BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
News imageCymru'r Byd
News image
News imageLlais Llên
News imageAdolygiadau
News imageLlyfrau newydd
News imageAdnabod awdur
News imageGwerthu'n dda
News imageSôn amdanyntNews imagePwy di pwy?
News image
News imageY Talwrn
News image
News imageNewyddion
News imageChwaraeon
News imageY Tywydd
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeonadolygiadau a straeon
Martha Jac a Sianco
Dyheu am ddilyniant!
  • Adolygiad Carys Mair Davies o Martha, Jac a Sianco gan Caryl Lewis. Lolfa. £7.95.


  • Mae'n siŵr fod pawb bellach wedi clywed am Caryl Lewis a'i dawn i greu storiâu sy'n agos at y galon.
    Mae hi'n nofelydd ifanc, ffres, sydd eisoes wedi ennill gwobrau fel Llyfr y Flwyddyn a Tir na n-Og.

    I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i BBC Webwise (Saesneg) am gyfarwyddiadau.


    Martha, Jac a Sianco ddewiswyd yn Llyfr y Flwyddyn 2005 ac ar ôl ei ddarllen hawdd gweld pam.

    Clawr y llyfr Ond mae'n rhaid imi gyfaddef na wnaeth diwyg y gyfrol argraff arnaf i wrth chwilio am ddeunydd darllen o lyfrgell yr ysgol gyda'i chlawr plaen a'i theitl diflas! Ni fuaswn wedi edrych ddwywaith ar y llyfr oni bai i'm ffrind ei hargymell.

    Ac am sioc!!
    Nid oedd dim o ddiflastod y clawr yn y cynnwys.
    Dyma nofel ryfeddol sy'n darlunio i'r dim gymuned glos a'r holl gymeriadau a geir ynddi.

    Gwerth eu hadnabod
    Prif ffocws y nofel yw fferm Graig-ddu lle mae dau frawd a chwaer yn cadw buchod a defaid, yn trin y tir, yn casglu'r gwenith a chadw hen draddodiadau teuluol yn fyw trwy barhau â ffermio traddodiadol.

    Mae'r chwaer a'r ddau frawd yn rhai gwerth eu hadnabod.

    Y Fartha drafferthus, ofalus o bawb ond yn arbed dim arni ei hun.
    Jac, y brawd mawr, a'i ddwylo geirwon yn byw i ffermio nes i hoeden benchwiban, Judy, ddod i'w wirioni.
    A Sianco, wedyn, y brawd bach hoffus agos-atoch.

    Mae i'r tri eu personoliaeth, eu cyfrinachau tywyll, breuddwydion cudd a deisyfiadau uchel.

    Mae'r Graig-ddu yn lle brawychus iawn lle mae amgylchiadau'n carcharu'r trigolion.

    Dyma stori bwerus a wnaeth imi grio ar adegau a chwerthin dro arall.

    Hawdd mynd ar goll
    Mae'r plot yn gymhleth ond yn aros yn y cof ymhell ar ôl gorffen y darllen gan greu cylchoedd ym meddwl y darllenwyr a datblygu'n gyflym nes cyrraedd uchelbwyntiau chwerw.

    Ond mae'n hawdd mynd ar goll wrth ddarllen Martha, Jac a Sianco gan fod cymaint o linynnau yn gwau drwy'i gilydd gan greu peth dryswch.

    Bu'n rhaid imi ailddarllen pennod fan hyn a pharagraff fan draw er mwyn dal i fyny â phethau.

    Penagored yw diweddglo Martha, Jac a Sianco a'r gobaith yw y bydd Caryl Lewis yn creu dilyniant yr un mor gampus gan fy mod ar bigau'r drain eisiau gwybod â fydd aradr yn parhau i rwygo'r tymhorau o'r pridd yn y Graig-ddu.

    Fy nghwestiwn mwyaf yw, Beth sydd wedi digwydd i Martha?

    Beth am Martha?
    Hi yw fy hoff gymeriad ac nid yw hynny'n syndod gan mai o'i safbwynt hi y cawn y stori - menyw fach fregus sy'n fodlon helpu pawb ar ei thraul ei hun ac yn berffaith gydnaws a'r darlun ystrydebol o hen wraig fodlon ei byd mewn cymdeithas sy'n newid.

    Ond nid dyna'r darlun cyflawn a chyda'r llinell olaf un mae'r darllenydd yn cael ei adael mewn penbleth ac yn ysu am fwy o eglurhad.

    A yw Martha mor ddiniwed ag yr ymddengys?
    Pam y mae hi'n gwenu?
    Pwy fydd y seithfed person sy'n cael ei ladd?
    Mae'r tensiwn yn annioddefol ac os bydd dilyniant byddaf ar flaen y ciw i'w phrynu!

    Oherwydd y cynnwys a'r iaith, ni fuaswn yn argymell y nofel i rai o dan 13 oed. Mae cryn regi - hyd at frawddeg olaf un!!

    Er fy mod yn amau taw merched a gaiff y mwyaf o bleser o'i darllen byddwn yn argymell y llyfr yn fawr iawn i fechgyn hefyd.

  • Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng BBC Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008

    Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Adolygiad arall


  • cyfannwch

    sinig
    ella bysa dilyniant yn anodd gan fod pob cymeriad yn marw



    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewchi'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy