Adolygiad Carys Mair Davies o Fory Ddaw gan Shoned Wyn Jones. Lolfa. £4.95
Roeddwn wedi darllen llyfrau eraill gan Shoned Wyn Jones a phob gair yn felys. Nid oedd yn syndod imi, felly, ganfod fod ei gwaith diweddaraf imi ei ddarllen, Fory Ddaw yn hufen ar y melystra.
Nofel yw am ddwy ferch ysgol 15 oed. Mae Mari yn ferch i fam sy'n ddi-hid o'i phlant ac Eddie ei chariad â'i lygaid blysiog ar Mari.
Daw Mari'n ffrindiau ag Elin Morgan-Puw sy'n mynychu ysgol fonedd yn y dref. Mae hithau hefyd yn dioddef oherwydd bod priodas ei rhieni yn chwalu.
Drwy'r cyfan, mae un peth yn aros, cariad Mari tuag at un nad yw'n rhydd i'w charu'n ôl.
O'r ddwy, fy hoff gymeriad yw Elin, er nad hi yw'r cymeriad cryfaf na'r cymeriad mwyaf blaenllaw yn y nofel.
Ni ellir ond edmygu ei chryfder pan yw'n darganfod fod priodas ei rhieni ar chwâl. Nid yw'n ymdrybaeddu mewn hunan dosturi ond yn parhau â'i bywyd bob dydd yn ddi-ffws ac yn ddiffwdan.
Mae hi'n ferch 'boleit' ond yn un digon plaen ac yn ystyfnig ac yn benderfynol. Dyma'r nodweddion sy'n ei galluogi i lwyddo mewn bywyd.
Mae iaith Fory Ddaw yn syml a phlaen a'r plot yn gwbl ddealladwy.
Ystyriaf y llyfr yn baradwys i ferched yn eu harddegau ac rwy'n ei argymell ef a gweddill llyfrau'r awdur i ferched 11 oed a hynach.
Mae'r awdur yn meddu ar ddawn anhygoel i ddadansoddi teimladau a phroblemau gan greu rhyddiaith a stori afaelgar o'r safon uchaf bosib.