BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
News imageCymru'r Byd
News image
News imageLlais Llên
News imageAdolygiadau
News imageLlyfrau newydd
News imageAdnabod awdur
News imageGwerthu'n dda
News imageSôn amdanyntNews imagePwy di pwy?
News image
News imageY Talwrn
News image
News imageNewyddion
News imageChwaraeon
News imageY Tywydd
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeonadolygiadau a straeon
MrchDd@
Peryglon gwe sy'n dal
  • Adolygiad Marged Davies o MrchDda@ gan Meleri Wyn James. Cyfres Whap. Gomer. £4.99.


  • Fel y byddai rhywun yn ei ddisgwyl oddi wrth y clawr a'r teitl, nofel gyfoes i'r arddegau yw hon.

    Clawr y llyfr Mae'n delio â realiti bywyd merch 13 oed gan bortreadu'r peryglon sy'n wynebu'r arddegau pan yn mentro i sgwrsio ar safleoedd sgwrsio ar y we.

    Mae'n Nofel sy'n addas i rai 10 i 13 oed.

    Prif gymeriad y nofel yw Eli, merch sy'n boblogaidd, yn ddel ac yn alluog, ond merch hefyd nad oes ganddi gariad.

    Deuwn i adnabod rhieni Eli â rhai o'i ffrindiau agos fel Charlotte sy'n dwyn cryn dipyn o bwysau ar Eli i fentro i fyd serch.

    Pan gaiff Eli gyfrifiadur yn anrheg pen-blwydd gan ei rhieni nid ar gyfer gwaith cartref yn unig y mae'n ei ddefnyddio yn ei hystafell wely ond i geisio canfod cariad ar ystafell sgwrsio ar y wê.

    Camp y nofel yw dangos pa mor rhwydd yw celu cyfrinachau hyd yn oed mewn teulu clos a hapus.

    Chawn gip effeithiol ar fyd cyfathrebu mentrus a chyflym yr arddegau; mae yma decstio ar ffonau symudol, er rhaid bod yn effro i wybod pwy sy'n siarad â phwy ar adegau.

    Mae'r nofel yn rhyw fath o rybudd.
    Yn wers sy'n dangos pa mor beryglus yw'r ystafell siarad ar y we gan sôn am fygythiad y pedoffeil; pwnc difrifol iawn yr ydym yn clywed mwy a mwy amdano ar y newyddion y dyddiau hyn.

    Mae MrchDd@ yn nofel sy'n gafael ac yn ein hysgogi i ddarllen ymlaen.

    Fel y mae'n dweud ar gefn y nofel, mae'n "nofel ddirdynnol sy'n hawlio sylw ac ymateb".

    Rhowch gynnig arni, ni chewch eich siomi!
  • Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng BBC Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008

    Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi

  • Cysylltiadau Perthnasol
    St@fell gan Meleri Wyn James


    cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewchi'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy