BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
News imageCymru'r Byd
News image
News imageLlais Llên
News imageAdolygiadau
News imageLlyfrau newydd
News imageAdnabod awdur
News imageGwerthu'n dda
News imageSôn amdanyntNews imagePwy di pwy?
News image
News imageY Talwrn
News image
News imageNewyddion
News imageChwaraeon
News imageY Tywydd
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeonadolygiadau a straeon
Hi Oedd fy Ffrind
Darganfod hoff awdur newydd
  • Adolygiad Dylan Davies o Hi Oedd fy Ffrind gan Bethan Gwanas. Lolfa.


  • Fel person ifanc, nid wyf yn rhy hoff o ddarllen llyfrau.

    I fod yn onest, nid wyf yn darllen llawer o lyfrau Cymraeg - ond ar ôl gwylio rhaglen Ar y Lein ar S4C a gweld Bethan Gwanas mor fywiog rhoddais gynnig ar ddarllen ei llyfr newydd.

    Hanes Non a Nia
    Dilyniant yw i'r nofel Hi yw fy Ffrind - hanes y berthynas rhwng Non a Nia.

    Portreadir Non fel merch nwydwyllt sy'n meddwl llawer amdani'i hun. Mae am fod yn actores broffesiynol ac yn dilyn cwrs drama yn y Brifysgol yn Aberystwyth.

    Darlunnir bywyd myfyrwyr fel un o yfed, meddwi a chysgu gyda dyn gwanhaol bob nos.

    Mae Non yn cysgu gyda chariad ei ffrind gorau ar ddechrau'r nofel gan ddifetha popeth iddi ei hun trwy ei hymddygiad byrbwyll.

    Ar ôl gorffen coleg mae'n symud i Gaerdydd ac yn cael gwaith fel ecstra. Hyd yn oed pan gaiff ran fel "actores iawn" mae'n dwyn offer o'r set.

    Yn gynnar iawn yn y nofel dysgwn ei bod yn dioddef o 'bwlimia' hefyd.

    Erbyn diwedd y nofel daw i sylweddoli pa mor unig yw ac mae'n ceisio lladd ei hun ond nid ydym yn siŵr a fu'n llwyddiannus ai beidio gan nad oes epilog i'r nofel.

    Mewn gwrthgyferbyniad â Non, er nad yw'n byw fel lleian, mae Nia'n gweithio mewn fferyllfa ac yn caru Jac.

    Mae ei thad yn marw dan amgylchiadau amheus a hynny'n peri i Non a hithau gyfamodi.

    Mae'n anghofio cymryd y bilsen a beichiogi - ac mae Jac a hi'n priodi. Mae'n dal i gysylltu â Non ac ar ddiwedd y nofel mae'n gadael neges i Non ar y ffôn yn dweud am enedigaeth ei merch, Gwenllïan.

    Dwy ar sedd
    Mae clawr y llyfr yn dangos dwy ferch yn eistedd un y naill ben a'r llall i sedd yn edrych dros Fae Ceredigion - yn arwydd o'r rhwyg rhyngddynt.

    Hyn yn dra gwahanol i glawr y llyfr cyntaf lle mae'r ddwy yn agos at ei gilydd mewn cyfeillgarwch.

    Mae'r nofel yn ddarllenadwy ond yn defnyddio tipyn o regfeydd a gallwn ddychmygu Bethan Gwanas a gwên fawr ar ei hwyneb wrth deipio'r rhegfeydd yn y nofel.

    Er hyn, ni fyddwm yn ei hargymell i neb dan 16 i'w darllen.

    Er mai dilyniant yw hon ni theimlais bod unrhyw reidrwydd darllen Hon yw fy ffrind i'w deall ond wedi ei darllen, cododd awydd arnaf i ddarllen y nofel gyntaf.

    Hoff awduron
    Pe byddai rhywun wedi fy holi cyn hyn, pwy yw fy hoff awdur Cymraeg, yr ateb fyddai T Llew Jones ac Islwyn Ffowc Elis ond ar ôl darllen Hi Oedd fy Ffrind rhaid ychwanegu enw Bethan Gwanas.

    Edrychaf ymlaen at lyfr newydd ganddi.

  • Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng BBC Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008

    Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Adolygiadau eraill


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewchi'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy