BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
News imageCymru'r Byd
News image
News imageLlais Llên
News imageAdolygiadau
News imageLlyfrau newydd
News imageAdnabod awdur
News imageGwerthu'n dda
News imageSôn amdanyntNews imagePwy di pwy?
News image
News imageY Talwrn
News image
News imageNewyddion
News imageChwaraeon
News imageY Tywydd
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeonadolygiadau a straeon
Cam Wrth Gam
Crafangau'r ddiod
  • Adolygiad Lowri Rebecca Davies o Cam Wrth Gam gan Mari Emlyn.


  • Nofel yn ymdrin ag alcoholiaeth yw hon, pwnc dwys iawn byddech yn ei feddwl ar gyfer nofel gyntaf ond y mae Mari Emlyn yn haeddu pob canmoliaeth am y llyfr hwn.

    Clawr y llyfr Mae'n ein tywys ni i ganol byd gwraig barchus o'r enw Leusa, trwy ei dyddiadur.

    Ar yr wyneb, cawn ddarlun braf iawn o fywyd.

    Mae gan Leusa ŵr golygus, gyrfa lwyddiannus a thŷ moethus.

    Y bywyd delfrydol i rai mae'n siŵr.
    Ond y tu ôl i hyn mae darlun arall ac wrth i Mari Emlyn dreiddio i ganol y nofel, cawn wybod am y cwmwl du sy'n hedfan dros fywyd Leusa - alcoholiaeth ei mam.

    Mae cyflwr y fam, yn y diwedd, yn peri iddi guddio ei gwir deimladau a'i hemosiynau rhag pawb a hynny, o ganlyniad, yn cael effaith dyngedfennol ar ei phriodas.

    Wrth gwrs, cydymdeimlwn yn llwyr â Leusa wrth iddi ymhelaethu ar ei straen o orfod cuddio cyflwr ei mam a'r cywilydd a deimlir tuag ati.

    Fel y gallwch dybio, mae'n gosod naws hynod o drist i'r nofel.

    Rhaid canmol Mari Emlyn am nofel sy'n gofyn am gryn dipyn o ddealltwriaeth seicolegol wrth ymdrin â thema mor ddifrifol.

    Llwydda i ddenu'r ddarllenwr o'r cychwyn cyntaf a chawn ein taflu'n syth i fywyd dirdynnol Leusa, gyda'r geiriau, "Anghofia i fyth, fyth y noson honno."

    Dyma nofel rymus iawn, sydd yn llwyddo i gipio meddwl a dychymyg y ddarllenwr yn syth gyda'i chymeriadau realistig a phlot gwreiddiol yn cadw'r un lefel o sylw tan y llythyren olaf. Mae hi'n sicr yn un gwerth ei darllen!

  • Darparwyd y cyfraniad hwn fel rhan o Gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng BBC Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008

    Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi

  • Adolygiad ar Gwales Cliciwch



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewchi'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy