BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
News imageCymru'r Byd
News image
News imageLlais Llên
News imageAdolygiadau
News imageLlyfrau newydd
News imageAdnabod awdur
News imageGwerthu'n dda
News imageSôn amdanyntNews imagePwy di pwy?
News image
News imageY Talwrn
News image
News imageNewyddion
News imageChwaraeon
News imageY Tywydd
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeonadolygiadau a straeon
Dal dy Dir
LLyfr sy'n dipyn o Waw!
  • Adolygiad Carys Mair Davies o Dal dy Dir gan Iola Jôns. Gomer. £7.99

  • Wedi darllen Dal dy Dir gan Iola Jôns fe'm parlyswyd gan ryfeddod llwyr.
    Waw!

    Mae'r llyfr yn sôn am anturiaethau tair athrawes "barchus" sy'n caru bywyd, dynion a chwrw.

    Clawr y llyfr Y tair yw Glenys, Trudi a Mona.
    Daw Glenys o Sir Gaerfyrddin, Trudi o Ddolgellau a Mona o Sir Fôn.

    Mae'r stori'n cylchdroi o amgylch bywyd Mona - ac am fywyd yn wir!

    Fe hawliwyd fy sylw o'r cychwyn cyntaf a'r tair athrawes wedi swatio'n glyd yng ngwely Mona yn sôn am ddigwyddiadau'r noson cynt.

    Glenys a Trudi yn chwerthin o glywed Mona'n dwrdio ac yn bygwth wrth iddi arolygu'i gwddwg sy'n llawn 'cnoadau caru'.

    Gorffen yr olygfa yma gyda'r merched yn tyngu llw (am y canfed tro!) na fyddant byth yn yfed eto.

    Fe'm tynnwyd i'r sgwrs ddifyr hon ac fe wnaeth i mi deimlo'n rhan o'r miri a'r rhialtwch.

    Trychineb damwain
    Mwynheais fy hun i'r eithaf wrth ddarllen am yr anturiaethau lu mae'r tair yn eu rhannu - yn enwedig anturiaethau'r twmpath ddawns.

    Parha'r llyfr i olrhain bywyd y merched nes i ddigwyddiad erchyll chwalu eu bywydau am byth.

    Daw'r trobwynt yn hollol annisgwyl a'm bwrw innau oddi ar fy echel.

    Ar noswaith braf o haf, â'r athrawon yn uchel eu clych ar ôl sawl peint a dawns, dyma Glenys yn achosi damwain â chanlyniadau andwyol iddi.

    Yn dilyn marwolaeth Glenys bu farw Mona a Trudi hwythau yn emosiynol ac nid yw eu bywydau yr un peth byth eto.

    Daw llawer o ddigwyddiadau hunllefus, cyffrous, hapus a thrist i'w rhan a chawn ninnau ein tywys drwyddynt ac erbyn diwedd y nofel, teimlwn fy mod yn adnabod y cymeriadau fel petaent yn bobl go iawn.

    Mae marwolaeth Glenys yn creu agosatrwydd rhwng Trudi a Mona - yn dilyn sawl ffrae, fe gânt gwrdd â ffrindiau newydd a theulu Glenys a hynny'n diweddu gyda Trudi yn cwympo mewn cariad.

    Mae Mona hefyd yn cwympo mewn cariad â Harri Fôn a cholli ei gwyryfdod iddo.

    Ond y bore wedyn ni all gofio dim am gael rhyw a rhaid wynebu beichiogrwydd a phriodi Harri - nefoedd ar y ddaear iddi!

    Ond ar noson ei phriodas caiff wybod i'w phlentyn gael ei genhedlu oherwydd i ffrind ei gŵr roi cyffuriau yn ei diod y noson y collodd ei gwyryfdod!

    Yn y dyfodol
    Mae'r olygfa nesaf wedi'i gosod yn y dyfodol a Harri a Mona wedi magu tair merch, Esyllt, Dwynwen a Swyn - ond nid yw bywyd yn fêl i Mona - dydi o byth, nac ydi?!!

    Mae hi'n poeni fod Harri a'i hanner chwaer yn cael affêr ac wedi wythnosau o ddiffyg cwsg a phryder mae hi'n dal hanner chwaer ei gŵr yn ei gwely - ond nid â'i gŵr ond gyda'i chyflogwr - prifathro'r ysgol gynradd!

    Mae'r stori'n gorffen yn eithaf penagored gyda dyfodol Mona yn saff a Harri yn llyfu bodiau ei thraed!

    Er na fuaswn yn argymell i unrhyw un dan 13 ddarllen y nofel hon, oherwydd yr iaith liwgar, mae hi'n berffaith ar gyfer rhai hŷn sy'n chwilio am stori anhygoel y gellir uniaethu â hi mewn cymysgedd o dafodieithoedd.

    Mae'n cynnwys ychydig o fratiaith sy'n gweddu i'r dim at y steil arbennig ac er nad yw'r arddull yn hynod o farddonol na choeth mae yma ambell i gyffelybiaeth fan hyn ac ambell i drosiad fan draw.

    Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen Dal dy Dir gan Iola Jôns - neu difaru fyddwch chi!

    Canmolaf y llyfr i'r cymylau - ac y mae'n llawn haeddu'r ganmoliaeth.

    Llyfr gwych a threiddgar sy'n agos at fywyd bob dydd i oedolion.
    Fy neges? Peidiwch â cholli allan!!

  • Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng BBC Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008

    Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Adolygiad arall


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewchi'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy