 | Pennod 4 Botwm tyn, chwain a milwr gan Cathryn Gwynn Ymlaciodd Gwenhwyfar mor braf yn Nulyn nes bod meddwl am orfod troi am adre yn creu diflastod. Ai dyna oedd i gyfri am yr hyn ddigwyddodd nesa tybed? Neu ai rhyw reddf wrthryfelgar barodd iddi wfftio rwtin am unwaith?
Beth bynnag ar y funud olaf penderfynodd beidio dychwelyd ar hyd yr un hen ffordd gyfarwydd. Yn hytrach, anelodd drwyn y car i'r de, ac am Rosslare.
Yno, roedd llong Stena yn aros i'w chludo i ran o Gymru nad oedd yn gyfarwydd â hi o gwbwl.
Teimlai gywilydd am hynny, braidd. Doedd hi ddim wedi teithio digon o fewn ei gwlad ei hun, dyna'r gwir amdani. Ar wahan i ddilyn Steddfod Genedlaethol bob Awst, wrth gwrs.
Cofiodd yn sydyn nad oedd wedi archebu tocynnau ar gyfer Steddfod Casnewydd. Gobeithiodd na fyddai'n rhy hwyr. Er doedd hi ddim yn rhy siwr am y syniad o gael arwyddion dwyieithog o gwmpas y maes chwaith. A fyddai'r un blas ar Steddfod ddwyieithog?
Ond wedyn roedd costau - diwedd y gân, bob tro. Roedd hi, o bawb, yn deall hynny'n iawn.
Oriau'n ddiweddarach, yn eistedd ym mar y Royal Oak ar sgwâr Abergwaun, cyfri caloris ac nid punnoedd oedd Gwenhwyfar.
Roedd y dewis ar y fwydlen yn dod â dwr i'w danneddond roedd yn ymwybodol fod botwm ei sgert yn teimlo'n dynnach ar ôl bod ar wyliau. Drato. Roedd hynny'n arwydd fod pum pwys o leia wedi setlo'n dawel fach ar ei bola. Byddai'n rhaid ail ymaelodi yn y dosbarth colli pwyse ar ôl cyrraedd gartre. Fel arall, fe fyddai hi fel y miloedd Cymry tew a oedd yn siwr o ddiodde o glefyd y siwgwr strôc trawiad.
Roedd y rhestr yn ddiddiwedd. Byddai'n rhaid ymladd y gelyn yn Rhyfel y Bloneg gydag arddeliad.
Dewisodd daten bôb gyda thiwna dim mayonnaise a cheisiodd anghofio am y sgampi a chips.
Ar y bwrdd drws nesa iddi, eisteddai criw carpiog yr olwg, â'u gwallt fel mwng caglyd, yn blethwaith o liwie a baw.
Teimlodd Gwenhwyfar ei phen yn cosi wrth edrych arnyn nhw. Doedd syndod yn y byd fod byddinoedd o chwain yn dod nôl i oresgyn ein gwelyau a'n cartrefi, meddyliodd roedd bridfa gyfan ar y bwrdd drws nesaf.
Daeth un ohonyn nhw dyn, nid chwannen draw, a gofyn am fatsien. Atebodd hithau nad oedd yn smygu (a gresynu na fyddai tafarnau Cymru yn dilyn esiampl Iwerddon).
Sylwodd Gwenhwyfar fod rhyw fathodyn ar ei siwmper ac arno'r geiriau eco-warrior'.
Hy, meddyliodd, rhyfel arall eto fyth. Beth allai fod y poeni hwn a'i siort ?
Daeth y daten, a bwytaodd Gwenhwyfar yn awchus. Byddai ychydig bach o fayonnaise wedi bod yn neis ond roedd teimlo'n hunan-gyfiawn yn neisach.
Talodd y bil, ac allan â hi i swn y gwylanod. I ble nesa?
Cydiodd yn allweddi'r car. Teimlodd law ar ei gwar. Cydiodd ei hanadl. Fe, yr eco filwr oedd yno.
Oedd ganddi gar? Siawns am lifft? Dim ond i lethrau Carn Ingli.
Roedd e a'i ffrindiau yn mynd i gynnal gwylnos ger Brithdir Mawr yr eco-dy yr oedd y Parc Cenedlaethol wedi gorchymyn ei ddymchwel. Ty naturiol, nad oedd yn faich ar yr amgylchedd na neb dim ond nad oedd caniatâd cynllunio iddo.
Cofiodd Gwenhwyfar am y ty a adeiladodd hithe cyn i rhyw swyddog wrthod caniatâd iddi. Nawr roedd yn deall yn erbyn pwy roedd y creadur gwlanog hwn a'i griw yn brwydro a thros beth.
Gwenodd arno a'u tywys at y car.
Yn sydyn, roedd y dydd yn teimlo'n gyffrous.
Prif ddalen y nofel gadwyn
|  | |  | |  | |  | |  |  |  | Sôn amdanynt Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
|  |  |
|  | |  |  |  | Gair am air: Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|  |  |
|
|