydd. Byw ar fwyd syml, iach doedd dim o'i le ar y daten bôb. Mynd allan i redeg yn ddyddiol yn lle talu am y sesiwn wythnosol yn y Ganolfan Hamdden.
Mewn dim, efallai byddai'n ddigon ffit i fenrto rhedeg ym Marathon Llundain. A phwy a wyr ? Un o Gymru yn ennill ras y merched am y tro cyntaf doedd e ddim yn amhosib!
Hedfanodd yr amser. Roedd wedi cyrraedd San Clêr. Tarodd ei llygad ar enw lle na fu hi ynddo erioed. "Pam lai ?" meddyliodd "doedd e ddim yn bell," a throdd drwyn y car at Dalacharn.
Pan gyrhaeddodd, roedd y pentref yn brysur tu hwnt a threuliodd ugain munud yn ceisio cael lle i barcio. Wrth adael y maes parcio, cafodd y teimlad fod pawb yn cerdded i'r un cyfeiriad, ac fe ddilynnodd.
Daeth o'r ddiwedd at dafarn y Browns. Holodd rhywun, "Beth sy'n digwydd. Ydy'r cwrw am ddim?" Buan, cafodd yr ateb. Roedd y dafarn ar werth ac roedd degau o bobol wedi dod i weld hoff gyrchfan Dylan Thomas cyn i'r lle fynd o dan y morthwyl.
Gwthiodd ei ffordd i mewn. Roedd fel cerdded i mewn i set ddrama o'r pumdegau. Doedd dim wedi newid ers dyddiau Dylan. Hanner peint o Guinness, meddyliodd, cyn dychwelyd at undonedd ei gwaith bob dydd.
Yn y man roedd wedi cyrraedd y bar ac o'i blaen, roedd pedwar bachgen ifanc. "Pedwar peint o lagyr," gofynnodd y talaf. "Odi chi'n ddigon hen?" holodd y Tafarnwr. "Odyn," atebodd y pedwar fel parti cyd-adrodd, neu, cyd-lefaru. "Os prawf 'da chi ?" holodd eilwaith, a bu rhaid i'r pedwar dynnu rhyw fath o docyn adnabod allan o'u pocedi cyn cael eu diod. "A chithe?" meddai'r Tafarnwr wrth Gwenhwyfar. "Yn ddeunaw?" atebodd hithau mewn syndod. "Sudd oren, os gwelwch yn dda."
Fe'i cafodd ac fe dalodd. Ond nid oedd yn siwr beth i wneud o'r sefyllfa. A oedd hi'n edrych fel merch dwy-ar-bymtheg oed neu a oedd y Tafarnwr yn meddwl y dylai bawb gario cerdyn adnabod?
Llyncodd ei sudd oren a meddyliodd, "Mas o ma!"
Prif ddalen y nofel gadwyn
|  | |  | |  | |  | |  |  |  | Sôn amdanynt Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
|  |  |
|  | |  |  |  | Gair am air: Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|  |  |
|
|