BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
News imageCymru'r Byd
News image
News imageLlais Llên
News imageAdolygiadau
News imageLlyfrau newydd
News imageAdnabod awdur
News imageGwerthu'n dda
News imageSôn amdanyntNews imagePwy di pwy?
News image
News imageY Talwrn
News image
News imageNewyddion
News imageChwaraeon
News imageY Tywydd
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeonadolygiadau a straeon
Mae Llygaid gan y Lleuad
Gwe rhy gymhleth
  • Adolygiad Carys Mair Davies o Mae Llygaid gan y Lleuad gan Elin Llwyd Morgan. Lolfa. £7.95.


  • Daliwyd fy sylw yn syth gan glawr amwys y nofel hon - ac er bod gweld y lleuad yn gwenu'n braf arnoch yn eich gwneud chi deimlo'n gyfforddus, mae teitl y nofel yn addo stori o gelwyddau.

    Ielena yw'r prif gymeriad; a hithau hefyd yw'r cymeriad cyntaf yr ydym yn ei gwrdd. Dychwel i'r coleg yn Aberystwyth er mwyn cael ei holi'n dwll am ddiflaniad amheus ei chyn gariad.

    Ar ben hyn oll mae hi'n gorfod delio â bygythiadau stelciwr ac mae'n cael ei rhwygo rhwng sawl meddwl a sawl dyn - yn eu plith y ditectif, Iestyn Morgan.

    Mae'n rhaid dweud fod y plot yn un cymhleth ar y naw gyda sawl stori yn gweu drwy'i gilydd i greu cyfanwaith. Fe'i cefais hi'n anodd dilyn y plot gan orfod ailddarllen penodau.

    Roedd y mynd yn ôl ac ailddarllen yn bwysig oherwydd unwaith ichi golli rhediad y plot, mae'n anodd iawn ail gydio.

    Mae'r ffaith fod y stori yn cael ei hadrodd o safbwynt nifer o gymeriadau - Ielena, ei thad, ei mam a'r Ditectif - yn sicrhau stori fwy cynhwysfawr a chrwn.

    Er amlygrwydd yr heddlu yn y stori, mae hon yn fwy na nofel dditectif ond yn nofel fywiog a darllenadwy sy'n ymdrin â pherthynas cymeriadau â'i gilydd a'r tensiynau sy'n codi rhyngddynt.

    Cefais fodd i fyw o'i darllen - yn enwedig felly gan fod rhan helaeth o'r stori wedi'i lleoli yn Aberystwyth a'r disgrifiadau o grwydro stryd Trefechan neu yfed yn y 'Coops' yn troi'n olygfeydd byw yn fy nychymyg.

    Gwendid Mae Llygaid gan y Lleuad yw presenoldeb stelciwr Ielena ac ni allwn ddeall pam bod ei angen ar y stori - yn enwedig a'r plot yn hen ddigon dryslyd yn barod!!

    Gwelaf hyn fel ymgais gan Elin Llwyd Morgan i greu bywyd mor drafferthus a phosib i Ielena a chodi chwilfrydedd y darllenwyr i'r entrychion.
    Yn anffodus ni chredaf iddi gyrraedd y nôd.

  • Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng BBC Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008

    Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Adolygiad John Gruffydd Jones

  • Llyfrau - gwefan newydd
    Ewchi'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy