|  |
 |  |  |  |  | |  | Cylchgronau Cymraeg - pryder prinder Os am gylchgrawn, rhaid troi at y Saesneg gan Dylan Davies, Pont-Tyweli, Llandysul Y penwythnos diwethaf penderfynais dwtio'r annibendod oedd yn yr ystafell wely. Ar ôl tair awr o glirio ac ar ôl cael gwared â hanner cant a mwy o gylchgronau sylwais nad oedd gen i yr un cylchgrawn Cymraeg yn fy nghasgliad. Pam hynny?
Ar ôl clirio, neidiais i'r car a bwrw am Gaerfyrddin ac wedi cydio mewn Top Gear a What Car? es ati i chwilio am gylchgronau moduro Cymraeg a sylwi nad oes cylchgronau Cymraeg yn ymwneud â diddordebau eraill ychwaith - pysgota, hwylio, rygbi, moduro ac yn y blaen.
I'r merched Troais fy sylw at ferched gan ofyn i Mam chwilio am gylchgronau arbenigol ar gyfer unrhyw oed yn yr iaith Gymraeg.
Oni bai am Golwg a chylchgronau eraill sy'n gysylltiedig â Golwg yr unig beth arall oedd Y Wawr - cylchgrawn Merched y Wawr.
Er tegwch a'r cylchgronau hyn, cylchgronau dosbarth canol ydy nhw - Y Wawr yn cael ei gyhoeddi unwaith bod chwarter.
Felly, dim ond Golwg sy'n cael ei gyhoeddi'n wythnosol.
Os yw merched am ddarllen 'rwts' arall, rhaid troi at yr iaith fain a darllen Pick Me Up, Bella ac ati.
Saesneg hefyd yw cylchgronau arbenigol mewn meysydd penodol fel Slimming World, Child Education; Farmers Weekly er bod Gwlad yn gyhoeddiad dwyieithog.
Tenau iawn yw'r cynnwys o gofio bod Farmers Weekly yn wythnosolyn a Gwlad yn fisolyn.
Does yna ddim cylchgronau defnyddiwr yn y Gymraeg, ychwaith, fel Which yn Saesneg.
Pwy fyddai'n prynu? Er taw prin iawn yw'r cylchgronau Cymraeg ar ôl oed cynradd tybed faint o ddiddordeb fyddai yna mewn rhai yn y meysydd hyn?
Peth arall, faint o bobl Gymraeg eu hiaith fyddai'n barod i brynu'r cylchgronau?
Byddai'n rhaid i'r gost fod yn gystadleuol gyda'r cylchgronau Saesneg a byddai'n rhaid i'r cynnwys fod yn ddiddorol ac yn lliwgar fel bod y dynfa tuag at y Gymraeg yn cryfhau ar ôl oed cynradd.
Byddai'n rhaid i'r cylchgronau cael ei marchnata yn iawn.
Dywed y rhai sy'n ymgyrchu dros y Gymraeg fod eisiau poblogeiddio'r iaith a dod â hi i fywyd bob dydd.
Efallai, y byddai cynhyrchu rhagor o gylchgronau Cymraeg a chynnwys neu gyhoeddi cylchgrawn arbennig dysgwyr yn poblogeiddio'r iaith ac yn help i'w hachub.
Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng BBC Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008
Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi
 |
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|  |
|  | |  | |  | |  | |  |  |  | Sôn amdanynt Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
|  |  |
|  | |  |  |  | Gair am air: Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?
|  |  |
|
|
|