BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
News imageCymru'r Byd
News image
News imageLlais Llên
News imageAdolygiadau
News imageLlyfrau newydd
News imageAdnabod awdur
News imageGwerthu'n dda
News imageSôn amdanyntNews imagePwy di pwy?
News image
News imageY Talwrn
News image
News imageNewyddion
News imageChwaraeon
News imageY Tywydd
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeonadolygiadau a straeon
Hiwmor Pws
Rhywbeth at ddant pawb

  • Adolygiad Gwenlian Rowlinson o Hiwmor Pws gan Dewi Pws. Cyfres Ti'n Jocan, Y Lolfa. 93 tt, ISBN 9 780 86243 997 2. £3.95.
  • Mae Dewi Pws wedi bod yn ein diddanu ers bron i ddeugain mlynedd ac wedi hen ennill ei blwyf fel canwr, actor a digrifwr.

    Mae ei hiwmor unigryw yn gyfarwydd i bob un ohonom yn y Gymru Gymraeg.

    Clawr y llyfr

    Yn ei gyflwyniad ffraeth i'r gyfrol fechan hon, mae Lyn Ebenezer yn dweud ambell i stori fach am Dewi Pws a'r triciau direidus mae'n eu chwarae ar bobl.

    Nifer o gerddi
    Yn y gyfrol mae nifer o gerddi gan Pws yn ogystal â jôcs ar bynciau yn amrywio o fyd addysg i fyd meddygaeth!

    Mewn cerdd Hen Bethe mae Dewi'n sôn am bethau o'i ieuenctid - pethau cyfarwydd i'r rai o'r un oed ag ef - gwneud tost o flaen y tân, papur blotio a phlismyn mewn oed.
    Gymaint mae'n byd wedi newid mewn byr amser!

    Mae ei ddiddordeb yn y byd rygbi yn amlwg o ddarllen y gerdd Y Gêm sy'n disgrifio buddugoliaeth Cymru dros y Saeson yn 1999 a sut mae gwylio'r fideo yn codi ei galon bob tro.

    Mae cerddi fel Ffrindiau Da a Dim ond Gofyn yn enghreifftiau o gerddi doniol ac yn adloniant pur sy'n rhoi cryn foddhad.

    Braidd yn swreal!
    Mae casgliad o dros ugain o limrigau doniol hefyd ac yn y gerdd Dweud Celwydd mae ei hiwmor swreal ar waith gyda'i ddychymyg ffraeth yn sôn amdano'i hun yn cywiro gwaith y Meuryn, Gerallt Lloyd Owen, a'r Frenhines yn Llywydd Merched y Wawr!

    Mae'r gerdd Siôn Corn yn enghraifft dda arall o'r swreal gyda mwy nag awgrym o ddychan wrth iddo ddychmygu sut anrhegion fyddai Siôn Corn yn eu rhoi i wahanol rai:
    "Rhywbeth bach i'r insomniacs ...... casét digidol Es Ffôr Sî" ac "I Radio Cymru...... geiriadur Cwmrâg"!

    Mae dychan yn britho'r gyfrol - mewn jôc o fyd addysg mae cyn fyfyriwr yn cael gorchymyn i ysgubo'r llawr yn ei swydd gyntaf.
    "Sut ydych chi'n disgwyl i mi ysgubo'r llawr?" meddai yn bwysig. "Mae gen i radd mewn Astudiaethau Cyfryngol."
    "Mae'n ddrwg gen i," atebodd ei gyflogwr. "Fe fydd rhywun yn dod i egluro i ti sut ma'i wneud e."
    Ciaidd iawn.

    Nid pawb fyddai'n gwerthfawrogi hiwmor Dewi Pws ond fe fyddai'r rhan fwyaf yn cytuno bod hon yn gyfrol gwerth ei darllen.

    Gydag amrywiaeth mawr o ddefnydd mae ynddi rywbeth at ddant pawb sy'n siŵr o ddod â gwên i'ch wyneb.
    Ac mae siawns go dda y gwnaiff ichi chwerthin hefyd!

  • Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng BBC Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008

    Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi


  • Llyfrau - gwefan newydd
    Ewchi'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy