|  |
 |  |  |  |  | |  | Lladdwr Croesawu nofel gyfffrous Rhagfyr 2005 Adolygiad Gwenllian Higginson, Ysgol y Preseli, o Lladdwr gan Llion Iwan. Gomer £6.99.
Ar adeg pan fo cyhuddiadau o MI5 a gwasanaethau cudd y wladwriaeth Brydeinig yn rhedeg ysbiwyr y tu mewn i Sinn Féin yn Iwerddon, cwbl amserol yw croesawu nofel gyffrous Llion Iwan, Lladdwr.
Mae Llion Iwan yn ein harwain i fyd tywyll, lle cyrchir amcanion gwleidyddol heb rwystrau moesol; byd y licence to kill.
Rhaid canmol strwythur ac arddull y llyfr hwn; er i'r stori fod braidd yn ddryslyd ar y cychwyn, gan neidio o olygfa i olygfa ac o'r presennol i'r gorffennol.
Mewn dull teledaidd, mewn gwirionedd, mae hyn yn adlewyrchu ansicrwydd a dryswch byd y gwasanaethau cudd.
Dilynwn antur Dafydd Smith sydd wedi cael gafael ar ddogfennau amheus wrth iddo geisio cael gafel ar stori fawr ar gyfer y papur newydd leol.
Ar ôl darllen y dogfennau cyfrinachol yma, mae'n sylweddoli fod rhywbeth mawr o'i le, does dim dewis ganddo ond cyhoeddi; ond mae'r lladdwr ar ei ôl a "wnaiff o byth bythoedd stopio. Os ydi o'n llwyddo mi wnaiff dy ladd. Os wyt ti am fyw, rhed."
Ond gwell peidio â datgelu rhagor... os ydych am ddihangfa rhag "gameshows" diflas ar y teledu prynwch y llyfr yma.
Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng BBC Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008
Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi Cysylltiadau Perthnasol Adolygiad arall 
|  | |  | |  | |  | |  |  |  | Sôn amdanynt Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
|  |  |
|  | |  |  |  | Gair am air: Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|  |  |
|
|
|