|  |
 |  |  |  |  | |  | Tu Chwith 27 Lempan i'r snobs llenyddol
Adolygiad Llinos Dafydd o'r cylchgrawn Tu Chwith. Rhifyn 27: Newid. £5.00. Cerddi, straeon a lluniau. Dyma gyfrol sy'n fwrlwm o gampweithiau creadigol gan awduron hen ac ifanc - y dwys a'r digri. Un peth wnaeth fy nharo i o'r dechrau oedd gwahanol ddehongliad yr awduron o'r thema 'Newid'. Cyfres o luniau gan awdur Llyfr y Flwyddyn, Llwyd Owen, o ddau fis cyntaf ei fabi, Elian Sgarlad, yn y byd.
Cyflwyniad ar y gwahaniaethau gwerinol rhwng Caradog Evans a D.J. Williams ac addasiad o gerdd Rikardo Arregi, Promisies on the Phone, gan Mari Siôn. Hen ac ifanc Yn ogystal â 'hen lawiau fel Gwyn Thomas a'r to ifanc profiadol fel Eurig Salisbury mae'n neis gweld yn eu plith gywion newydd - hyd y gwn i - fel Cadi Elis a Rose Hedley.
Dyma rifyn 27 ac o'r hyn a welais i o'r rhai cynnar mae Tu Chwith gam ymlaen erbyn hyn ac yn cael ei gydnabod fel cylchgrawn sydd a mwy iddo na gosip selebs a straeon dros ben llestri. Nid yw'n edrych fel cylchgrawn a rhwng y ddau glawr, ceir darnau gwyrthiol, godidog a gwerth chweil. Tair 'G' sy'n taro deuddeg ym mron pob un darn yn y gyfrol.
Mae'r canwr gyfansoddwr Mr Huw yn sôn amdano'i hun yn chwilio am ei hoff far o siocled yn 1990, a thorri ei galon.
"Ro'n i mewn penbleth. Doedden i ddim yn gallu prynu Marathon rhagor. Ro'n i'n gorfod prynu Snickers." Lawr eu trwynau
Ond y pwt rwyf i wedi dotio fwyaf ato yw darn Barry Thomas ar dreulio penwythnos yn Nhŷ Newydd, Llanystumdwy, ar gwrs sgriptio. Wna i ddim dyfynnu yn y fan hon oherwydd yr iaith goch a rhegfeydd ond fel un sydd yn nabod Barry mae'r darn yn cyfleu ei agwedd i'r dim wrth iddo sathru ar y snobs Cymraeg; "Crachach afiach, yn sbïo lawr 'u trwyna' pan ddudish i bo fi heb ddarllen dim byd gan Alan Llwyd. Pam fyswn i?"
Dw i jyst yn aros i'w weld e mewn tafarn eto'n fuan gyda'i gitâr yn canu caneuon budron. Rhaid dweud imi fwynhau gwledda ar y tameidiau yn y gyfrol hon gan fwynhau rhai yn fwy na'i gilydd wrth gwrs ond rwy'n codi fy het i bawb sydd wedi cyfrannu a'i wneud yn rhifyn. Ymlaen at y nesaf. Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng BBC Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008
Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi
|  | |  | |  | |  | |  |  |  | Sôn amdanynt Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
|  |  |
|  | |  |  |  | Gair am air: Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|  |  |
|
|
|