BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
News imageCymru'r Byd
News image
News imageLlais Llên
News imageAdolygiadau
News imageLlyfrau newydd
News imageAdnabod awdur
News imageGwerthu'n dda
News imageSôn amdanyntNews imagePwy di pwy?
News image
News imageY Talwrn
News image
News imageNewyddion
News imageChwaraeon
News imageY Tywydd
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeonadolygiadau a straeon
Tewach na Dŵr
Iasau ar y cefn
  • Adolygiad Carys Mair Davies o Tewach na Dŵr gan Dylan Jones. Gomer. £6.95.


  • Dyma nofel iasoer sy'n taro deuddeg ym mhob ffordd. Nofel oedd yn peri arswyd i mi gan greu tensiynau annioddefol.

    Rhaid i Sam geisio anghofio am orffennol erchyll wrth iddo ddychwelyd i Gymru i ailafael yn ei waith fel meddyg - ond dyw hi ddim yn hawdd anghofio am lofruddiaeth erchyll ei wraig, Jo, a'r baban yn ei chroth, yn enwedig pan fo gefell Jo, Debbie, yn atgof anesmwyth o'r hyn a fu.

    Clawr y llyfr A phan ddaw llun, arogl a llais Jo i aflonyddu ar Sam mae cred wallgof Debbie nad yw ei gefell wedi marw o gwbl yn dod yn bosibilrwydd dieflig.

    Rhaid i Sam frwydro â'i deimladau a'i obeithion i geisio dod o hyd i'r llofrudd.

    Ond wrth i'r tystion farw o un i un, daw Sam i sylweddoli fod y meddwl gorffwyll y tu ôl i farwolaeth ei wraig yn dymuno ei weld ef yn dal yn fyw. . .

    Fy hoff gymeriad yn y nofel yw Chloe er nad hi yw'r fwyaf blaenllaw ond yn fy marn i hi yw'r cadernid a'r asgwrn cefn sydd ei angen ar Sam er mwyn dygymod â marwolaeth ei wraig.

    Cymeriad tawel a swil ydyw ond ys dywed yr hen ddywediad; "Cŵn tawel sy'n cnoi."

    Nid yw Chloe yn ceisio cuddio'i theimladau ac ar sawl achlysur mae hi'n gadael iddynt reoli ei gwrthrychedd.

    Mae hyn yn bwysig er mwyn cael Sam i sylweddoli na ddylai yntau guddio ei deimladau ychwaith.

    Nofel ddychryn sy'n agos at yr asgwrn fyddai'r disgrifiad gorau o gampwaith Dylan Jones ac wrth i mi ei darllen rhedai ias oer i fyny fy asgwrn cefn gan droi'r chwys ar fy ngwar yn iâ.

    Ond er bod y stori yn peri arswyd nid oes dewis ond parhau â'r stori gan fod pob tudalen yn ychwanegu at gymhlethdod y digwyddiadau a difyrrwch plot sydd â thro yn ei gynffon.

    Nid yw y plot hawsaf i'w ddilyn a chymerodd ychydig o benodau i mi ddod i ddeall hanes Sam yn iawn - ond wedi i'r niwl glirio dechreuais fwynhau'r stori. Pur anodd oedd rhoi'r llyfr i lawr wedyn.

    O ran iaith mae'r nofel yn eithaf syml.

    Er nad yw'r clawr yn ddeniadol o bell ffordd mae'n un sy'n tynnu sylw gyda rhyw ddirgelwch yn perthyn iddo.

    A thu ôl i'r clawr cefais fy nghyfareddu gan nofel sy'n llawn antur ac yn eich gorfodi i geisio datrys y dirgelwch.

  • Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng BBC Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008

    Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewchi'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy