|  |
 |  |  |  |  | |  | Gwe o Gelwyddau Llwybrau'n croesi Adolygiad Carys Mair Davies o Gwe o Gelwyddau gan Delyth George. Gomer. £7.99.
Waw!!!!
Dyma nofel sy'n rhoi'r waw mewn 'waw-ffactor'!!
Cyhoeddwyd Gwe o Gelwyddau gan Wasg Gomer ac rwy'n argymell PAWB i'w darllen o glawr i glawr.
Yn fy marn i, mae £7.99 yn bris bach iawn i'w dalu am ddiwrnodau o wefreiddiwch.
Cyfoes a chyffrous Dyma nofel gyfoes, gyffrous, sy'n llawn cynllwyn a throadau wedi'i seilio ar frwydr ingol merch ifanc, Emma, i ddod i delerau â gorffennol tywyll sy'n bygwth chwalu'i dyfodol a'r bobl o'i chwmpas.
Newyddiadurwraig frwd gyda'r Daily Mail yn Llundain yw Emma ac ar ymweliad â Chaerdydd mae ei llwybrau hi ag Arwel yn croesi am y tro cyntaf ers 15 mlynedd.
Cyfreithiwr parchus yw Arwel sydd â'i fryd ar ennill sedd yn y Bae a dilyn gyrfa wleidyddol lwyddiannus yn y Cynulliad.
Felly, caiff gryn dipyn o sioc pan gyferfu Emma, merch â'i cyhuddodd o drais yn y coleg.
Caiff fwy fyth o syndod pan glyw ei bod yn awr yn gweithio ar yr un ochr ag ef fel newyddiadurwraig y Blaid.
Ond beth yw gwir gymhellion Emma yn teithio i'r Bae? Datgelu sleaze yn y Senedd ynteu rhywbeth llawer mwy personol?
Hoff gymeriad Fy hoff gymeriad yn y nofel yw Emma ei hun. Merch gref, gadarn, sy'n mynnu cyfiawnder ar ôl pymtheng mlynedd o fyw ei bywyd yng nghysgodion du'r gorffennol.
Mae Delyth George wedi portreadu Emma fel angel o bersonoliaeth sy'n gwneud i'r darllenydd gydymdeimlo â hi ac ysu am gyfiawnder iddi.
Ar yr wyneb mae ganddi bopeth - fflat moethus ; cariad hyfryd; swydd lwyddiannus ; dyrchafiad ar blât; ffrind gorau sy'n ei hanner addoli; y cynnig o fodrwy ar ei bys a gŵr wrth ei hymyl.
Ond wrth dreiddio ymhellach i'r gorffennol fe welwn rychau yn y masg ar ei hwyneb a thyllau yn y wal o'i chwpas.
Yma cawn ein cyflwyno i ffaeleddau Emma - ac mae cymaint o'r rheini ag o rinweddau.
Yn fy marn i, mae Emma yn berson nad yw'n gallu ymollwng â'i gorffennol a'r cam a gafodd.
Mae'n berson sy'n rhaid iddi wrth dial - hyd yn oed os golyga hynny fod yn ansensitif i deimladau pobl eraill, fel Rhys, ei chariad.
Dyma fenyw sy'n amharod i faddau ac yn codi ysbrydion a ddylent fod wedi'u claddu amser maith yn ôl.
Mae Emma'n gadnoes gyfrwys sy'n fodlon mynd i eithafion er mwyn profi ei phwynt.
Tafodiaith Mae iaith Gwe o Gelwyddau yn syml a'r arddull yn fendigedig gyda chyffelybiaethau a throsiadau.
Defnyddir cymysgedd o dafodieithoedd i gyfleu'r gwrthgyferbyniad rhwng cymdeithas Llundain a chymdeithas Caerdydd.
Ar silff siop, nid yw'r clawr yn gwneud cyfiawnder â'r cynnwys ond, da chi, peidiwch a gadael i hynny eich amddifadu.
Edrychaf ymlaen at ddarllen mwy o waith Delyth George gan i mi fwynhau ei llyfr cyntaf gymaint.
Mae Delyth George hefyd yn un o awduron y gyfres deledu, Pobol y Cwm, felly heno byddaf yn rhoi fy nhraed i fyny o flaen y bocs!!!
Ond, o ddifrif, cymerwch yr amser i ddarllen Gwe o Gelwyddau sy'n nofel werth chweil!!
Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng BBC Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008
Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi Cysylltiadau Perthnasol Adolygiad arall o Gwe o Gelwyddau 
 |
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|  |
|  | |  | |  | |  | |  |  |  | Sôn amdanynt Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
|  |  |
|  | |  |  |  | Gair am air: Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|  |  |
|
|
|