|  |
 |  |  |  |  | |  | Y Bennod olaf Yn ôl i'r pridd gan Dafydd Meirion
"Www, Edwart, mae ganddoch chi un fawr, hir."
Roedd Gwenhwyfar yn syllu ar Edwart y garddwr oedd â morynen reit nobl yn ei law.
Roedd ei law arall yn pwyso ar fforch yr oedd wedi ei gwthio i'r ddaear. Ond doedd ei llaw hi ddim yn y golwg. Roedd hi wedi ei gwthio'n ofalus y tu ôl iddi rhag i neb weld y llafnau main oedd yn fysedd iddi.
Ers gweld llun yr hen arddwr yn y drych yn ei hystafell yn ei fflat ar y seithfed llawr roedd Gwenhwyfar yn dyheu am weld ei hen ffrind. Doedd y daith i Werddon wedi gwneud dim lles iddi ac roedd hi'n sicr na wnaeth ymweliad â llong y Mawrthwyr ddim ond drwg iddi.
Roedd radio i'w chlywed yn dod o'r hen gwt pren yng nghornel gardd Edwart ac roedd yntau wedi sylwi fod Gwenhwyfar yn edrych i'r cyfeiriad hwnnw.
"Tisio fi ddiffodd y weirles?" gofynnodd. "Dwi wedi 'laru gwrando ar y Dylan Jones 'na. Tisio fi roi Champion ymlaen?"
Ond na, distawrwydd oedd Gwenhwyfar eisiau - a gair â'i hen gyfaill.
"Be sgen ti y tu ôl i dy gefn? Anrheg i mi?" Doedd Edwart ddim wedi cael anrheg gan Gwenhwyfar ers sawl blwyddyn, ers iddi adael ei chartref a dianc i'r ddinas fawr.
Estynnodd ei llaw a dangosodd ei bysedd a'i hewinedd dur. Cymrodd yr hen wr mai teclyn i droi'r pridd oedd o ac estynnodd i gydio ynddo.
"Na, na! Paid Edwart, mae fy mysedd wedi troi'n gyllyll - cad draw!"
"Wyt ti wedi joinio'r boi yna yn Llundan sydd isio'n lladd ni i gyd, y dyn un lygad a'r llaw bachyn?"
"Abu Hamza? Na, y Mawrthwyr wnaeth hyn i mi."
Ond doedd gan Edwart ddim diddordeb mewn grwpiau pop.
"Be ti'n da yn fan'ma? Wyt ti wedi dod yma am wylia?"
"Na, Edwart. Dwi wedi dod adref am byth. Dwi wedi cael llond bol ar y ddinas. Y swn, y llygredd ..."
Daeth swn gwynt o gyfeiriad yr henwr. "Mae'n ddrwg gen i, Gwynhwyfar, ond mi rydw wedi bwyta gormod o'r ffa 'ma ac maen nhw'n codi gwynt gythreulig arna i."
Anwybyddodd Gwenhwyfar o. Onid oedd hi'n gollwng rhai ei hun weithiau?
"Be nei di yma? Be gei di'n waith? Does yna ddim byd i bobol ifanc yma. Mi wnaeth 'na ffatri gau ym Mangor ddoe."
"Twristiaeth, Edwart. Dyna yw achubiaeth cefn gwlad. Maen nhw'n deud eu bod nhw am godi olwyn fawr fel honno yn Llundain ym Mangor."
"Y London Eye?"
"Ia, ond Bangor Ai fydd hon."
Ar hynny - dyma swn uwchben. Roedd y llong ofod yn ôl. Daeth creadur allan. Roedd copi o Welsh is Fun, Heini Gruffudd, yn ei law.
"A gaf i gydio yn eich spigoglys chi?" gofynnodd.
Trodd Edwart at Gwenhwyfar mewn penbleth.
"Sbinaets, mae o isio," meddai.
"Na chei'r diawl ..." Ond orffennodd y garddwr mo'i frawddeg. Daeth llafn o olau porffor o'r llong ofod a'i daro yn ei frest. Simsanodd ei goesau a llithrodd yn araf i'r rhych yr oedd newydd ei phalu. Estynnodd y creadur ei law allan saith troedfedd a chydiodd mewn pentwr o lysiau ffres Edwart. Eiliadau'n ddiweddarach roedd y llong ofod wedi diflannu ond roedd Edwart yn dal ar y llawr wrth draed Gwenhwyfar.
"Edwart! Be sydd? Ydych chi'n iawn?"
Ond doedd dim ateb. Roedd y garddwr wedi gadael y byd hwn ac o fewn dim o amser byddai'n gwrteithio'r tir y bu'n gofalu'n dyner amdano ar hyd yr holl amser.
Doedd dim rwan i gadw Gwenhwyfar yn y wlad a dychwelodd i'w fflat ar y seithfed llawr mewn adeilad anferth yn y dref.
Prif ddalen y nofel gadwyn
|  | |  | |  | |  | |  |  |  | Sôn amdanynt Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
|  |  |
|  | |  |  |  | Gair am air: Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|  |  |
|
|
|