|  |
 |  |  |  |  | |  | Ac Yna Clywodd Sŵn y Môr Nofel well na'i chlawr! Adolygiad Carys Mair Davies o Ac yna Clywodd sŵn y Môr gan Alun Jones. Gomer. £8.99.
Clawr tywyll, diflas a theitl sy'n cyfleu yr un anobaith sydd i'r llyfr hwn.
Ni fu'r broliant ychwaith yn fodd i chwalu fy argraffiadau cyntaf - er gwaethaf canmoliaeth brenhinoedd llenyddiaeth fel Islwyn Ffowc Elis a John Rowlands.
Felly, pam darllen y llyfr? Yn syml, oherwydd ei fod yn rhan orfodol o faes llafur fy arholiadau TGAU Cymraeg.
Nid oeddwn yn disgwyl ei fwynhau o gwbwl ac mae'n rhaid cyfaddef na wnes i ganolbwyntio rhyw lawer yn y gwersi!!!
Wedi fy nghyfareddu Ond wedi inni fel dosbarth ddarllen y prolog a'r penodau cyntaf ni allwn roi'r llyfr i lawr.
Roeddwn wedi fy nghyfareddu gan hud a lledrith y plot, y cymeriadau a'r themâu.
Erbyn hyn, â'r dosbarth wedi darllen hyd at bennod chwech gallaf ddweud fod y llyfr yn haeddu sylw manwl pawb o'r dechrau i'r diwedd!
Mae Ac Yna Clywodd Sŵn y Môr gan Alun Jones yn nofel sy'n llawn dirgelwch ac antur.
Er nad oes prif gymeriad mae'n llawn o gymeriadau cryfion sy'n hollbwysig i undod y digwyddiadau.
Hoff gymeriad Fy hoff gymeriad yw Meredydd sy'n cael ei gyhuddo o dreisio Bethan Gwastad Hir.
Er i lys ei gael yn ddieuog ni wyddom a gyflawnodd y weithred ai peidio gan fod y nofel yn dangos dwy ochr hollol wahanol i bersonoliaethau Meredydd a Bethan.
Mae hwn yn ddirgelwch sy'n peri gofid mawr i'r darllenydd oherwydd na wyddom beth i'w wneud o Meredydd.
Cawn ddarllen am ei helyntion ers ei brofi'n ddieuog - yn bennaf dan law Huw Gwastad Hir, brawd Bethan. Nid yw'n ymddangos y bydd ei fywyd yr un fath byth eto.
Mae e'n anobeithio ar ôl dod allan o ganolfan gadw Risley gyda phob diwrnod yn gopi diflas o'r un cynt.
Hynny yw, nes iddo gwrdd ag Einir.
Yn ei chwmni hi mae amser yn hedfan ac yntau'n canfod bywyd gwerth chweil unwaith eto.
Dyn amheus Ond tua'r un amser ag y mae bywyd yn troi'n felys iddo mae'n sylwi ar ddyn dieithr, amheus, yn stelcian o gwmpas ei dŷ ac yn sydyn iawn mae Meredydd yn darganfod ei hun dros ei ben a'i glustiau mewn dirgelwch sy'n ymestyn yn ôl pum mlynedd.
Pwy yw'r dyn amheus ?
Sut y bydd Meredydd yn delio â'r sefyllfa? Rhaid darllen campwaith Alun Jones!
Er mai gogleddol yw tafodiaith y nofel mae'n ddigon dealladwy i hwntws hefyd. Mae symlrwydd a naturioldeb arddull yr awdur yn berffaith ar gyfer y cynnwys.
Darlunnir cymuned glos y gall y darllenydd uniaethu â hi.
Er nad yw'r stori yn un anodd ei dilyn rhaid bod yn eithaf effro eich meddwl i gadw ar y blaen i'r rhibidirês o ddigwyddiadau.
Darllen rhagor Mwynheais y llyfr yn fawr iawn ac rwy'n gwybod y byddaf yn darllen rhagor o waith Alun Jones yn y dyfodol agos.
Er nad wyf yn hollol siŵr os yw'r plot yn gydnaws â bywyd bob dydd mae'r cyfle i gael eich tynnu i mewn i fywyd sy'n llawn lliw a llun, antur a dirgelwch, yn brofiad llesmeiriol.
Dwi'n argymell Ac Yna Clywodd Sŵn y Môr i unrhyw un - boed yn ddeg oed neu'n ddeg ar hugain! Llyfr a hanner sy'n haeddu'r amser, y lle a'r £8.99 a dalais amdano.
Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng BBC Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008
Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi
 |
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|  |
|  | |  | |  | |  | |  |  |  | Sôn amdanynt Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
|  |  |
|  | |  |  |  | Gair am air: Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|  |  |
|
|
|